Lesley Griffiths MS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Heddiw mae'r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd (PNH) wedi cyhoeddi ei adroddiad cynnydd ar gyfer Cymru a'i gyngor ar gyfer llwybr allyriadau Cymru hyd at 2050. Gan ddefnyddio'r data diweddaraf hyd at 2018, mae y PNH yn cydnabod bod Cymru ar y trywydd iawn i fodloni Cyllideb Garbon 1 (2016-20) ar yr amod nad yw allyriadau'n cynyddu yn 2019 a 2020.
Y llynedd, cyngor y PNH oedd mai'r uchelgais uchaf posibl i Gymru oedd gostyngiad o 95% mewn allyriadau erbyn 2050. Ar sail y dystiolaeth a'u dadansoddiad roeddent yn glir na ddylem anelu'n is na'r targed hwnnw ond yn yr un ffordd ni fyddai anelu'n uwch yn gredadwy. Derbyniais y cyngor ac ymrwymais i gynyddu targed Cymru ar gyfer lleihau allyriadau 2050 o 80% i 95% yn unol â'u hargymhelliad. Byddai hyn yn cynrychioli cyfraniad teg Cymru i rwymedigaethau'r DU o dan Gytundeb Paris ac yn gwneud cyfraniad sy'n gyfartal â rhai gwledydd eraill y DU tuag at nod sero net a rennir.
O ran derbyn y cyngor, yr oeddwn hefyd yn glir y dylai ein huchelgais yng Nghymru fod yn unol ag ysbryd Cytundeb Paris lle y dylai gwledydd cyfoethocach, datblygedig osod targed sero net yn ôl y gyfraith erbyn canol y ganrif hon. Ar y sail hon a thros y flwyddyn ddiwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda PNH a rhanddeiliaid o Gymru i ddefnyddio tystiolaeth a dadansoddiadau pellach i brofi hygrededd yr uchelgais hwn. Mae'r cyngor gan y PNH heddiw yn glir ar sail tystiolaeth a dadansoddiad annibynnol y gallant gadarnhau bod llwybr credadwy, dichonadwy a fforddiadwy i sero net i Gymru erbyn 2050.
Mae'r ddeialog hon rhwng y PNH a'r rhai, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, sy'n dymuno codi uchelgais gweithredu Cymru ar yr hinsawdd yn adlewyrchu'r egwyddor o ddilyniant yng Nghytundeb Paris. Wrth bennu llwybr mwy uchelgeisiol i Gymru ni fyddwn yn cymryd yr opsiwn hawdd o benderfynu drosom ein hunain ar flynyddoedd targed deniadol yn y dyfodol, dim ond i adael y cwestiwn sut y gellir ei gyflwyno'n gredadwy i weinyddiaethau a chenedlaethau'r dyfodol. Yn hytrach na chymryd yr opsiwn hawdd hwnnw, rydym wedi parhau'n ymrwymedig i graffu'n annibynnol ar y PNH. Wrth wneud hynny, rydym yn creu sylfaen gadarn i adeiladu Cymru carbon isel.
Byddwn nawr yn ystyried y cyngor, ynghyd â thystiolaeth arall fel sy'n ofynnol gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Rwy'n bwriadu dod â rheoliadau i'r Senedd ddechrau'r flwyddyn nesaf i ddiweddaru llwybr lleihau allyriadau Cymru i osod llwybr ar sero net, ymhell cyn Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, COP26 (COP26) ym mis Tachwedd. Bydd cynnydd o ran lleihau allyriadau yng Nghymru yn dibynnu ar weithredu carlam gan lywodraethau yng Nghaerdydd a San Steffan, busnesau a chymunedau; i lwyddo rhaid iddo fod yn ddull tîm Cymru.
