Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yr wythnos diwethaf, dros bedwar diwrnod, fe welon ni rai o’r stormydd gwaethaf ers ugain mlynedd ar arfordir Cymru. Achoswyd y digwyddiadau anghyffredin hyn gan gyfuniad o ffactorau. O ganlyniad i systemau pwysedd isel dyfn, cafwyd cyfres o ymchwyddau morol rhwng 0.5m ac 1m a gwyntoedd cryfion o’r de-orllewin gyda thonnau dros 5 metr o uchder ar ein harfordir. Ar yr un pryd, cafwyd llanw uchaf y gwanwyn. Oherwydd y cyfuniad hwn o wynt, llanw ac ymchwydd môrm tarweed ein harfordir gan ddigwyddiad eithriadol. Cododd lefel y môr yn uwch na’r amddiffynfeydd mewn sawl achos, gan orlifo i mewn i eiddo a difrodi’r arfordir mewn nifer o leoliadau. Roedd lefel y llanw yn Aberdaugleddau, Casnewydd ac Abermaw yn uwch nag a fu ers dechrau cadw cofnodion manwl yn 1997.

Cafwyd ymateb cyflym gan y gwasanaethau argyfwng ac eraill, ac yn ddi-os fe wnaeth hynny achub bywydau. Roedd cywirdeb y rhagolygon wedi galluogi cymunedau i baratoi’n well cyn i’r llifogydd daro hefyd. Hoffwn ddiolch yn fawr i Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Awdurdodau Lleol, y Gwasanaethau Tân ac Achub, yr Heddlu, yr RNLI ac asiantaethau eraill am eu hymdrechion i rybuddio a symud y bobl oedd mewn perygl ac am eu gwaith caled trwy gydol y gwaith brys i atgyweirio ac adfer.

Yn ystod y digwyddiad hwn, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru dros 23,000 o rybuddion i breswylwyr drwy’r gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol, i hysbysu’r ardaloedd oedd mewn perygl ac i roi gwybod pan oedd angen symud pobl o’u cartrefi. Cyhoeddwyd chwe rhybudd llifogydd difrifol a 54 rhybudd llifogydd yng Nghymru ar 3 Ionawr.

Roedd arfordir cyfan Cymru wedi teimlo effeithiau’r digwyddiad eithriadol hwn; amcangyfrifir bod 140 eiddo ac 80 o garafanau wedi bod dan ddŵr. Yn Aberystwyth y gwelwyd rhai o’r  effeithiau gwaethaf; yno, symudwyd pobl o’u heiddo ar y prom adeg sawl llanw uchel a chafwyd difrod helaeth i wal y prom a’r adeiladau ar hyd y prom. Gwelais i’r difrod hwn fy hunan pan ymwelais ag Aberystwyth ddydd Sul 5 Ionawr i gwrdd â rhai o’r bobl oedd wedi dioddef yn uniongyrchol. Mae’n bosibl mai dyma’r storm waethaf i daro’r dref ers 1938 – bryd hynny, roedd y difrod yn llawer iawn gwaeth gan nad oedd cymaint o amddiffynfeydd.

Yn ôl pob tebyg, mae cysylltiad rhwng y stormydd hyn â’r newid yn ein hinsawdd, felly nid yw’r tywydd eithafol hwn yn debygol o fynd i ffwrdd; yn wir, gallai ddechrau digwydd yn amlach. Rydym wrthi’n cynllunio ar gyfer y dyfodol, ac yn ystyried y ffaith fod lefel y môr yn codi a’r tywydd yn mynd yn fwy stormus wrth nodi’r polisiau ar gyfer rheoli risgiau’r arfordir yn yr hirdymor yn ein Cynlluniau Rheoli Traethlin.

Wrth edrych ymlaen ar ôl digwyddiadau’r dyddiau diwethaf, rydym yn awr yn symud i’r cam nesaf, sef y gwaith atgyweirio ac adfer. Buom yn trafod gyda’r holl awdurdodau lleol perthnasol a Cyfoeth Naturiol Cymru ac fe gawn ddarlun llawnach dros yr wythnosau nesaf wrth i’r peirianwyr gwblhau eu hasesiadau. Arfordir y Gorllewin a deimlodd yr effeithiau mwyaf, a rhestrir rai o’r prif ddigwyddiadau isod:

  • Aberystwyth – difrod helaeth i wal y prom a’r prom ei hunan, symud pobl o’u heiddo a llifogydd mewn 20 adeilad;
  • Borth – symud pobl o’u heiddo a llifogydd mewn oddeutu 35 eiddo wrth i’r môr orlifo dros yr amddiffynfeydd. 
  • Abermaw – llifogydd mewn 15 eiddo  wrth i’r môr orlifo dros yr amddiffynfeydd.
  • Caernarfon – llifogydd mewn 10 eiddo;
  • Aberteifi - llifogydd mewn 10 eiddo a symud pobl allan o 30 eiddo;
  • Amroth – wal glan môr a ffordd wedi dymchwel am 30metr; 
  • Niwgwl – môr yn gorlifo dros gefnen y traeth cerrig mân ac yn gwthio’r cerrig dros y ffordd, gan ei chau;
  • Llanbedr – difrod i’r amddiffynfeydd môr, llifogydd ar eiddo amaethyddol a cholli da byw;
  • Casnewydd – gweithdrefnau symud pobl o’u heiddo wedi’u cychwyn yn Lighthouse Park, Llansanffraid a Chrindau, a llifogydd mewn 5 eiddo yng Nghrindau;
  • Cafwyd llifogydd a difrod mewn mannau eraill ar hyd arfodir Cymru hefyd, gan amharu ar y seilwaith trafnidiaeth a’r cwmnïau cyfleustodau ac effeithio ar yr arfordir mewn mannau fel Deganwy a Phorthcawl.

