Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ar 24 Hydref, cyhoeddais gyllid gwerth £28m i helpu byrddau iechyd i leihau'r amseroedd aros hiraf, cynyddu nifer yr apwyntiadau cleifion allanol a chyflymu profion diagnostig.
Heddiw, rwy'n cynyddu'r cyllid hwnnw i £50m, a fydd ar gael ar unwaith i fyrddau iechyd i gynyddu capasiti yn y GIG yng Nghymru ac i gomisiynu gweithgarwch o'r sector preifat, pan fo hynny ar gael.
Bydd y ffocws yn parhau i fod ar leihau'r amseroedd aros hiraf am driniaeth, lleihau amseroedd aros ar gyfer profion diagnostig a chynyddu capasiti mewn adrannau cleifion allanol.
Fodd bynnag, bydd hefyd yn cynnwys pecyn gwerth £3m i leihau'r amseroedd aros hiraf ar gyfer asesiadau niwroddatblygiadol i blant ledled Cymru. Bydd hyn yn cyd-fynd â gwaith ehangach y mae Gweithrediaeth y GIG a byrddau iechyd yn ei wneud i drawsnewid gwasanaethau.