Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Ysgrifenedig - Lles Anifeiliaid yn y Gadwyn Fwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae diogelu iechyd a lles anifeiliaid fferm sy'n aros yng Nghymru gydol eu bywydau, hyd at a chan gynnwys y man lladd, yn flaenoriaeth uchel imi.  Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi y byddaf yn lansio cymorth grant ar gyfer Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd gwerth £1.1 miliwn cyn toriad yr haf, yn benodol ar gyfer lladd-dai bychain a chanolig yng Nghymru.  Bydd y cymorth hwn yn galluogi'r busnesau hyn i fuddsoddi mewn gwelliannau i sicrhau y byddant yn gallu gwrthsefyll unrhyw newidiadau ac yn gallu parhau i ddarparu cyfleusterau lladd sydd yn aml mewn ardaloedd diarffordd.  Mae lladd-dai bychain yn cefnogi cadwyni cyflenwi byr a lleol ac yn darparu cyfleusterau prosesu ar gyfer cynhyrchwyr da byw bychain, gan olygu bod llai o ffordd i deithio o'r fferm i'r lladd-dy. Gall y lladd-dy fod y gyrchfan gyntaf a'r olaf ar gyfer anifeiliaid sy'n gadael y fferm ac mae'n bwysig bod cyn lleied o straen â phosib yn ystod y trosglwyddo hwn.

Bydd cymorth grant yn talu am y buddsoddiad cyfalaf ac yn darparu cyngor ar les anifeiliaid, gwella busnes a materion technegol.  Bydd seilwaith a chyfleusterau lles yn cael eu cefnogi a hefyd osod a diweddaru systemau monitro teledu cylch cyfyng.  Rwyf am helpu Cwmnïau Busnesau Bwyd i sefydlu systemau, tra bo Lloegr yn llunio deddfwriaeth ar gyfer systemau teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai ar hyn o bryd.  Rwyf am i ladd-dai Cymru fod wedi paratoi yn llawn pe byddai’r ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno yng Nghymru.  Rwyf am i ladd-dai Cymru fod wedi’u paratoi yn llawn wrth imi barhau i edrych ar gyfleoedd i ddeddfu yn yr hirdymor.  
 
Bu swyddogion yn cyd-weithio'n agos â chylch gorchwyl y diwydiant lladd roddodd adroddiad o argymhellion imi y llynedd ar ffyrdd o wella lles anifeiliaid wrth eu lladd.  Mae Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid yn cefnogi'r argymhellion, sydd wedi bod yn ddefnyddiol hefyd wrth nodi cysylltiadau eraill yn y gadwyn gyflenwi megis trafnidiaeth, a gallai fod angen rhagor o weithredu yn y maes hwn i ddiogelu lles anifeiliaid.  
Bydd manylion y cynllun grant yn cael ei baratoi mewn ymgynghoriad â'r grŵp gorchwyl a gorffen i sicrhau bod y pecyn o gymorth yn bwrpasol ar gyfer anghenion y sector.  Mae lladd-dai bychain wedi goroesi'n dda yng Nghymru er gwaethaf nifer o heriau sydd eisoes wedi gweld gostyngiad cyson yn y niferoedd mewn ardaloedd eraill ym Mhrydain.  Rwyf am helpu iddynt fod yn gynaliadwy yng Nghymru ac i gadw safonau uchel o ran lles anifeiliaid, fydd o'r safon uchaf.

Rwy'n disgwyl i'r cynllun gael ei lansio cyn toriad yr haf, a bydd swyddogion, yn ogystal â chynrychiolwyr y diwydiant, yn trefnu'r manylion yn y cyfamser.