Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Rhagfyr 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn cynnal adolygiad o’r polisi ar lawdriniaeth fariatrig ar hyn o bryd. Gwasanaeth arbenigol yw llawdriniaeth fariatrig, a’r Pwyllgor sy’n gyfrifol am gynllunio a chyflenwi gwasanaethau arbenigol a thrydyddol yng Nghymru. Mae’r Pwyllgor yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru ac mae’n ofynnol iddo wneud penderfyniadau o ran sut y mae arian GIG Cymru’n cael ei wario.

Mae cyfraddau gordewdra yn y Deyrnas Unedig ymysg yr uchaf yn Ewrop. Profwyd nad yw ymyriadau meddygol yn llwyddo i wrthdroi gordewdra ar ôl i gleifion fynd yn ordew. Profwyd bod llawdriniaeth yn effeithiol yn glinigol ac yn gost effeithiol ac o’r herwydd mae wedi cael ei chymeradwyo gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol. Yng Nghymru yn 2011, roedd 57% o oedolion dros eu pwysau neu’n ordew, gan gynnwys 22% oedd yn ordew. Mae’r codiad yn nifer y bobl sy’n ordew (Mynegai Màs y Corff 
>30) ymysg oedolion yng Nghymru yn arafu (1% dros y 5 mlynedd diwethaf). Fodd bynnag, mae nifer yr achosion o orbwysedd, a’r tueddiadau cyfredol o ran gorbwysedd, yn dal yn annerbyniol o uchel. Mae angen i ni gadw’r momentwm i fynd er mwyn atal oedolion a phlant rhag wynebu dirywiad yn eu hiechyd ac ansawdd bywyd gwaeth ac rydym yn wynebu costau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n codi’n gynyddol o hyd.

Bydd yr adolygiad yn asesu effaith mabwysiadu canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol ar gyfer llawdriniaeth fariatrig ar ganlyniadau iechyd a chostau i GIG Cymru.  

Mae prif feini prawf y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol yn berthnasol i unigolion sydd wedi cael ymyriadau nad ydynt yn llawfeddygol ond sydd wedi methu â cholli digon o bwysau i fod yn fuddiol yn glinigol. Mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd lefelau anarbenigol y llwybr gordewdra a bod yn rhaid i weithredu canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol ar gyfer llawdriniaeth fariatrig gael ei gysylltu â gweithredu’r llwybr llawn.  

Mae’r meini prawf yng Nghymru wedi cael eu datblygu er mwyn defnyddio’r adnoddau prin sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer llawdriniaeth fariatrig gyda’r grŵp sydd yn y perygl mwyaf. Mae’r twf yn y galw, a chyflymder datblygu gwasanaethau, yn golygu y bydd cyfyngiadau bob amser ar y gwasanaethau y gellir eu sicrhau ar unrhyw adeg benodol.

Mae ymagwedd Llywodraeth Cymru’n rhoi pwyslais cryf ar gynnwys cleifion mewn penderfyniadau am eu gofal fel y gallant ddeall y peryglon a’r buddion posibl yn llawn a gwneud dewisiadau gwybodus. Nid yw llawdriniaeth, naill ai band gastrig neu ddargyfeiriad gastrig, ond yn cael ei hariannu pan fo claf yn bodloni meini prawf clinigol penodol. Mae’r meini prawf wedi cael eu gosod er mwyn sicrhau nad yw llawdriniaeth yn cael ei chynnig ond i’r cleifion hynny sydd â’r gallu mwyaf i gael budd ohoni, ac felly, mae’r arian yn gyfyngedig i’r rheiny â phroblemau iechyd dybryd.  

Mae asesiad clinigol ac addasrwydd ar gyfer llawdriniaeth, a wneir gan Banel Tîm Amlddisgyblaethol, yn cynnwys ystyriaethau corfforol a seicolegol, yn ogystal â’r gofyniad i gytuno ar nodau o ran colli pwysau a newidiadau i ffordd o fyw cyn y caiff llawdriniaeth ei hystyried.

Ni ariennir triniaeth ond ar gyfer cleifion sy’n bodloni’r meini prawf clinigol. Dim ond cyfran fach o’r holl gleifion sy’n cael eu hatgyfeirio i gael asesiad sy’n cael y llawdriniaeth. Hefyd, mae hyd at 40% o gleifion yn peidio â mynd ymlaen, er y cytunwyd i ariannu eu triniaeth, ar ôl i fanylion a chymhlethdodau posibl llawdriniaeth fariatrig gael eu hesbonio iddynt. Mae asesiadau clinigol o gymhwystra’n cael eu gwneud gan Sefydliad Llawdriniaeth Gordewdra a Metabolaidd Cymru (WIMOS), yn Ysbyty Treforys, Abertawe, sy’n gweithredu fel ceidwad y porth i Gymru. Yno mae panel Tîm Amlddisgyblaethol yn cael ei gynnull i ystyried atgyfeiriadau o bob cwr o Gymru. Fodd bynnag, gall llawdriniaeth gael ei gwneud naill ai yn Abertawe, neu yn Salford i gleifion o’r Gogledd, ar ôl ei chymeradwyo.

Nod yr adolygiad yw argymell opsiynau i’r Cydbwyllgor ar gyfer diwygio’r polisi presennol ar lawdriniaeth fariatrig. Bydd unrhyw gynigion i ehangu’r gallu i gael llawdriniaeth fariatrig yn cael eu hystyried fel rhan o broses blaenoriaethu Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ar gyfer cynllun 2012/13. Bydd unrhyw gynnig yn cael ei wneud yng nghyd-destun llwybr gordewdra integredig, cynhwysfawr, er mwyn sicrhau y caiff buddion llawdriniaeth eu gwireddu’n llawn.  

Fe’m hysbyswyd y bydd yr adolygiad yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Rhagfyr 2012, ac yn cael ei ddilyn gan bapur ar opsiynau polisi i Gydbwyllgor Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ym mis Ionawr. Mae llawdriniaeth fariatrig yn cael ei chynnwys fel rhan o waith blaenoriaethu  Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i lywio’r cynllun blynyddol.  

Bydd yr adolygiad hwn yn cael ei ystyried yng nghyd-destun Llwybr Gordewdra Cymru gyfan, sy’n nodi dull pedair haen o atal a thrin gordewdra, o atal ac ymyrryd cynnar yn y gymuned i wasanaethau meddygol a llawfeddygol arbenigol. Mae Byrddau Iechyd Lleol, gan gydweithio gydag Awdurdodau Lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill, wedi mapio polisïau, gwasanaethau a gweithgarwch lleol i blant ac i oedolion yn erbyn y pedair haen ymyrraeth ac wedi dynodi bylchau. Mae angen i Fyrddau Iechyd Lleol weithredu atebion lleol ar gyfer y bylchau y maent wedi’u dynodi mewn perthynas â’r tair haen gyntaf.

Byddaf yn rhoi diweddariad arall ar ganfyddiadau’r adolygiad erbyn diwedd mis Ionawr 2013, ar yr amod fod yr adolygiad yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Rhagfyr, fel y rhagwelir.  


Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau.  Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.