Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r adroddiad diweddar (Saesneg yn Unig) gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ar lwybrau a phontio mewn addysg uwchradd ("What Shapes Pathways and Transitions? A Comparative Perspective on Learners’ Trajectories through Upper Secondary Education in Wales). Mae'r adroddiad yn benllanw partneriaeth dwy flynedd rhwng Llywodraeth Cymru a'r OECD, sydd wedi cynnwys datblygu'r ymchwil gymharol hon a thrafodaethau dysgu gan gymheiriaid gyda gwledydd eraill yr OECD. Mae'n pwysleisio ein hymrwymiad parhaus i bolisi addysg Cymru gael ei lunio ar sail tystiolaeth a'r arferion gorau sy'n bodoli yn rhyngwladol, er mwyn gwella canlyniadau i'n dysgwyr.

Mae ein gwaith gyda'r OECD a'r gwledydd eraill sy'n aelodau eisoes wedi'i ddefnyddio i lywio a gwella ein polisi ar ddysgu 14-16. Llywiwyd yr hawl i ddysgu 14-16 oed – y dysgu y bydd pob dysgwr ym mlwyddyn 10 ac 11 yn elwa ohono o dan y Cwricwlwm i Gymru – gan ganfyddiadau'r OECD. Yn yr un modd, mae gwaith yr OECD yn dangos yn glir i mi bwysigrwydd cynllunio ôl-16 ac addysg gyrfaoedd o ansawdd uchel ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed yng Nghymru, o ystyried arwyddocâd y pontio y mae dysgwyr yn ei wneud yn 16 oed ar ôl diwedd addysg ysgol orfodol. Felly, mae cynllunio ôl-16 yn cael ei gynnwys fel elfen ar wahân o hawl y dysgwr, fel bod gan bob dysgwr amser i ystyried a chael eu cefnogi i gynllunio eu llwybrau ôl-16, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cymryd rhan yn llwyddiannus mewn addysg ôl-16.

Mae angen i'r gwaith hwn gael ei ddefnyddio i helpu i lunio ein gwelliannau i addysg 16 i 19, gan ychwanegu at y cyfleoedd a ddarparwyd wrth sefydlu Medr y llynedd. Fel man cychwyn, byddwn yn cydweithio â phartneriaid i adnewyddu'r canllawiau ar gwricwla lleol ar gyfer myfyrwyr 16 i 19 oed. Bydd y canllawiau hyn yn parhau i bwysleisio pwysigrwydd rhoi mynediad i ddysgwyr at ystod eang o gyrsiau astudio – yn gyrsiau academaidd a galwedigaethol – a rôl ysgolion, colegau addysg bellach, awdurdodau lleol a Medr wrth gyflawni hynny. Ond rwyf hefyd eisiau archwilio, gyda phartneriaid, sut i gyfoethogi'r profiad dysgu ehangach i ddisgyblion rhwng 16 a 19 oed, gan gefnogi ein blaenoriaeth o gynyddu cyfranogiad mewn addysg bellach ac addysg uwch, a sicrhau bod cryfderau'r Cwricwlwm i Gymru yn parhau i fod o fudd i ddysgwyr wrth iddynt symud ymlaen i lwybrau ôl-16 mwy arbenigol.

Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau wrth i’r gwaith fynd rhagddo.