Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Rwy'n gwneud y datganiad hwn i gyflwyno'r newyddion diweddaraf ar bolisïau parhaus Llywodraeth Cymru mewn perthynas â lles cŵn. Rwyf hefyd yn dymuno diolch i Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am eu hadroddiad drafft trylwyr ar y Rheoliadau drafft.
Gofynnais i'r Rheoliadau drafft Lles Anifeiliaid (Adnabod Cŵn) (Cymru) 2014, fel a gyflwynwyd ar 24 Mehefin 2014, gael eu tynnu yn ôl. Bu llawer o ystyried cyn penderfynu ar hyn, ond roeddwn am fod yn fodlon eu bod yn hollol addas at y pwrpas. Rwyf wedi rhoi'r cyfrifoldeb o edrych eto ar y Rheoliadau Adnabod Cŵn drafft i'm swyddogion, ac i barhau i gydweithio'n agos â'u cydweithwyr yn Defra, gan gysylltu â rhanddeiliaid y gronfa ddata yn benodol.
Oherwydd y gwaith parhaus hwn, mae'n anhebygol y bydd yn bosib cadw at y dyddiad o 1 Mawrth 2015, y dyddiad gwreiddiol ar gyfer gosod microsglodyn ym mhob ci yng Nghymru. Byddaf yn sicrhau y bydd y gwaith ychwanegol sydd ei angen i ystyried y pryderon a godwyd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn cael ei wneud ac rwy'n gobeithio cyflwyno'r Rheoliadau Adnabod Cŵn drafft cyn gynted â phosib, i gynnal y momentwm yng Nghymru i symud ymlaen tuag at y nod o sicrhau bod microsglodyn ym mhob ci yng Nghymru.
Wrth gwrs dylai aelodau'r cyhoedd a sefydliadau magu, fel arfer gorau, barhau i osod microsglodion yn eu cŵn a'u cŵn bach, i sicrhau bod modd iddynt olrhain eu hanifeiliaid. Rwyf am ddiolch i randdeiliaid y trydydd sector am eu cymorth, yn enwedig i'r Dogs Trust, am y rhaglen o osod microsglodion am ddim sydd wedi ei chynnal ledled Cymru.
O ran Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Magu Cŵn) (Cymru) 2014, a gyflwynwyd hefyd ar y 24ain Mehefin 2014, yr hyn yr wyf yn fwriadu ei wneud nesaf yw cyfarfod â phrif randdeiliaid i sicrhau bod y Rheoliadau yn addas at y diben. Bydd y Rheoliadau Magu Cŵn drafft yn cael eu tynnu yn ôl a'u cyflwyno eto gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn gynted â phosib. Ni fydd y Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gosod microsglodion mewn cŵn bach mewn sefydliadau magu, sy'n cael ei gynnwys yn y Rheoliadau Magu Cŵn, gan y byddwn yn delio â'r mater hwn yn y Rheoliadau Adnabod Cŵn wedi ei ail-ddrafftio.
Rwy'n sylweddoli na fydd hyn yn newyddion fydd yn cael ei groesawu, ond rwyf am eich sicrhau bod y ddau ddarn pwysig yma o ddeddfwriaeth yn cael eu datblygu yng Nghymru cyn gynted â phosib. Rwyf am bwysleisio ei fod yn bwysig inni gael y Rheoliadau hyn yn iawn.
Byddaf yn cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig pellach ar statws y Rheoliadau hyn wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen.