Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’n bleser gennyf ddatgan i lywodraeth leol a Llywodraeth Cymru, trwy Gyngor Partneriaeth Cymru, lofnodi cytundeb pwysig heddiw [5 Rhagfyr 2011] sy’n nodi ein hymrwymiad ar y cyd i raglen ddiwygio.  Ei nod yw darparu gwasanaethau gwell a chosteffeithiol ledled Cymru, ac mae’n adlewyrchu’r ymrwymiad parhaus i atebolrwydd democrataidd lleol.

Mae’r cytundeb hwn rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn rhan o ddull cydweithredol ehangach i ddarparu gwasanaethau effeithiol sy’n ymatebol yn lleol, a hynny trwy gydweithio i raddau mwy ar wasanaethau cyhoeddus. 

Mae arweiniad cydweithredol cryf yn hanfodol i gyflawni wrth edrych tua’r dyfodol. Rwy’n croesawu’r ffaith bod llywodraeth leol wedi llofnodi’r agenda hon, y cytunwyd arni trwy Gyngor Partneriaeth Cymru.  Mae Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i wella gwasanaethau a’u heffeithlonrwydd yn sylweddol, gan fynd i’r afael â’r heriau rydym yn eu hwynebu a chefnogi cymunedau a phobl ledled Cymru.