Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn ein Rhaglen Lywodraethu, mae’n addas ein bod yn canolbwyntio ar drechu tlodi a hybu swyddi a thwf. Mae llyfrgelloedd yn ganolog i’r agenda hon. Maent yn darparu gwasanaeth cymunedol hanfodol i bobl o bob oed ac yn rhan annatod o gymdeithas wâr. Rwy’n benderfynol o gydweithio â chyrff eraill i ddatblygu fframwaith strategol cynaliadwy ar gyfer darparu gwasanaethau llyfrgell i Gymru yn y dyfodol. Mae angen llyfrgelloedd arnom yn fwy nag erioed er mwyn cynnig cyfleoedd i hyrwyddo llythrennedd, darparu mynediad i wasanaethau digidol di-dâl a chynnig llefydd cyhoeddus diogel lle gall y gymuned gyfan gwrdd. Mewn gwybodaeth mae grym, ac mae llyfrgelloedd yn adnodd gwych sy’n galluogi pobl i wneud gwir wahaniaeth i’w bywydau.

Dim ond Cymru yn y DU sydd â fframwaith strategol ar gyfer datblygu gwasanaethau llyfrgell. Mae’r strategaeth bresennol, Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli, yn parhau tan 2016. Ers 2004 mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £20 miliwn er mwyn cefnogi ein llyfrgelloedd lleol, datblygu gwasanaethau newydd a moderneiddio cyfleusterau cymunedol i ddenu cynulleidfaoedd newydd. Yn gynyddol mae llyfrgelloedd wedi’u cydleoli â gwasanaethau cymunedol eraill, sy’n gwella mynediad a rhannu’r costau. Mae Llywodraeth Cymru’n parhau’n flynyddol i fonitro perfformiad awdurdodau lleol, o ran darparu gwasanaethau llyfrgell trwy Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru. O ganlyniad, mae’r defnydd o lyfrgelloedd yng Nghymru wedi mwy na dal ei dir o’i gymharu â gweddill y DU dros y ddeng mlynedd ddiwethaf.

Mae’r bartneriaeth i ddarparu gwasanaethau arloesol yng Nghymru yn ymestyn i gynnwys addysg bellach, addysg uwch a’n Llyfrgell Genedlaethol. Yr wythnos diwethaf, lansiais bartneriaeth rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae hyn yn amlygu pa mor effeithiol yw cydweithio rhwng ein sefydliadau diwylliannol cenedlaethol a sefydliadau lleol, gan ddarparu mwy i bobl ledled Cymru. Yn y dyfodol agos, gyda'r Gweinidog Addysg a Sgiliau, byddaf yn lansio cynllun peilot i ganiatáu i bob plentyn ymaelodi â’i lyfrgell leol. Rydym eisiau i blant heddiw a chenedlaethau'r dyfodol barhau i elwa ar lyfrgelloedd rhagorol.

Mae’n gyfnod ariannol anodd i awdurdodau lleol ac rwy'n cydnabod y pwysau dwys sydd ar gynghorau wrth wneud penderfyniadau anodd. Mae fy swyddogion yn cydweithio'n agos â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i fagu gwell dealltwriaeth er mwyn  targedu cymorth yn well. Mewn amgylchiadau o’r fath, mae'n bwysicach fyth i roi arweinyddiaeth i gryfhau ein gallu i gynnal a datblygu gwasanaethau llyfrgell effeithiol.

Mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn wasanaeth statudol dan Ddeddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964, ac rwy’n disgwyl i awdurdodau lleol gymryd i ystyriaeth eu cyfrifoldebau statudol i ddarparu gwasanaethau ‘cynhwysfawr ac effeithiol’ wrth osod eu cyllidebau ar gyfer y dyfodol.  Mae Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru yn cynnig fframwaith perfformiad ar gyfer darparu gwasanaethau llyfrgell a bydd fy swyddogion yn monitro’n agos effaith unrhyw newidiadau i ddarpariaeth yn erbyn y safonau a gytunwyd. Rwy’n disgwyl i awdurdodau lleol ymgynghori’n llawn â’u cymunedau a chynnal asesiadau effaith ar unrhyw newidiadau i’r ddarpariaeth bresennol.

Fel rhan o fy rôl statudol i oruchwylio gwasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus a hyrwyddo gwelliannau iddynt, byddaf yn comisiynu, yn y Flwyddyn Newydd, adolygiad gan arbenigwr o gynlluniau awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus heddiw ac yn y dyfodol. Y nod fydd dod o hyd i fodelau cynaliadwy sy'n sicrhau bod cymaint o gyfleoedd â phosib ar gyfer cydweithio, meithrin partneriaethau ac arloesi. Bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried modelau newydd ar gyfer caffael deunyddiau ac ymgymryd â swyddogaethau gweithredol; gan gynnwys ehangu ar arferion da presennol, fel rôl Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gydlynu adnoddau digidol ar ran llyfrgelloedd Cymru.

Byddaf yn cyhoeddi cylch gorchwyl yr adolygiad gyda hyn ac rwy’n rhagweld y byddaf yn derbyn argymhellion yr adolygiad ddiwedd Gwanwyn 2014. Bydd angen i’r adolygiad ystyried unrhyw argymhellion a gyhoeddir gan Y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus a’r adroddiad arfaethedig ar lyfrgelloedd cyhoeddus gan Bwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Fy mwriad yw sicrhau bod pobl ar draws Cymru'n elwa ar wasanaeth llyfrgelloedd cadarn a chynaliadwy, sy’n ymateb i anghenion pobl Cymru; llyfrgelloedd sydd wedi'u rheoli'n dda, sy’n effeithlon yn ariannol ac sy’n cael eu rhedeg yn broffesiynol. Brwydrodd pobl Cymru'n galed i sefydlu gwasanaeth llyfrgell rhad ac am ddim. Mae gofyn inni sicrhau bod y gwerthoedd hynny yn parhau i fod yn sail gadarn ar gyfer gwasanaethau llyfrgell y dyfodol.