Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

 Ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddais ddatganiad fy mod o blaid mynd i'r afael â llygredd nitradau ar lefel Cymru gyfan.

Eleni, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer a graddfeydd yr achosion o lygredd amaethyddol, gan niweidio'r amgylchedd ac enw da'r diwydiant.  Yr un mor niweidiol, yng nghyd-destun Brexit, yw’r effaith a gaiff digwyddiadau o’r fath ar y gwaith sydd ar y gweill ar roi Gwerthoedd Brand Cynaliadwy i Gynnyrch o Gymru.  

A'r gaeaf bellach ar ein gwarthaf, rwyf eisoes yn derbyn adroddiadau o ragor o achosion o wasgaru slyri mewn tywydd anaddas.   Nid yw pob achos o wasgaru slyri yn beth drwg, ond mae’n rhaid ei wneud yn gyfreithiol i osgoi canlyniadau o’r fath.    

Mae’r arfer gwael hwn yn golygu bod rhannau o’n hafonydd yn gwbl ddi-bysgod.  Mae’n rhaid diogelu ein cymunedau gwledig, sy'n ddibynnol ar dwristiaeth, pysgota a diwydiannau bwyd.  Mae’n rhaid inni hefyd warchod yr 80,000 o bobl yng Nghymru sy'n dibynnu ar gyflenwadau dŵr preifat.  

Rwyf wedi ystyried yr angen i sicrhau'r cydbwysedd cywir o reoliadau, cymhellion gwirfoddol a buddsoddiad i ddatrys llygredd amaethyddol. Rwyf wedi gwrando ar farn rhanddeiliaid ac wedi ystyried yr adroddiadau a gynhyrchwyd gan is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru, Cyswllt Amgylchedd Cymru a Chronfa Natur y Byd, Ymddiriedolaeth yr Afonydd a'r Ymddiriedolaethau Genweirio. Rwyf wedi ystyried hefyd yr ymatebion i'r ymgynghoriadau ar Barthau Perygl Nitradau, storio slyri a silwair a rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yng Nghymru.

O bwys arbennig yw pa mor dda y mae’r rhanddeiliaid wedi dod ynghyd yn is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru.  Mae’r grŵp yn gwneud gwaith gwerthfawr ac rwy’n gweld swyddogaeth barhaus iddo i gynorthwyo yn y gwaith o roi’r camau yr wyf yn eu cyhoeddi ar waith.

Yn yr hirdymor, byddwn yn datblygu ein rheoliadau sylfaenol, gyda'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar Brexit a'n Tir yn eu llywio.  Yn y tymor byr, yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf, byddaf yn cyflwyno rheoliadau i fynd i’r afael â llygredd amaethyddol.  Bydd hynny'n effeithio ar Gymru gyfan i ddiogelu ansawdd dŵr rhag gormodedd o faethynnau. Daw'r rheoliadau i rym ym mis Ionawr 2020, gyda cyfnod pontio ar gyfer rhai elfennau i roi amser i  ffermwyr i addasu a sicrhau eu bod yn cydymffurfio. Bydd y rheoliadau'n cynnwys y mesurau canlynol:

  • Cynlluniau rheoli maethynnau; 
  • Gwrteithio cynaliadwy sy'n gysylltiedig â gofynion y cnwd; 
  • Diogelu dŵr rhag llygredd sy'n gysylltiedig â phryd, ble a sut y caiff gwrtaith ei wasgaru; a 
  • Safonau storio tail. 
Bydd y rheoliadau'n atgynhyrchu'r arferion da y mae’r mwyafrif o ffermwyr ledled y wlad eisoes yn eu dilyn wrth eu gwaith bob dydd – ac ychydig o newid fydd iddynt hwy o ganlyniad i’m datganiad.  

Mae’n rhaid i arfer da ddod yn ddigwyddiad rheolaidd ar fyrder ar draws y diwydiant amaethyddol yn gyffredinol.  Mae cymorth a chyngor i helpu i gyflawni hyn ar gael drwy Cyswllt Ffermio a’n Grant Cynhyrchu Cynaliadwy.  Rwyf eisoes wedi sicrhau bod £6 miliwn ar gael drwy’r Grant Cynhyrchu Cynaliadwy sy’n ceisio cefnogi y broses o atal llygredd amaethyddol a rheoli maethynnau.  Mae’r buddsoddiad hwn yn hollbwysig.  

Bydd y rheoliadau newydd yn sicrhau y bydd modd gorfodi hyn mewn dull gadarn, cyson ac effeithiol wrth i’r diwydiant a llywodraeth weithio ochr yn ocrh i fynd i’r afael â’r problemau sylweddol yr ydym yn eu hwynebu.  Byddant yn helpu i greu gwelliannau, gan osgoi rhwystrau posibl i fasnachu cynnyrch amaethyddol gyda’r Undeb Ewropeaidd wedi i’r DU ymadael â’r UE ac ar yr un pryd bod o gymorth inni gyflawni ein rhwymedigaethau cenedlaethol a rhyngwladol ar ansawdd dŵr.