Wythnos diwethaf, adroddodd y Cenhedloedd Unedig fod yr addewidion presennol o dan Gytundeb Paris yn rhoi'r byd ar y llwybr at gynnydd o 3.2°C y ganrif hon, hyd yn oed os ydynt i gyd yn cael eu cyflawni'n llawn. Gallai effaith y lefel hon o gynhesu achosi digwyddiadau tywydd eithafol mwy dinistriol fyth yng Nghymru, allai ddadeoli cannoedd o filiynau o bobl ledled y byd, a gallai achosi niwed na ellir ei ddad-wneud i'r ecosystemau mwyaf eiconig a hanfodol yng Nghymru a drwy’r byd cyfan. Yn y cyd-destun hwn, bydd pob gostyngiad ychwanegol mewn allyriadau y gallwn eu cyflawni yn gwneud gwahaniaeth i'r byd y byddwn yn ei drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol. Gall y camau a gymerwn yng Nghymru fod yn gyfraniad i'r frwydr fyd-eang yn erbyn newid trychinebus yn yr hinsawdd yn ogystal â lleihau'r allyriadau a gynhyrchir o fewn ein ffiniau ein hunain.
Yn y cyd-destun hwn rydym yn croesawu'r her a gyflwynwyd i ni gan y PNH yn eu cyngor. Maent yn dweud wrthym mai'r 2020au fydd y "ddegawd bendant" a dylai ein cynllun ar gyfer yr ail gyllideb garbon a gyhoeddir yn 2021 ganolbwyntio ar yr angen i "berfformio'n well" o ran y gostyngiad cyfartalog o 37% a argymhellir mewn allyriadau, gan anelu at ostyngiad cyfartalog o 58% drwy'r drydedd gyllideb garbon hyd at 2030, er mwyn gosod Cymru ar y llwybr i sero net erbyn 2050.
Byddwn yn parhau i ddilyn yr egwyddor o ddilyniant, gan weithio gyda'r PNH a gyda partneriaid a chymunedau yng Nghymru i nodi ffyrdd y gall Cymru wneud cyfraniad mwy fyth i'r ymateb byd-eang i'r argyfwng hinsawdd.
Mae'r PNH hefyd yn glir bod rhaid gwneud mwy i gyflawni ein rhwymedigaethau presennol. Mae'r PNH wedi canmol y ffordd rydym wedi integreiddio ein hymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur yn llawn yn ein blaenoriaethau ar gyfer ailadeiladu ein heconomi yn sgil pandemig covid-19. Maent yn tynnu sylw at ein record byd o ran ailgylchu, ein rôl ragweithiol o ran cefnogi'r defnydd o ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr yng Nghymru, a'n huchelgeisiau ar gyfer ein strategaeth drafnidiaeth newydd.
Mae hefyd fylchau amlwg o hyd, yn enwedig ble mae angen dull gydlynol ledled y DU, a ble mae'r cyfrifoldeb dros reoleiddio allyriadau yn nwylo llywodraeth San Steffan. Mae meysydd yn nwylo Llywodraeth Cymru hefyd ble mae'n rhaid gweld cynnydd llawer cyflymach, gan gynnwys cyfraddau plannu coed a lleihau allyriadau o amaethyddiaeth. Rhaid i'r meysydd hyn fod yn ffocws penodol i Lywodraeth Cymru a holl randdeiliaid Cymru wrth inni baratoi i osod targedau llymach fyth ar gyfer rheoleiddio gerbron y Senedd ddechrau'r flwyddyn nesaf.
Mae cyngor y PNH o'r safon uchaf posibl, ond mae'n anochel yn golygu bod rhagdybiaethau i'w gwneud, gan adlewyrchu ansicrwydd na all unrhyw lefel o ddadansoddi ei oresgyn yn llwyr. Mae'r rhain yn cynnwys pa mor barod fyddwn ni i newid ein ffyrdd o fyw – ein cartrefi, ein deiet, ein harferion teithio – a chyfradd a llwyddiant arloesedd technolegol i ddisodli'r technolegau carbon-ddwys yr ydym yn dibynnu arnynt ar hyn o bryd. Yn yr ystyr hwn, ni wyddom sut ddyfodol fydd, a'n cyfrifoldeb i genedlaethau'r dyfodol yw ei lunio er gwell.
