Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Ynni, yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae effaith Storm Ciara wedi ei deimlo ledled Cymru, ac rwy’n cydymdeimlo’n fawr â’r cymunedau hynny yr effeithiwyd arnynt.  Yn arbennig, hoffwn ddiolch i’n hymatebwyr brys, Awdurdodau Lleol, y gwasanaethau brys, a Cyfoeth Naturiol Cymru, wrth i’r staff weithio’n ddi-flino mewn tywydd gwael i gynnig cymorth, cefnogaeth ac i gadw ein cymunedau yn ddiogel ledled Cymru. 

Rydym wedi gweld yr effaith ar gymunedau trwy Cymru, gyda nifer sylweddol o gartrefi a busnesau wedi gweld llifogydd yn Llanrwst, Llanfair Talhaearn, Trefriw, Dinbych, Bae Colwyn a Llanelwy a’r ardal, yn ogystal â digwyddiadau unigol mewn lleoliadau eraill, yn fewndirol ac ar hyd yr arfordir.  Byddaf yn ymweld â rhai o’r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt yn ddiweddarach yn ystod yr wythnos i weld a chlywed drosof fy hunan y problemau y mae pobl wedi eu hwynebu ac yn parhau i’w hwynebu. 

Mewn sawl rhan o Gymru, mae ein rhwydwaith o amddiffynfeydd rhag llifogydd wedi bod yn effeithiol wrth ddiogelu cymunedau.  Yn ogystal â’r llanw uchel a’r gwyntoedd ar yr arfordir, mae’n ymddangos ar hyn o bryd bod lefel yr afonydd yn uwch nag yr oedd yn ystod llifogydd yn y gorffennol, mewn mannau megis Llanelwy a Rhuthun; ac eto, llwyddwyd i osgoi y llifogydd eang a welwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  Dyma ddangos sut y mae ein buddsoddiad mewn rheoli risg llifogydd, cyfanswm o dros £350 miliwn yn ystod y Cynulliad hwn, yn helpu i ddiogelu cartrefi pobl.   

Mae’n hollbwysig i edrych ar y llifogydd ddigwyddodd ac i ddysgu gwersi i ddiogelu ein cymunedau fwyfwy yn y dyfodol.  Mae angen i’r Awdurdodau Lleol bellach ymchwilio i’r mater a nodi eu canfyddiadau a’u hargymhellion, mewn cydweithrediad â Cyfoeth Naturiol Cymru a rhanddeiliaid eraill.  Rwy’n deall bod Conwy a Sir Ddinbych eisoes yn paratoi eu hymchwiliadau. 

Mae’n bwysig bod cynlluniau lliniaru llifogydd sydd wedi’u cynllunio eisoes ar gyfer cymunedau yr effeithiwyd arnynt yn cael eu cyflawni, a bod unrhyw ofynion newydd yn cael eu nodi cyn gynted â phosibl.  Rwy’n hapus i ystyried ceisiadau am gyllid gan Awdurdodau Rheoli Risg ar gyfer trwsio brys, yn ogystal â gwelliannau neu gynigion ar gyfer cynlluniau newydd i leihau’r risg ymhellach. 

Rwyf hefyd yn ystyried opsiynau i gefnogi Awdurdodau Lleol a CNC ymhellach wrth gynnal eu gweithgareddau llifogydd ac wrth gyflawni prosiectau i leihau llifogydd a risg arfordirol.   

Mae ymateb i’r newid yn yr hinsawdd yn parhau i fod ar flaen fy agenda, gan bod y risg o lifogydd ac erydu arfordirol yn effeithiau real iawn fydd Cymru yn eu gweld oherwydd bod lefel y mȏr yn codi a’r tywydd yn fwy eithafol.  Byddaf yn parhau i gydweithio gydag Awdurdodau Lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i reoli y risg hwn yn effeithiol ac yn yr hirdymor, ac i gyfeirio y buddsoddiad tuag at reoli risg llifogydd o fewn y cymunedau hynny sydd ei angen fwyaf.