Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Rwy'n falch o roi gwybod i'r Senedd fod Llywodraeth Cymru wedi llofnodi contract gyda Kier Construction yr wythnos hon (27 Chwefror 2024) i ddechrau’r prif waith adeiladu ar y Safle Rheoli Ffiniau newydd yng Nghaergybi, Gogledd Cymru. Mae angen gwneud hyn yn sgil Model Gweithredu Targed y Ffin ar ôl Brexit a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ym mis Awst 2023, yn dilyn cytundeb â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban.
Mae Porthladd Caergybi yn gyswllt hynod bwysig rhwng y DU ac Iwerddon, ac ar hyn o bryd mae'n cynnal tua 700 o swyddi lleol ar Ynys Môn. Bydd adeiladu’r Safle Rheoli Ffiniau yn helpu i ddiogelu'r swyddi hynny ar gyfer y dyfodol gan greu tua 80 yn ychwaneg o swyddi hefyd - dros gyfnod ei adeiladu a thros gyfnod oes y Safle Rheoli Ffiniau. Mae hyn yn cynnwys gwahanol gyfleoedd o ran swyddi ar gyfer pobl leol, gan gynnwys glanhawyr, staff diogelwch, staff llwytho a dadlwytho, milfeddygon ac arolygwyr iechyd mewn porthladdoedd.
Disgwylir i waith Kier Construction ar y Safle Rheoli Ffiniau, a ddechreuodd ym mis Ebrill 2023, ac y disgwylir iddo orffen ym mis Ionawr 2025, gyfrannu swm sylweddol i'r economi leol, gydag ymrwymiad i wario 40% man lleiaf yng Ngogledd Cymru drwy gydol oes y contract. Mae hyn yn cynnwys swyddi adeiladu lleol a chyflenwyr lleol, ynghyd â hyfforddiant uwchsgilio ar gyfer disgyblion mewn ysgolion a cholegau lleol.
Mae gwaith paratoi hefyd yn parhau ar Safleoedd Rheoli Ffiniau yn Abergwaun a DocPenfro, ac rydym yn disgwyl i'r gwaith adeiladu ar y tri safle gael ei gwblhau erbyn diwedd Gwanwyn 2025, yn amodol ar ddatrys nifer o faterion yr wyf yn aros i glywed amdanynt gan Weinidogion Llywodraeth y DU.
Fel yr wyf wedi ei ddweud droeon, parhau i gydweithio yw’r dull gorau o sicrhau bioddiogelwch a dyfodol hirdymor i borthladdoedd Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso am ddull sy’n gweithio i Gymru, gan roi digon o rybudd i fusnesau a phartneriaid cyflenwi fel y gallant baratoi.
Er nad wyf eto wedi cytuno ar y dyddiad ar gyfer dechrau cynnal gwiriadau ffisegol ar fewnforion o Iwerddon gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban, mae llofnodi'r contract hwn yn tystio i’n hymrwymiad i bwysigrwydd Caergybi fel llwybr masnach parhaus ar gyfer nwyddau i Iwerddon ac oddi yno.
Mae gweithredu rheolaethau ffiniau yn cyflwyno cost ychwanegol i Lywodraeth Cymru. Yn 2024-25, rydym wedi sicrhau bod £6.4m o gyllid refeniw ar gael, sy'n cynnwys cymorth i awdurdodau lleol baratoi ar gyfer eu rôl yn y broses o wirio dogfennau a gwiriadau corfforol. Mae hyn yn ychwanegol at fwy na £7m sydd eisoes wedi'i ymrwymo gan Lywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi sicrwydd y byddant yn darparu £47.8 miliwn ar gyfer y gwaith adeiladu Safle Rheoli Ffiniau Caergybi. Mae hyn yn ychwanegol at gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ym mis Hydref 2023 am becyn gwerth £40 miliwn ar gyfer adnewyddu Morglawdd Caergybi, mae'r Safle Rheoli Ffiniau yn cynrychioli buddsoddiad seilwaith ychwanegol sylweddol i sicrhau dyfodol hirdymor Porthladd Caergybi.