Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a Phrif Chwip
Rhoddodd Meri Huws y gorau i’w rolau fel Llywydd Dros Dro, Is-Lywydd ac ymddiredolwr gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru ddechrau Awst.
Hoffwn roi gwybod i Aelodau ynghylch apwyntiad Ashok Ahir fel Llywydd Dros Dro newydd Bwrdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae Ashok yn ychwanegiad gwerthfawr i’r Bwrdd, a hoffwn ddiolch iddo am gytuno i ymgymryd â’r rôl tra byddwn yn recriwtio Llywydd newydd. Bydd yr ymgyrch i recriwtio Llywydd yn dechrau heddiw, ac rydym yn gobeithio y bydd y penodiad wedi ei gwblhau erbyn Gwanwyn 2022.
Mae gan Ashok brofiad sylweddol yn sectorau y celfyddydau a diwylliant, ac mae’n siaradwr Cymraeg rhugl. Bydd yn ymgymryd â’r rôl mewn cyfnod pwysig i’r Llyfrgell, gan arwain y Bwrdd a gweithio ochr yn ochr ag uwch swyddogion y Llyfrgell a Llywodraeth Cymru wrth weithredu argymhellion yr Adolygiad Teilwredig.
Bu Meri Huws yn ffrind, yn eiriolwr ac yn hyrwyddwr i’r Llyfrgell tra’n gweithredu fel Llywydd Dros Dro yn ystod un o’r cyfnodau mwyaf heriol yn hanes y sefydliad, a hoffwn ddiolch iddi am ei hymroddiad wrth iddi ymgymryd â’r sialens honno.