Mae’r stormydd hyn wedi rhoi pwysau mawr ar ein hamddiffynfeydd arfordirol ond gallai’r digwyddiad hwn fod wedi bod yn waeth o lawer. Mae ein buddsoddiad parhaus ni i reoli peryglon llifogydd wedi arbed miloedd o gartrefi ac eiddo rhag llifogydd difrifol. Rydym eisoes yn cael adroddiadau cadarnhaol gan yr awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru am berfformiad yr amddiffynfeydd ar hyd arfordir Cymru. Rwy’n gwbl ffyddiog bod y gwelliannau diweddar i’r amddiffynfeydd yng Nghasnewydd, Borth, Aberaeron, Tywyn a Bae Colwyn wedi helpu i atal neu leihau’r difrod.

Dros gyfnod y Llywodraeth hon rwy’n buddsoddi dros £240 miliwn mewn mesurau atal llifogydd ac amddiffynfeydd arfordirol, ac, er gwaethaf y toriadau o Lywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru yn dal i gynnal ei chyllidebau ar gyfer llifogydd ac erydu arfordirol. Mae trefniadau ar droed i ariannu rhagor o welliannau ac ar ddechrau’r flwyddyn hon bwriedir decrhau ar ail gam y cynllun yn Borth er mwyn cwblhau’r gwelliannau i’r amddiffynfeydd yno. Mae ymchwiliadau ac astudiaethau dichonoldeb yn mynd rhagddynt yn Aberystwyth ac Abermaw.

Ar ôl y llifogydd ar arfordir y Gogledd ar 5 Rhagfyr 2013, gofynnais i Cyfoeth Naturiol Cymru arwain ymchwiliad i’r digwyddiad, ar y cyd â’r awdurdodau lleol, y cwmnïau trenau, cyfleustodau ac ati. Rwyf wedi gofyn yn awr i Cyfoeth Naturiol Cymru ehangu’r adolygiad hwnnw i gynnwys digwyddiad mis Ionawr, gan edrych ar Gymru gyfan. Gan fod y ddau adolygiad yn ymwneud â materion cyffelyb ynghylch yr afordir, tybiwyd y byddai’n well eu cyfuno i gwmpasu’r holl awdurdodau arfordirol. Cynhelir yr adolygiad hwn mewn dau gam:

  • Yn gyntaf, cynhelir adolygiad cyflym o effeithiau’r ddau achos o lifogydd arfordirol ar draws y wlad gan edrych ar gyflwr yr amddiffynfeydd glan môr ar ôl y stormydd. Cyhoeddir hwn erbyn diwedd mis Ionawr 2014.
  • Bydd ail gam yr adolygiad yn edrych ar y gwersi ehangach a ddysgwyd o’r llifogydd arfordirol hyn a’r dulliau o reoli risgiau llifogydd yn yr ardaloedd dan sylw, gan gynnwys:
    • Manylion yr achosion o lifogydd a pha mor gywir oedd y modelu a’r darogan
    • Ymateb gweithredol yr awdurdodau rheoli perygl llifogydd
    • Pa mor effeithiol fu’r amddiffynfeydd, pa eiddo a effeithiwyd a phwy a ddiogelwyd
    • Yr effeithiau ar y seilwaith a’r gallu i wrthsefyll llifogydd yn y dyfodol
    • Y gwersi a ddysgwyd er mwyn paratoi’n well ar gyfer y dyfodol. 
Bydd angen cytundeb rhwng yr holl bartneriaid i gynnal ail gam yr adolygiad ond y bwriad yw cyhoeddi adroddiad erbyn mis Ebrill 2014, ar yr amod na fydd llifogydd eraill yn taro yn y cyfamser. Ond yn y tymor byr, y flaenoriaeth i’r awdurdodau sydd wedi’u heffeithio yw canolbwyntio ar y gwaith glanhau ac atgyweirio.

Mae fy swyddogion yn cydweithio’n agos â’r Awdurdodau Lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i weld sut y gallwn ni eu cynorthwyo nhw. Mae’r trafodaethau’n parhau i ddeall pa ddifrod sydd wedi’i wneud a beth yw anghenion cymorth byrdymor y gwaith adfer. Rwy’n galw ar yr Awdurdodau Lleol i gysylltu â’m swyddogion i geisio cyllid grant ar gyfer gwaith brys i drwsio’r amddiffynfeydd sydd wedi’u difrodi.

Lle bo’n briodol, bydd yr Awdurdodau Lleol yn gallu gwneud cais am gymorth ariannol o dan Gynllun Cymorth Ariannol Brys Llywodraeth Cymru hefyd, i helpu gyda’r costau o ddarparu cymorth a rheoli effeithiau uniongyrchol yr argyfwng. Rydym hefyd mewn cysylltiad uniongyrchol â Llywodraeth y DU ynghylch gwneud cais am arian o Gronfa Cymorth Argyfwng yr Undeb Ewropeaidd a sefydlwyd yn sgil llifogydd 2002 yn Nwyrain Ewrop.

Rydym yn edrych ar y ffordd orau o flaenoriaethu’r buddsoddiad mewn amddiffynfeydd môr yn y dyfodol. Rydym am amddiffyn cartrefi a busnesau, ond yn fwy na hynny ein nod yw  cynyddu’r cyfleoedd  ar gyfer adfywiad a thwf economaidd yn yr hirdymor. Mae’n amhosibl rhwystro llifogydd yn llwyr, ond mae gennym ni fel Llywodraeth ymrwymiad pendant i flaenoriaethu llifogydd ac rydym yn gweithio’n barhaus i wrthsefyll ei effeithiau ar hyd arfordir Cymru.


Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.