Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn fy Natganiad Ysgrifenedig dyddiedig 21 Mawrth 2013, cyhoeddais fy mwriad i gyflwyno cynllun i alluogi mwy o bobl ifanc i aros gyda’u gofalwyr maeth ar ôl iddynt gyrraedd 18 oed. Mae’r Cynllun ‘Pan fydda i’n Barod’ wedi’i roi ar waith mewn tair ardal arloesi ers mis Mehefin y llynedd, sef ardaloedd awdurdodau lleol Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Gwynedd. Mae’r cyfnod arloesi’n mynd yn ei flaen yn llwyddiannus. Darparwyd adroddiadau’n rheolaidd i’r Grŵp Monitro sy’n rhoi ystyriaeth i weithredu’r Cynlluniau hyn a’u heffaith. Diben y cyfnod arloesi hwn yw arbrofi a mireinio’r canllawiau gweithredol ar gyfer trefniadau ôl-18, i’w cyhoeddi’n ddiweddarach yn y flwyddyn, ac egluro a chraffu ar oblygiadau trefniadau o’r fath o ran adnoddau i awdurdodau lleol, pobl ifanc a’u gofalwyr maeth. Penderfynais weithredu fesul cyfnod mewn ymateb i alwadau oddi wrth randdeiliaid allweddol (gan gynnwys sefydliadau trydydd sector sy’n cynorthwyo plant). Roedd y rhain o’r farn y dylem brofi effaith a goblygiadau trefniadau o’r fath cyn iddynt gael eu cyflwyno’n genedlaethol. Mae’n dal i fod yn fwriad gennyf roi’r Cynllun ‘Pan fydda i’n Barod’ ar waith ar draws Cymru yn ddiweddarach eleni.
Rwyf wedi derbyn nifer o sylwadau yn ystod y misoedd diwethaf yn gofyn imi gynnwys darpariaeth benodol ar gyfer y cynllun ‘Pan fydda i’n Barod’ o fewn Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Rwyf wedi gwrando ar y farn a fynegwyd, gan gynnwys barn pobl ifanc sydd wedi derbyn gofal a barn plant sy’n derbyn gofal ac yn nesáu at fod yn 16 oed; ac ar 15 Ionawr cyflwynais welliannau i sicrhau bod trefniadau ôl-18 wedi’u cynnwys ar wyneb y Bil.
Fy mwriad wrth gyflwyno’r gwelliannau hyn yw egluro’r dyletswyddau sydd ar awdurdodau lleol, fel rhan o’u cyfrifoldebau rhianta corfforaethol, i hyrwyddo dilyniant a sefydlogrwydd i’r rhai sy’n gadael gofal wrth iddynt bontio i fyd oedolyn a byw’n annibynnol. Mae’r gwelliannau’n gosod dyletswydd glir ar awdurdodau lleol i bennu a fyddai’n briodol i’r person ifanc aros gyda’i rieni maeth ar ôl cyrraedd 18 oed a, lle bo’n briodol, gymryd camau i hwyluso a monitro hyn. Os bydd yr awdurdod lleol, yn dilyn trafodaeth â’r person ifanc fel rhan o’r broses asesu barhaus, yn penderfynu y byddai’r trefniadau byw hynny’n briodol i’r person ifanc, a bod y person ifanc hwnnw a’i rieni maeth yn dymuno i’r trefniant barhau, yna bydd gan yr awdurdod ddyletswydd i ddarparu cyngor a chymorth, gan gynnwys cymorth ariannol, i hwyluso’r trefniant hwnnw.
Rwy’n croesawu’r gwelliannau a gyflwynwyd gan William Graham AC, sy’n cynnig dyletswydd ar awdurdodau lleol i roi cyhoeddusrwydd i’w trefniadau ôl-18. Byddaf yn gofyn i’r Grŵp Monitro ‘Pan fydda i’n Barod’ i ystyried a chyflwyno syniadau am sut i wneud hyn yn ymarferol cyn ein hamserlen cychwyn ar gyfer y Bil. Rwyf hefyd yn ddiolchgar am y gwelliannau a gyflwynwyd gan William Graham AC a Lindsay Whittle AC sy’n ceisio egluro ac atgyfnerthu pwysigrwydd sicrhau bod rheini maeth awdurdod lleol yn cael cefnogaeth ariannol gan awdurdodau lleol i gyflwyno trefniadau ôl-18. Rwy’n llawn gefnogi’r bwriad y tu ôl i’r gwelliannau hyn i gydnabod rôl bwysig y cymorth ariannol gan awdurdodau lleol i alluogi rhieni maeth awdurdod lleol a’r bobl ifanc sy’n derbyn gofal ganddynt, i roi ystyriaeth ofalus i gymryd rhan mewn trefniant byw ôl-18. Hoffwn sicrhau Aelodau, plant a phobl ifanc, yn ogystal â rhanddeiliaid ehangach, y bydd y darpariaethau yn y Bil, ynghyd â gwelliannau a gyflwynwyd, eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu cymorth ariannol o’r fath i’r person ifanc ac i riant maeth yr awdurdod lleol.
