Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rydym yn falch o'r cynnydd yr ydym wedi'i wneud fel Llywodraeth i greu'r amodau a fydd yn caniatáu i fusnesau a rhanbarthau ar draws Cymru sicrhau twf cynhwysol. Mae'r sylfeini yr ydym wedi'u gosod drwy'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wedi creu platfform cynaliadwy ar gyfer busnesau newydd a rhai sy'n cychwyn arni i sefydlu eu hunain ac i ffynnu gan wasgaru cyfoeth ar draws Cymru a lleihau anghydraddoldeb ar yr un pryd.

Mae'r sylfeini hyn yn gadarn ond gallwn ddeall pam bod anniddigrwydd o ystyried yr ansicrwydd presennol ynghylch ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd a’r newidiadau i arweinyddiaeth Llywodraeth y DU.

I ychwanegu at yr her, mae'r dirwedd o ran deddfwriaeth a pholisi ar draws y DU yn gymhleth ac yn frith, i raddau amrywiol, o drefniadau datganoli gwahanol. Mae Brexit wedi amlygu'r cymhlethdod hwn ac mae'n bwysicach nag erioed bod Llywodraethau yn gweithio gyda'i gilydd i ymdopi â hynny ac i feithrin perthnasau mwy effeithiol i fynd i'r afael â materion economaidd.

Rwy'n croesawu'r egwyddorion drafft ar weithio rhynglywodraethol a gyhoeddwyd gan Weinidog Swyddfa’r Cabinet a Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn. Mae'r egwyddorion eang hyn yn creu sylfaen a fydd yn ein helpu i ddatblygu ein perthnasau ar draws gweinyddiaethau'r DU. Fodd bynnag, mae angen inni wneud hyd yn oed yn fwy i baratoi ar gyfer yr heriau sydd o'm blaenau, gan gynnwys cydweithrediad economaidd ar draws cenedlaethau a rhanbarthau, cyllid busnes, rheoliadau, cymorth gwladwriaethol a mynediad i lafur.  Bydd angen inni weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod busnesau yn gydnerth ac yn barod i fanteisio ar gyfleoedd a allai ddeillio o ymadael â'r UE.

Hyd yn hyn, mae dau grŵp pedairochrog wedi'u sefydlu gyda chydweithwyr Gweinidogol o Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) Llywodraeth y DU a Gweinyddiaethau Datganoledig eraill; mae un yn canolbwyntio ar fusnes a diwydiant a'r llall ar ynni a newid hinsawdd. Ym mis Ebrill, cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig a oedd yn manylu'r cyfarfod cychwynnol ar fusnesau a diwydiant.

Cafwyd cyfarfod cadarnhaol ac roedd yn gyfle i drafod rhai o'r cymhlethdodau hyn ac i ddechrau datblygu'r berthynas waith sydd ei hangen i fynd i'r afael â'r heriau yr ydym yn eu hwynebu.

Bwriadwyd cynnal cyfarfod dilynol i ddatblygu'r berthynas ymhellach ddechrau'r mis ond methwyd oherwydd amserlen brysur. Gyda mis Hydref yn gyflym agosáu, mae diffyg ymgysylltu strwythuredig ac effeithiol ar y materion hyn yn peri risg sylfaenol i fusnesau a diwydiannau yng Nghymru, ac i'r setliad datganoli yn ehangach. Felly, rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol yn BEIS yn pwysleisio, fel mater o flaenoriaeth, fod angen i Weinidogion drafod ac yn galw am gyfarfod cynnar ar ôl toriad yr haf.