Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n gwbl benderfynol o sicrhau bod pob  plentyn yng Nghymru yn cael mynediad at wasanaethau addysg sy'n caniatáu iddynt wireddu eu potensial. Mae darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS) yn chwarae rhan hollbwysig o ran addysgu dysgwyr agored i niwed ac mae nifer o wahanol opsiynau ar gael i'w darparu; mae Unedau Cyfeirio Disgyblion yn benodol yn dal i fod yn ddewis arall angenrheidiol yn lle ysgolion prif ffrwd.

Ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddais y Fframwaith ar gyfer Gweithredu Addysg Heblaw yn yr Ysgol, sef ein cynllun tymor hir ar gyfer gwella deilliannau a chodi safonau o ran y ddarpariaeth EOTAS.

Un o'r prif gamau a nodwyd yn y Fframwaith ar gyfer Gweithredu Addysg Heblaw yn yr Ysgol oedd cryfhau cyngor a chanllawiau ar gyfer aelodau pwyllgorau rheoli Unedau Cyfeirio Disgyblion. I'r perwyl hwn, rwy'n cyhoeddi Llawlyfr ar gyfer Pwyllgorau Rheoli Unedau Cyfeirio Disgyblion. Mae'r Llawlyfr yn ychwanegu at y canllawiau statudol sydd eisoes yn bodoli ar gyfer Rheoliadau Addysg 2014. Maent yn rhoi cyngor ymarferol a fydd o help i aelodau pwyllgorau rheoli wrth iddynt gefnogi a herio eu Huned Cyfeirio Disgyblion.

https://beta.llyw.cymru/llawlyfr-ar-gyfer-pwyllgorau-rheoli-unedau-cyfeirio-disgyblion