Rwyf wedi gwneud yn siŵr y gallwn ymateb yn y tymor hir i anghenion plant sy’n derbyn gofal drwy gynnwys drwy adran 78, bŵer i wneud darpariaeth bellach i blant sy’n derbyn gofal dan Ran 6.
Hefyd, bydd fy ngwelliannau i yn helpu i sicrhau bod trafodaethau a chynllunio ar gyfer trefniadau byw ôl-18 yn dechrau’n gynnar, yn hytrach na’u bod yn gorfod aros nes bydd y person ifanc sy’n derbyn gofal yn cyrraedd 16 oed. Mae cynllunio ar gyfer pontio, gan gynnwys ystyried a yw trefniant o fath ‘Pan fydda i’n Barod’ yn briodol, yn fater y bydd rhanddeiliaid am ddylanwadu arno fel rhan o’n strategaeth ymgysylltu ac ymgynghori gynhwysfawr yn ystod 2014 a 2015 i weithredu‘r rheoliadau a’r Cod Ymarfer o dan y Bil
Bydd trafodaeth a chynllunio cynnar yn rhoi amser i’r awdurdod lleol ystyried newid y lleoliad os na fydd y gofalwr maeth am fwrw ymlaen â’r lleoliad wedi i’r plentyn gyrraedd 18 oed, neu os yw’r plentyn mewn llety arall fel cartref cymunedol ac yn meddwl y byddai’n dymuno cael lleoliad o fath ‘Pan fydda i’n Barod’ ar ôl iddynt orffen derbyn gofal.
Er bod tystiolaeth yn dangos y bydd llawer o bobl ifanc sydd mewn gofal maeth yn cael gwell canlyniadau os gallant aros gyda’u gofalwyr maeth ar ôl cyrraedd 18 oed, ni fydd trefniadau o’r fath yn briodol i bob un sy’n gadael gofal. Pan na fydd trefniadau o’r fath yn briodol, mae’n ddyletswydd ar awdurdodau lleol dan adrannau 100(1) a (2) o’r Bil i roi i’r sawl sy’n gadael gofal gymorth ariannol a chymorth arall sy’n gysylltiedig â’i les a’i anghenion addysgol a hyfforddiant.
Hoffwn ategu’r ffaith mai dyletswyddau ar awdurdodau lleol yw’r rhain i gyd, a hefyd hoffwn bwysleisio’r hyn a ddywedais yn fy Natganiad Ysgrifenedig diwethaf, sef nad oes angen i awdurdodau lleol aros nes bydd y gwelliannau hyn wedi’u gweithredu i roi’r trefniadau yn eu lle. Mae llawer o awdurdodau lleol yn gweithredu cynlluniau ôl-18 fel rhan o’u cyfrifoldebau rhianta corfforaethol, ac mae’r Cynllun ‘Pan fydda i’n Barod’ yn adeiladu ar arferion da presennol. Mae’r gwelliannau hyn yn egluro ac yn atgyfnerthu’r hawliau a’r hawliadau sy’n ddyledus i’r rhai sydd mewn gofal, a’r cyfrifoldeb parhaus sydd gan yr awdurdodau lleol i’r plant a’r bobl ifanc hyn.
Byddant yn atgyfnerthu ac yn ehangu’r arferion da hyn drwy eu rhoi ar sail statudol gadarnach. Ar y cyd â chanlyniadau’r cynllun arloesol a’r canllawiau sy’n deillio ohonynt, dylent sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn gallu elwa o drefniadau o’r fath.
Rwy’n ddiolchgar i’r holl sefydliadau hynny mewn llywodraeth leol ac yn y trydydd sector sy’n gweithio gyda ni yn y Grŵp Monitro i helpu i sicrhau bod y canllawiau ar gyfer ‘Pan fydda i’n Barod’ yn addas i’r diben ac y byddant yn cyrraedd yr amcanion rydyn ni i gyd yn eu rhannu.
Rwyf hefyd yn ddiolchgar i fy nghyd-Aelodau yn y Cynulliad, gan gynnwys Ken Skates AC a fu’n gweithio ar gynllunio’r Cynllun ‘Pan fydda i’n Barod’, am eu cefnogaeth ddiflino i blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal, ac am eu hymrwymiad yn sicrhau bod yr holl rai sy’n gadael gofal yng Nghymru yn cael y gefnogaeth orau bosibl i allu cyrraedd eu potensial llawn. Bu hyn yn arbennig o amlwg yn ystod y craffu ar y Bil, ac edrychaf ymlaen at drafodion Cyfnod 3 a gynhelir ar y 4ydd a’r 11eg o Chwefror.