Carl Sargeant, Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Hoffwn fynegi fy niolch i bawb fu’n gysylltiedig â’r gwaith ataliol, achub ac adfer yn sgil y llifogydd diweddar yn y Gogledd a’r Canolbarth. Yn eu plith yr oedd gwirfoddolwyr, y gwasanaethau argyfwng, Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaethau Cefnffyrdd a staff awdurdodau lleol sydd wedi gweithio’n ddiflino ers Gŵyl San Steffan.
Rwy’n cydymdeimlo’n fawr â’r rheini a welodd y llifogydd yn effeithio ar eu cartrefi a’u busnesau dros gyfnod a ddylai fod yn llawn llawenydd. Effeithiwyd ar sawl ardal gan gynnwys cymunedau Bontnewydd, Llanrwst, Llanberis, Tal-y-bont a Biwmares. Amharwyd hefyd ar y ffyrdd a’r rheilffyrdd.
Effeithiwyd ar nifer o fannau ar hyd lein Dyffryn Conwy a disgwylir i’r lein rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog barhau ar gau tan o leiaf ddydd Llun, gyda gwasanaeth bws yn cael ei gynnig yn lle’r trenau. Llywodraeth y DU a Network Rail sy’n gyfrifol am y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru.
Cafodd nifer o gefnffyrdd y Gogledd a’r Canolbarth eu cau ddydd San Steffan, gan gynnwys yr A55 gyda’r darn rhwng Llandygai a Llanfairfechan yn diodde’n arbennig o wael. Rhoddwyd adnoddau ar waith ar fyrder i fonitro diogelwch teithwyr, i glirio cyrsiau dŵr a chodi malurion y llifogydd unwaith y ciliodd y llifogydd. Rydym yn sylweddoli bod hyn wedi effeithio ar ddefnyddwyr y ffyrdd ac rydym yn gweithio’n glos gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i gael hyd i atebion tymor hir ar gyfer rhai o’r ardaloedd sydd fwyaf tebygol o ddioddef llifogydd.
Bum yn Llanelwy ddoe a gweld y gwaith pwmpio sy’n digwydd ar hyd rhannau isaf Dyffryn Dyfrdwy i drafod y sefyllfa gyda staff Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’n dda clywed bod ein cynlluniau rheoli afonydd wedi gwneud eu gwaith yn yr ardal hyd yma. Daeth y rhan fwyaf o’r llifogydd o’r dŵr wyneb sydd wedi crynhoi yn sgil y glaw trwm a gafwyd ar 25, 26 a 27 Rhagfyr, hynny ar ben tir oedd eisoes yn wlyb iawn.
Cawsom gyfnod o law neilltuol o drwm ond rhaid cydnabod oherwydd hinsawdd sy’n newid bod tywydd mawr fel hwn yn digwydd yn amlach. Dyna pam y mae rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd yn parhau’n un o brif flaenoriaethau’r Llywodraeth hon. Rydym wedi ymrwymo bron £300m, sy’n cynnwys arian o Ewrop, i reoli perygl llifogydd a byddwn yn neilltuo £150m arall i reoli’r peryglon i’r arfordir o 2018. Mae hyn wedi arwain at fuddsoddi sylweddol yn y Gogledd gan gynnwys cynlluniau yn y Rhyl, Corwen, Dolgellau, Bae Colwyn a Biwmares.
Yn dilyn y digwyddiadau diweddaraf hyn, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol i weld beth arall y gallwn ei wneud i gyflymu’r gwaith i ddiogelu cartrefi a modurwyr.
Rwyf hefyd yn neilltuo £1m yn syth i awdurdodau lleol i gynnal gwaith trwsio a gwaith cynnal ar eu cynlluniau afonydd a draenio, gan roi blaenoriaeth i gartrefi ac eiddo. Bydd fy swyddogion yn ysgrifennu at bob awdurdod lleol gyda’r manylion yn y dyddiau nesaf hyn.
Rydym yn disgwyl rhagor o law yfory gyda’r posibilrwydd o ragor o lifogydd o ddŵr wyneb a nentydd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wrthi’n cadw golwg ar y sefyllfa.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad i hysbysu Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiadau pellach neu ateb cwestiynau wedi i’r Cynulliad ddychwelyd, gwnaf hynny â chroeso.