Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae ein llyfrgelloedd cyhoeddus yn hanfodol i strategaethau Llywodraeth Cymru, polisi a throsglwyddiad gwybodaeth a sgiliau, addysg a datblygu cymunedol.  Ar 3 Rhagfyr, cyhoeddais adolygiad arbenigol o gynlluniau presennol llywodraeth leol, ynghyd â’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol, i ddarparu gwasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus.   Hoffwn ddiweddaru’r aelodau ar yr hyn a wnaed ers hynny i sefydlu’r panel adolygiad arbenigol a fydd yn adrodd yn ôl erbyn mis Gorffennaf 2014. I gefnogi’r adolygiad, bydd fy swyddogion yn CyMAL yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Bydd y  panel hefyd yn ystyried gwaith yr ymchwiliad byr ar lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

Ymgymerir â’r adolygiad gan banel cyfeiriol bychan dan gadeiryddiaeth Claire Creaser, Cyfaryddwr LISU, Prifysgol Loughborough. Mae Claire yn arbenigo ar fesurau perfformiad llyfrgelloedd ac wedi arwain ar ddatblygu’r Fframwaith diweddaraf ar Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru. Aelodau eraill o’r panel yw’r Athro Hywel Roberts, arbenigwr cydnabyddedig ar lyfrgelloedd yng Nghymru; Dr. Steve Davies, Prifysgol Caerdydd sydd â diddordeb arbennig mewn rheolaeth llyfrgelloedd cymunedol; a Peter Gomer, Swyddog Polisi gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sydd â phrofiad eang ym maes rheoli gwasanaethau diwylliant a hamdden mewn llywodraeth leol. Gofynnir i’r panel gynhyrchu ei adroddiad erbyn mis Gorffennaf 2014. Rwy’n ddiolchgar i’r Cadeirydd ac aelodau’r panel am gytuno i wneud y gwaith pwysig yma.

Yn gyntaf fe fydd y panel yn adolygu’r sefyllfa bresennol ynglŷn â chynlluniau llywodraeth leol i ddarparu gwasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus. Bydd yr wybodaeth yn cael ei chasglu oddi wrth bob awdurdod lleol a bydd ymchwil pellach yn cael ei gomisiynu ar effaith debygol y newidiadau arfaethedig ar allu’r gwasanaethau llyfrgelloedd i gwrdd ag anghenion y Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus cyfredol. Bydd dadansoddiad a fydd yn cymharu’r sefyllfa yng Nghymru â gwasanaethau cyhoeddus cenedlaethol eraill y tu allan i Gymru, ar gael i’r panel hefyd. Bydd casgliadau’r panel yn cael eu cynnwys yn ei adroddiad y bydd yn cynnwys amlinelliad o’r sefyllfa yng Nghymru gyfan gan dynnu sylw at arferion gorau ac agweddau sy’n peri pryder.

Wrth ystyried y sefyllfa ar sail Cymru gyfan, bydd angen i’r panel ystyried a ellid defnyddio modelau amgen o ddarparu gwasanaeth mwy effeithiol ac effeithlon, yn seiliedig ar gydweithio a chydbwrcasu.  

Bydd yr arolwg hefyd yn ystyried cyfleoedd i gydweithio â’r Llyfrgell Genedlaethol i gryfhau rheoli a darparu gwasanaethau digidol. Mae llyfrgelloedd wedi bod yn rhan hanfodol o fywyd cymunedol yng Nghymru ers dros 150 o flynyddoedd gan gynnig lle diogel i astudio, pori adnoddau a chymryd rhan mewn bywyd lleol. Mae’r chwyldro digidol yn cynnig dulliau newydd o gael hyd i wybodaeth ac mae amgen i ni sicrhau fod llyfrgelloedd yn dal i ddarparu gwasanaethau sy’n berthnasol i anghenion yr unfed ganrif ar hugain. Rwy’n benderfynol o sicrhau fod pawb yng Nghymru, yn arbennig ein cymunedau difreintiedig, yn parhau i elwa ar gael mynediad am ddim at adnoddau digidol. Gyda Llywodraeth y DU yn cyflwyno cynlluniau digidol ar gyfer budd-dal lles, mae’n hanfodol bod pobl Cymru yn gallu defnyddio eu llyfrgell leol i gael mynediad at wybodaeth ac i gyflwyno eu ceisiadau.


Ers 2004, Mae Llywodraeth Cymru trwy ei hi-sadran CyMAL wedi defnyddio dulliau strategol o ddatblygu gwasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus mewn partneriaeth â llywodraeth leol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae dros £20 miliwn wedi’i fuddsoddi er mwyn gwella llyfrgelloedd lleol, datblygu gwasanaethau digidol cenedlaethol, rhaglen hyfforddi genedlaethol a hybu partneriaethau rhanbarthol. O ganlyniad, mae Cymru wedi arwain y ffordd yn y DU wrth gyflwyno strategaeth genedlaethol ar gyfer llyfrgelloedd. Rwy’n bwriadau defnyddio casgliadau adroddiad y panel arbenigol yn sail i ddatblygu ein strategaeth genedlaethol nesaf ar gyfer 2016 ymlaen.