Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AC, Y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai Bil y Cwricwlwm (Cymru) yn cael ei ddwyn ymlaen yn ystod gweddill tymor y Cynulliad hwn.

Ar 11 Gorffennaf cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion a dderbyniwyd i ymgynghoriad y Papur Gwyn, Cenhadaeth ein Cenedl: Cwricwlwm Gweddnewidiol (Ionawr 2019). Mae'r dystiolaeth a gasglwyd a'n gwaith parhaus gyda phartneriaid allweddol yn sail hanfodol i’n polisi ac yn hollbwysig o ran sicrhau bod y ddeddfwriaeth arfaethedig yn cefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer y cwricwlwm newydd yn llawn.

Yn yr adborth i’r ymgynghoriad, pwysleisiwyd bod angen i’r Bil arfaethedig fynegi’n fwy eglur y disgwyliadau ar ysgolion i sicrhau dysgu eang ac i gefnogi cynnydd dysgwyr yn y Cwricwlwm i Gymru 2022. Rwyf felly’n bwriadu darparu fframwaith statudol ar gyfer y Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig o ran dysgu, yn ogystal â fframwaith statudol i nodi egwyddorion ac ymagweddau cynnydd ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad (MDaPh), ac ar draws y cwricwlwm cyfan.

Bydd hyn yn ychwanegol at ddeddfu ar y Pedwar Diben, y Meysydd Dysgu a Phrofiad a Sgiliau Trawsgwricwlaidd.

Yn y Papur Gwyn, cynigiais y byddai’r Gymraeg a’r Saesneg yn rhannau gorfodol o’r cwricwlwm newydd ac y dylid nodi hyn yn glir mewn deddfwriaeth. Bydd y cynnig hwn yn cael ei gadw. Yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad, pwysleisiwyd bod angen gallu trochi plant yn y Gymraeg mewn ysgolion cynradd a lleoliadau meithrin nas cynhelir. Fel y dywedais yn gynharach eleni, bydd y ddeddfwriaeth newydd yn sicrhau bod hyn yn parhau, gan gefnogi Cymraeg 2050.

Rwy'n bwriadu sicrhau bod y disgwyliadau ar gyfer gwahanol leoliadau addysgol yn ogystal ag ysgolion a gynhelir ac ysgolion arbennig a gynhelir yn glir. Mae hyn yn cynnwys y disgwyliadau ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir, unedau cyfeirio disgyblion, a darpariaeth addysg arall y gall dysgwyr ei mynychu pan na allant fynychu'r ysgol. Y nod yw sicrhau bod gan bob dysgwr fynediad i'r Cwricwlwm Newydd i Gymru, a fydd yn rhoi’r cyfle iddyn nhw wneud cynnydd mewn perthynas â'r pedwar diben, a hynny’n gynnydd sy’n briodol iddynt.

Byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar y ddarpariaeth o Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ac Addysg Grefyddol yn fuan.

Hefyd, maes o law, rwy'n bwriadu cyhoeddi datganiad pellach yn ymwneud â’r ymatebion a dderbyniwyd i’r cam adborth diweddar ar y Cwricwlwm.