Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae llwybr cenedlaethol ar gyfer sgrinio'r clyw i blant ifanc yn yr ysgol wedi'i ddatblygu i'w roi ar waith ledled Cymru. Mae'r model newydd ar gyfer gwasanaethau'n darparu  llwybr clir i sicrhau bod prawf sgrinio'r clyw'n cael ei gynnig i  i bob plentyn yn y flwyddyn ysgol y mae'n cyrraedd pump oed.

Gall byddardod neu nam ar y clyw ar unrhyw oedran gael effaith negyddol ar lefelau cyfathrebu a gwneud u bobl deimlo eu bod wedi'u hynysu rhag y byd o'u cwmpas. Mae'n hanfodol canfod colled i’r clyw ymhlith plant ifanc cyn gynted â phosibl er mwyn darparu'r gofal a chymorth iawn ac i sicrhau y gallant gyfathrebu'n effeithiol i gyrraedd eu potensial addysgol a chymdeithasol a'u potensial o ran cyflogaeth yn llawn.

Yn 2017, lansiais y Fframwaith Gweithredu i Gymru, sef ‘Fframwaith Gofal a chymorth integredig ar gyfer pobl sy’n F/fyddar neu sy’n byw â cholled clyw’.  Mae'r fframwaith yn anelu at ddilyn hynt bywyd o sgrinio babanodd newydd-anedig a phlant i oedolion a phobl hŷn. Datblygwyd Llwybr Sgrinio'r Clyw i Blant Ifanc yn yr Ysgol gan grŵp gorchwyl a gorffen Fframwaith Gweithredu, gan ddefnyddio arbenigedd a sgiliau byd addysg, y trydydd sector, nyrsio, awdioleg a llywodraeth leol i werthuso ystod eang o dystiolaeth a gwybodaeth i ddatblygu'r llwybr i:

  • galluogi byrddau iechyd i ddarparu gwasanaethau darbodus ac effeithiol sy'n cydymffurfio ag argymhelliad Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU ar gyfer sgrinio'r clyw mewn plant.
  • Manteisio ar y broses ar gyfer sgrinio'r clyw i blant ifanc yn yr ysgol gan ddefnyddio safonau sydd wedi ennill eu plwyf, personél, hyfforddiant, Cyfleusterau a chasglu data yn unol â'r Safonau Ansawdd Awdioleg cenedlaethol.
  • Cynorthwyo yn yr archwiliad cenedlaethol o sut y mae plant â nam ar eu clyw yn cael eu nodi yn dilyn sgrinio babanod newydd a'r sgrinio yn yr ysgol, i lywio datblygu llwybrau gofal clyw.
  • Integreiddio'r broses sgrinio a diagnostig â nodi a Rheoli Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Mae'n galondid imi y bydd y gwasanaeth yng Nghymru ar gael ym mhob un o'r saith bwrdd iechyd o ystyried bod darpariaeth sgrinio'r clyw i blant ifanc yn yr ysgol wedi dod i ben mewn ardaloedd eraill yn y DU.

Caiff y llwybr ei werthuso gan Benaethiaid Gwasanaeth ym maes awdioleg ar ôl iddo fod ar waith am flwyddyn ac fe gaiff ei addasu yn ôl yr angen mewn ymateb i'r canfyddiadau.

Hoffwn ddiolch i bawb a fu'n rhan o ddatblygiad llwyddiannus y llwybr. Mae eu cyfraniad at fodloni'r canlyniadau ymestynnol a nodir yn “Cymru Iachach”, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r Fframwaith Gweithredu wedi bod yn allweddol yn hyn o beth, a bydd y llwybr hwn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i blant yng Nghymru.