Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cenhadaeth ein cenedl yw codi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy’n destun hyder a balchder cenedlaethol.

Dengys tystiolaeth ac ymchwil ryngwladol fod cysylltiad cadarnhaol rhwng dosbarthiadau llai o faint a chyrhaeddiad, yn enwedig ar gyfer disgyblion o gefndiroedd tlotach. Mae hyn i'w weld fwyaf ymhlith plant iau. Yn ogystal, mae lleihau maint dosbarthiadau yn cael yr effaith fwyaf o ran codi safonau pan gyfunir hynny â newidiadau a diwygiadau i addysgu ac addysgeg. Mewn ymateb i'r dystiolaeth hon, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyfanswm o £36m dros dymor y Cynulliad hwn i leihau maint dosbarthiadau babanod, gan ddechrau gyda'r dosbarthiadau mwyaf gyntaf.

Mae'r meini prawf ar gyfer y cyllid hwn yn targedu dosbarthiadau babanod o 29 neu fwy mewn ysgolion sydd ag o leiaf un o'r canlynol neu gyfuniad ohonynt:

  • lefelau uchel o ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim;
  • deilliannau is na'r cyfartaledd a lle mae'r ysgol yn y categori Coch neu Oren yn y System Gategoreiddio Ysgolion; 
  • lefelau uchel o ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig;
  • lefelau uchel o ddisgyblion nad Cymraeg/Saesneg yw eu hiaith gyntaf. 


Rwy'n hynod falch bod awdurdodau lleol wedi dangos diddordeb mawr yn y grant hwn a bod pob awdurdod wedi cyflwyno achosion busnes manwl ar gyfer elfen refeniw'r grant, sy'n werth £16 miliwn, ar gyfer ysgolion sy'n bodloni'r meini prawf.

Golyga hyn y bydd mwy na 80 o ysgolion ar draws Cymru'n elwa ar y cyllid refeniw i ddechrau, a hynny drwy benodi mwy na 80 o athrawon ychwanegol i leihau'r dosbarthiadau babanod mwyaf mewn ysgolion lle ceir lefelau uchel o amddifadedd, anghenion addysgol arbennig a/neu lle mae angen gwella'r addysgu a'r dysgu. Dyma flwyddyn gyntaf y grant, ac felly bydd y niferoedd yn cynyddu wrth i'r awdurdodau lleol dargedu ysgolion eraill ar gyfer y cyllid refeniw.  

Cefais y pleser o ymweld ag un o'r ysgolion hynny ddoe. Mae Ysgol Gynradd Awel-y-Môr yng Nghastell-nedd Port Talbot yn ymgeisydd da ar gyfer y grant, gyda niferoedd uwch na'r cyfartaledd o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu ag anghenion addysgol arbennig. O fis Medi ymlaen, bydd yr ysgol yn cael athro ychwanegol er mwyn lleihau maint ei dosbarthiadau babanod a gwella safonau. Bydd penodi athro ychwanegol a dosbarthiadau babanod llai o faint yn fuddiol iawn i'r ysgol wrth iddi barhau â'i hymdrechion i wella.

Mae nifer o awdurdodau lleol wedi cyflwyno ceisiadau ar gyfer yr elfen gyfalaf o'r grant hefyd, lle mae lleihau maint dosbarthiadau babanod mewn ysgolion sy'n bodloni'r meini prawf yn dibynnu ar gael dosbarthiadau ychwanegol. Mae'r ceisiadau hyn bellach wedi cyrraedd y cam craffu terfynol a byddant yn cynyddu ymhellach nifer yr ysgolion sy'n elwa ar y grant.

Mae lleihau llwyth gwaith athrawon yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru.  Bydd dosbarthiadau llai o faint yn lleihau'r llwyth gwaith ac yn cynyddu'r amser y mae'r athrawon yn ei dreulio gyda'r disgyblion a'i ansawdd.  

Bydd yr athrawon ychwanegol a geir drwy leihau maint dosbarthiadau yn cefnogi cydymffurfiaeth â chymarebau'r Cyfnod Sylfaen ac, yn bwysicach fyth, yn darparu mwy o amser yng nghwmni athro cymwysedig, sy'n hanfodol ar gyfer gweithredu addysgeg y Cyfnod Sylfaen yn effeithiol.

Bydd y buddsoddiad hwn, yn gysylltiedig â’n diwygiadau eraill, yn gwella cyrhaeddiad yn y blynyddoedd cynnar, yn cael effaith sylweddol ar gyfer disgyblion mwy difreintiedig, yn cefnogi athrawon i fod yn arloesol ac yn cynyddu ymgysylltiad â disgyblion.

Rydym yn cydnabod nad lleihau maint dosbarthiadau yw'r unig ffactor sy'n ysgogi gwelliant yn ein hysgolion, a dyma pam mae'r polisi hwn yn cael ei weithredu yng nghyd-destun ein diwygiadau ehangach fel rhan o'n cenhadaeth genedlaethol i godi safonau. Mae hyn yn cynnwys dileu biwrocratiaeth ddiangen, cryfhau hyfforddiant cychwynnol i athrawon, safonau proffesiynol newydd ar gyfer athrawon, dull cenedlaethol ar gyfer dysgu a datblygu proffesiynol, a darparu cymhelliannau i raddedigion newydd ac aeddfed er mwyn eu denu i'r proffesiwn er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.

Rwy'n hyderus bod y polisi hwn yn ymateb i bryderon athrawon a rhieni a hefyd yn cyfrannu at ein cenhadaeth i godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg sy'n destun hyder a balchder cenedlaethol.