Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Y Gweinidog Ynni, yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn y bythefnos ddiwethaf, mae llawer o gymunedau yng Nghymru wedi dioddef effeithiau difrodus a digynsail Storm Dennis a Storm Ciara. Mae fy nghyd-weinidogion a finne’n cydymdeimlo’n ddidwyll â phawb sydd wedi dioddef eu heffeithiau. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i bawb yn y gwasanaethau brys a chyhoeddus yng Nghymru sydd wedi gweithio mor ddiflino o dan amodau arswydus ddydd a nos i ddiogelu bywyd ac eiddo.

Mae ymateb y cymunedau yn yr ardaloedd y mae’r llifogydd wedi’u taro wedi bod yn rhyfeddol.  Mae dyngarwch a charedigrwydd gwirfoddolwyr wrth helpu cymdogion, ffrindiau a dieithriaid pan fo’u hangen fwyaf wedi bod yn ysbrydoliaeth.

Mae’r gwasanaethau brys, Awdurdodau Lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru ac asiantaethau eraill wedi gweithion glos â’i gilydd i geisio lliniaru’r effeithiau.  Roedd y glaw a’r llifogydd mewn llawer ardal yn drymach ac yn gryfach nag unrhyw bryd mewn cof, ac ymwrolodd y gwasanaethau i’r her o dan amgylchiadau hynod anodd. Roedd eu hymdrechion y penwythnos hwn gymaint yn fwy trawiadol o gofio’u gwaith caled i ddelio â Storm Ciara rai dyddiau ynghynt.

Mae effeithiau’r stormydd hyn wedi’u teimlo ledled y wlad.  Ymhlith yr ardaloedd a ddioddefodd yn arbennig o galed oedd Crucywel a Brynbuga yn y de-ddwyrain, Pont-y-pridd, Nantgarw, Ffynnon Taf a chymunedau eraill yng Nghymoedd y De ynghyd â Llanrwst, Conwy, Powys a Sir Ddinbych.

Effeithiwyd yn ddifrifol ar y rhwydwaith trafnidiaeth ac mae asiantaethau’n gweithio’n galed i godi a sefydlogi tirlithriadau ar ein ffyrdd a’n rheilffyrdd.

Ymwelodd y Prif Weinidog â Phont-y-pridd y bore yma i weld yr effeithiau drosto’i hun, ac ymwelais inne â swyddfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn Nhŷ Cambria heddiw i ddiolch i staff y corff cyfan am eu hymdrechion glew i ragweld ac atal llifogydd ledled y wlad. Bydd y Prif weinidog, fy nghyd-weinidogion a finne’n ymweld ag ardaloedd eraill ledled y wlad sydd wedi’u taro gan y llifogydd yn y dyddiau i ddod i glywed profiadau y bobl eu hunain.

Bydd yna effeithiau ariannol ar Awdurdodau Lleol, busnesau ac unigolion wrth iddynt ymroi i godi’u hunain yn ôl ar eu traed ar ôl y digwyddiadau ofnadwy hyn.  Fel cam cyntaf, mae Llywodraeth Cymru’n cynnal cynhadledd o arweinwyr Awdurdodau Lleol o bob rhan o Gymru yn ddiweddarach yr wythnos hon, gyda chynrychiolwyr y gwasanaethau brys, y sector gwirfoddol ac undebau llafur, i glywed asesiad cychwynnol o effaith y stormydd. Bydd hynny’n rhoi’r darlun cliriaf posibl inni o’r sefyllfa ledled Cymru a ble mae angen yr help fwyaf.

Mae’n hanfodol hefyd, ar ôl yr ymateb cychwynnol, ein bod yn dysgu gwersi fel bod y cynlluniau gorau ar gyfer lliniaru llifogydd yn cael eu rhoi ar waith, hyd yn oed o gofio mor ddigynsail oedd y ddau benwythnos diwethaf. 

Llwyddodd llawer o’n hamddiffynfeydd i ddiogelu cymunedau er y glaw trymaf ers cadw cofnodion.  Mae hynny’n adlewyrchu’r buddsoddiad o £350 miliwn i reoli perygl llifogydd yn nhymor y Cynulliad hwn.

Rydym wedi gorfod wynebu tywydd rhyfeddol o ddifrifol gyda Storm Ciara a Storm Dennis, a phrin wythnos rhwng y ddwy.  Mae arbenigwyr yn y newid yn yr hinsawdd wedi dweud yn gyson mai un o effeithiau mwyaf twymo’r ddaear fydd cynnydd yn niferoedd a difrifoldeb achosion o dywydd eithafol a dyma brofi’r broffwydoliaeth honno.  Bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i weithio’n galed mewn cysylltiad â’r argyfwng hinsawdd, i helpu’r cymunedau mwyaf anghenus i ymadfer ar ôl amodau mor dreng, ac i fuddsoddi i ddiogelu pobl rhag effeithiau tywydd fwyfwy difrifol.