Ein hymrwymiad fel llywodraeth yw cefnogi uchelgais uchaf posibl Cymru yn ein hymateb i'r argyfwngau hinsawdd a natur. Rydym wedi cymryd camau, sy'n gwthio terfyn ein pwerau datganoledig:
• Rydym wedi defnyddio dull llunio'r farchnad o ddatblygu tai di-garbon a datgarboneiddio cartrefi sy'n bodoli eisoes, drwy safleoedd rhaglenni enghreifftiol o dan arweiniad y sector cyhoeddus sy'n dangos yr hyn sy'n bosibl i'r farchnad.
• Yn ystod y pandemig, rydym wedi ehangu ein cronfa economi gylchol fwy na 300% i gefnogi Cymru i symud y tu hwnt i ailgylchu, fel rhan ohoni rydym yn buddsoddi mewn seilwaith canol trefi i gynyddu ailddefnyddio ac atgyweirio.
• Rydym wedi parhau i weithio mewn undod rhyngwladol â chymunedau yng Nghymru, Uganda ac mewn mannau eraill i ddiogelu ardal o fforestydd glaw ddwywaith maint Cymru, a'r llynedd plannodd ymgyrchwyr ieuenctid o Gymru ac Uganda goed ar yr un pryd i ddathlu plannu'r deg miliwnfed coeden ym Mhrosiect Plannu Coed Mbale yn Uganda.
• Er mwyn cadw'r manteision cadarnhaol a welsom gan fwy o bobl yn gweithio gartref, ein nod yw cael 30% o bobl yn gweithio o bell yn y dyfodol. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag undebau llafur a busnesau i sicrhau bod y cymorth a'r cyfleusterau cywir ar waith.
• Rydym wedi ariannu busnesau o bob math yng Nghymru i leihau eu hallyriadau drwy raglenni fel rhaglen SMART Cymru a ariennir gan yr UE sy'n darparu grantiau o hyd at £50,000.
• Cynhaliwyd Wythnos Hinsawdd gyntaf Cymru ym mis Tachwedd, gyda mwy na 2000 o bobl yn cymryd rhan i wneud eu cyfraniad at gynllun Cymru gyfan ble mae ymrwymiadau'r llywodraeth yn cyd-fynd ag ymrwymiadau gan gyrff cyhoeddus eraill, gan fusnesau a chan gymunedau.
Lle'r ydym wedi gweld llwyddiant o ran lleihau allyriadau, mae wedi cynnwys ymdrechion cydweithredol ar bob lefel, o gartrefi a chymunedau'n gwneud newidiadau yn ogystal â busnesau a chyrff cyhoeddus yn creu'r amgylchiadau sy'n galluogi'r newidiadau hynny. Mae'r math hwn o gydweithio yn ein galluogi i gyflawni cynnydd cadarnhaol y tu hwnt i derfynau pwerau datganoledig, i sicrhau newid sy'n mynd y tu hwnt i unrhyw beth y gall tystiolaeth o'r gorffennol ei ddweud wrthym yn hyderus, ac i hwyluso trawsnewidiad economaidd y tu hwnt i'r hyn y gellir ei gyflawni drwy rym rheoleiddio yn unig.
Byddwn yn annog pawb sy'n rhannu ein hymrwymiad i ymateb sy'n arwain y byd i'r argyfwng hinsawdd yng Nghymru, i ystyried drostynt eu hunain gyngor y PNH a'r heriau i Gymru sydd ynddo, i weithio gyda ni i gyflymu ein camau gweithredu ar yr hinsawdd, ac i weithio gyda ni i nodi'r meysydd hynny lle gallwn fynd ymhellach fyth drwy ymdrech ar y cyd.