Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Tachwedd 2023 gwnaeth fy rhagflaenydd ddatganiad yn rhoi diweddariad ar yr ymdrechion i leihau llwyth gwaith a biwrocratiaeth i staff addysg. Rwyf am roi gwybod i'r aelodau am y cynnydd a wnaed ers hynny. 

Dechreuwyd defnyddio trefniadau wedi'u hailffocysu a'u hailstrwythuro ddechrau 2024, wrth sefydlu'r Grŵp Cydlynu Llwyth Gwaith Strategol. Mae aelodaeth y Grŵp yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol a chynrychiolwyr o bob rhan o'r system. Mae ei gylch gwaith yn cynnwys darparu adolygiad strategol o gynnydd i'r Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol Ysgolion.Yn sail i'r Grŵp Strategol mae tri gweithgor sy'n canolbwyntio ar gyllid; adrodd ac ymgysylltu; a datblygu a gweithredu polisi. Mae'r gweithgorau hyn yn cynnwys cynrychiolwyr ar ran undebau addysg a phartneriaid gwella ysgolion, ac yn cael eu cadeirio'n annibynnol ganddynt.

Mae’r Gweithgor Cyllid wedi bod yn canolbwyntio ar symleiddio’r mecanweithiau ar gyfer darparu cyllid i ysgolion. Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi symleiddio prosesau monitro a gwerthuso ein grantiau i leihau'r llwyth gwaith sy'n gysylltiedig ag adrodd. Mae adroddiadau wedi gostwng o tua 50 yn 2022-23 i ddim ond 8 yn y flwyddyn ariannol bresennol. Bydd hyn yn arwain at ostyngiad sylweddol yn y pwysau llwyth gwaith ar awdurdodau lleol ac ysgolion. Gellir gweld canlyniad hyn yn nyfarniadau grantiau'r flwyddyn bresennol, lle rydym wedi symleiddio'r cyllid sydd ar gael i awdurdodau lleol ac ysgolion yn unol â blaenoriaeth y llywodraeth i godi safonau. Cyn hyn, darperid cyllid drwy grantiau amrywiol, a châi tua 20 o ffrydiau ariannu gwahanol eu dyroddi i nifer o dderbynwyr. Er mwyn symleiddio trefniadau cyllido cenedlaethol a lleihau'r baich biwrocrataidd, mae pob grant yn cael ei ddyroddi bellach i awdurdodau lleol, gan gynnwys y Grant Gwella Addysg a'r Grant Consortia Rhanbarthol. Mae gwaith pellach ar symleiddio’r trefniadau cyllido yn rhan o’r Adolygiad o Gyllido Ysgolion.

O dan y Gweithgor Adrodd ac Ymgysylltu, mae'r holl bartneriaid wedi rhannu eu gofynion adrodd eu hunain yn rhagweithiol i helpu'r gweithgor i ganolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth uchel ar gyfer newid.  Cynhaliwyd trafodaethau â phartneriaid ar ofynion adrodd statudol ar gyfer ysgolion, yr Adroddiad Datblygu Ysgol ac Adroddiadau’r Llywodraethwyr, yn ogystal â cheisiadau adrodd gan awdurdodau lleol ac o fewn ysgolion. Mae'r camau sy'n dod i’r amlwg yn canolbwyntio ar ddarparu eglurder am y ceisiadau a dileu dyblygiadau. Wrth i'r grŵp symud i gyfeiriad gwella ansawdd yr ymgysylltu rhwng ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag oddi mewn iddynt, bydd yn datblygu egwyddorion y cytunir arnynt ar gyfer ymgysylltu ac adrodd cadarnhaol. Nod y gwaith hwn yw hwyluso diwylliant sy'n galluogi egwyddorion ymddiriedaeth a chydweithio, a nodir yn y Rhaglen Partneriaeth Gwella Ysgolion, i dyfu. Rwy’n disgwyl i’r trefniadau newydd ar gyfer gwella ysgolion fod yn llai beichus ac yn fwy effeithiol i awdurdodau lleol, athrawon ac arweinwyr. 

Mae’r gwaith o dan y Gweithgor Datblygu a Gweithredu Polisi yn cynnwys cynnydd o ran asesiadau o’r effaith ar lwyth gwaith. Ers 2023, mae cynnydd pendant wedi'i wneud o ran ymgorffori asesiad o bolisïau newydd a diwygiedig ar draws ystod o feysydd, megis yr Hawl i Ddysgu 14-16. Wrth symud ymlaen bydd yn cynnwys datblygiadau polisi fel Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), newidiadau i gymwysterau a chyflwyno'r Siarter Llwyth Gwaith a Llesiant newydd. Mae Grŵp Cyfeirio Athrawon hefyd wedi'i sefydlu, ac mae'n cynnwys athrawon dosbarth a chynorthwywyr addysgu. Mae'r Grŵp eisoes wedi amlygu rhai materion allweddol, megis dulliau mwy hyblyg o weithio, cefnogi athrawon i fynd i'r afael ag ymddygiad mewn ysgolion ac edrych ar oblygiadau llwyth gwaith marcio a dulliau asesu eraill.

Mae Estyn wedi parhau i weithio gyda'i phartneriaid i egluro disgwyliadau ynghylch llwyth gwaith a pharatoi cyn arolygiad. Mewn partneriaeth ag undebau llafur addysgol, mae wedi datblygu ymgyrch ar y cyfryngau i rannu'r negeseuon hyn ac i herio'r mythau sy'n aml yn codi ynghylch ei gwaith arolygu a'i disgwyliadau o ddarparwyr. Mae gwaith Estyn gydag awdurdodau lleol ynghylch cefnogi ysgolion mewn categori statudol yn dilyn arolygiad yn helpu i sicrhau bod cysylltiad agosach rhwng cynllun gweithredu ôl-arolygiad yr ysgol a datganiad gweithredu'r awdurdod lleol.  

Mae'r canllawiau adolygu datblygiad proffesiynol (a elwid gynt yn rheoli perfformiad) wedi'u cyhoeddi yn dilyn ymgysylltu ag ymarferwyr a phartneriaid allweddol. Mae'r canllawiau'n sicrhau bod y trefniadau yn gyson â datblygiadau mewn gwella ysgolion a dysgu proffesiynol a'i nod yw cefnogi'r proffesiwn i wynebu'r heriau presennol a sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni ei botensial. Bydd ysgolion yn gallu troi at y canllawiau diwygiedig ar adeg gyfleus ac yn y ffordd sydd fwyaf effeithiol iddyn nhw.

Rwyf hefyd yn gwrando ar adborth y gweithlu ynghylch pwysau yn sgil y diwygiadau ADY. Rwyf wedi nodi’r camau rydym yn eu cymryd ar hyn mewn Datganiad Ysgrifenedig, gan gynnwys cydnabod rôl bwysig Cydlynwyr ADY drwy dderbyn argymhellion pumed adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru.