Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’n bleser gen i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar ein cynlluniau strategol ar gyfer trawsnewid mynediad at ofal brys ac argyfwng, wrth inni lansio ein llawlyfr polisi ar y Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng sy’n cwmpasu gweddill tymor y Senedd hon.

Mae’r pandemig wedi cael effaith ddofn ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau gofal brys ac argyfwng hanfodol. Mae’n brawf o ymroddiad a sgiliau clinigwyr, gweithwyr proffesiynol a staff eraill ar draws y sector iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector a’r sector annibynnol bod mwyafrif y bobl sydd angen y gwasanaethau hanfodol hyn yn parhau i dderbyn gofal diogel, effeithiol a phrydlon.

Mae’r ffaith bod y pandemig yn parhau yn dyfnhau’r her, ond mae hefyd yn arwain at gyfleoedd i wella. Rhaid inni ddefnyddio’r profiad hwn, dysgu o’r hyn sy’n bwysig i bobl pan fyddant yn defnyddio gofal brys ac argyfwng a datblygu modelau gofal newydd sy’n canolbwyntio ar y gymuned. Rhaid inni hefyd helpu’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol i ddatblygu drwy addysg a hyfforddiant, cynyddu’r capasiti staffio yn rhannau hanfodol y llwybr a darparu gwasanaethau profedig mewn modd cyson a dibynadwy.

Mae’r llawlyfr hwn yn nodi ein blaenoriaethau a’n disgwyliadau uniongyrchol ar gyfer Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau’r GIG, Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, partneriaid annibynnol a’r trydydd sector. Rydym am weld pobl sydd angen gofal brys ac argyfwng yn derbyn y gofal iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf drwy gyflawni’r chwe nod canlynol mewn modd cyson a dibynadwy:

  1. Cydgysylltu, cynllunio a chymorth i bobl sydd â risg uwch o fod angen gofal brys neu ofal mewn argyfwng
  2. Cyfeirio pobl i’r lle iawn, y tro cyntaf
  3. Dewisiadau eraill sy’n ddiogel yn glinigol yn lle mynd i’r ysbyty
  4. Ymateb cyflym os oes argyfwng corfforol neu argyfwng iechyd meddwl
  5. Darparu’r gofal gorau posibl i’r claf ar ôl iddo gael ei dderbyn i’r ysbyty
  6. Dull ‘gartref yn gyntaf’ a lleihau’r risg o orfod mynd yn ôl i’r ysbyty

Dylai cyflawni’r chwe nod hwn arwain at brofiadau gwell i gleifion a staff o ofal brys ac argyfwng, canlyniadau gwell a helpu i sicrhau gwerth.

Bydd Aelodau’n sylwi bod rhai cerrig milltir yn rhai tymor canolig neu dymor hwy. Mae hyn yn codi o’r cymhlethdodau ychwanegol sy’n deillio o’r pandemig, a’i waddol, a’r amser mae’n ei gymryd i hyfforddi, recriwtio a lleoli’r gweithlu cywir yn rhannau gorau y llwybr gofal brys ac argyfwng er mwyn gwireddu ein huchelgais i gael y gofal iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf. Ond, mae camau gweithredol a pharhaus yn cael eu cymryd i gyrraedd y cerrig milltir rydym wedi’u gosod.

Byddwn yn cefnogi Byrddau Iechyd a phartneriaid i gyflawni’r chwe nod drwy raglen genedlaethol newydd a gefnogir gan gyllid ychwanegol a’r ffrydiau galluogi gwaith canlynol:

  1. newid digidol, gwybodeg a thechnoleg
  2. mesur ar gyfer gwella a gofal iechyd sy’n seiliedig ar werth
  3. addysgu, hyfforddi a datblygu'r gweithlu
  4. newid ymddygiad, cyfathrebu a marchnata.  

Caiff y blaenoriaethau cenedlaethol uniongyrchol canlynol eu hamlinellu yn y llawlyfr polisi:

  • Canolbwyntio ar fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, gan sicrhau bod pawb ar draws Cymru yn gallu cael mynediad at, a chael eu cysylltu â’r cymorth sydd ei angen arnynt i barhau i fod yn annibynnol, gwella bywydau a chanlyniadau
  • Defnyddio GIG 111 Cymru fel y cam cyntaf ar gyfer model gofal brys pob awr o bob dydd, gan helpu i gyfeirio pobl sydd ag anghenion gofal brys at y gofal iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf. Efallai mai i’r Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys newydd fydd hyn er mwyn helpu pobl i osgoi gorfod mynd i Adrannau Brys yn ddi-angen
  • Datblygu seilwaith cymunedol cryf ac integredig a sefydlu gwasanaethau gofal brys ar yr un diwrnod saith diwrnod yr wythnos, deuddeg awr y dydd i helpu pobl i osgoi cael eu derbyn i’r ysbyty os yw hynny’n ddiogel
  • Sefydlu llwybrau i helpu pobl i gael y canlyniadau gorau mewn argyfwng iechyd corfforol ac iechyd meddyliol, a chanolbwyntio ar ofal diogel, prydlon o ansawdd mewn Adrannau Argyfwng
  • Ffocws newydd ar gefnogi pobl i ddychwelyd gartref o’r ysbyty pan fyddant yn barod; gan leihau hyd eu harhosiad yn yr ysbyty i wella profiad a chanlyniadau a chanolbwyntio ar adsefydlu a gwella drwy ddull gweithredu iechyd a gofal cymdeithasol integredig.

Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wneir drwy’r rhaglen chwe nod cyn toriad yr haf.