Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ym mis Rhagfyr 2012, rhoddais y wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am yr adolygiad o'r polisi ar lawdriniaeth fariatrig sy’n cael ei gynnal gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (y Pwyllgor). Mae'r adolygiad bellach wedi'i gwblhau ac fe'i cyhoeddir ar wefan y Pwyllgor (Dolen allanol) (Saesneg yn Unig). Hoffwn eich hysbysu o'i waith.
Mae llawdriniaeth fariatrig yn wasanaeth arbenigol ac mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau arbenigol a thrydyddol yng Nghymru. Mae'r Pwyllgor yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru ac mae'n ofynnol iddo roi cyngor i’r Byrddau Iechyd ar sut i wneud y defnydd gorau posibl o adnoddau ar gyfer gwasanaethau arbenigol.
Mae'r Pwyllgor wedi gofyn i’r BILlau ystyried canfyddiadau'r adolygiad yng nghyd-destun datblygu cynlluniau ar gyfer gwasanaethau arbenigol yn 2013/14. Bydd y broses hon wedi’i chwblhau erbyn diwedd mis Mawrth. Mater i'r BILlau fydd penderfynu pa rai o'r opsiynau a gynigiwyd ar gyfer gwasanaethau Bariatrig, os o gwbl, y byddant yn eu mabwysiadu, fel rhan o'r broses o lunio cynllun blynyddol gwasanaethau arbenigol y Pwyllgor.
Mae'r adolygiad yn rhoi cyngor ar sut y gall y BILlau ddatblygu'r llwybr gordewdra, yn benodol opsiynau buddsoddi, er mwyn cynyddu darpariaeth llawdriniaeth fariatrig ac adolygu'r meini prawf ar gyfer cael llawdriniaeth fariatrig, er mwyn gwneud y defnydd gorau posibl o adnoddau i fynd i'r afael â phroblem gordewdra.
Mae cyfraddau cynyddol o ordewdra yn broblem ryngwladol. Mae Arolwg Iechyd Cymru yn awgrymu bod cyfraddau gordewdra yng Nghymru yn uchel ac yn cynyddu o bosibl. Amcangyfrifir bod un rhan o bump o'r boblogaeth yn ordew (a ddiffinnir fel BMI>30). Mae unigolion â gordewdra difrifol neu afiachus (BMI>35) yn wynebu mwy o risg o forbidrwydd sy'n gysylltiedig â gordewdra ac mae'n bosibl y byddant yn addas ar gyfer llawdriniaeth fariatrig. Amcangyfrifir bod gan 6% o boblogaeth Cymru ordewdra difrifol (BMI>35).
Caiff llawdriniaeth fariatrig ei chomisiynu ar hyn o bryd yn unol â pholisi comisiynu'r Pwyllgor sy'n dyddio o 2009.
Lansiodd Llywodraeth Cymru Lwybr Gordewdra Cymru Gyfan yn 2010. Mae'r llwybr yn nodi fframwaith pedair haen ar gyfer gwasanaethau gordewdra drwy wasanaethau atal sylfaenol ac ymyrryd yn gynnar ar lefel 1, i lawdriniaeth fariatrig ar lefel 4. Canfu'r adolygiad nad yw Llwybr Gordewdra Cymru Gyfan wedi'i weithredu'n llawn eto, yn enwedig ar lefel 3 lle mae angen gwasanaethau gordewdra amlddisgyblaethol dwys, arbenigol ac anllawfeddygol ar gyfer unigolion sy'n methu â chynnal pwysau iach. Mae'n pwysleisio bod angen datblygu'r llwybr gordewdra (yn arbennig, gwasanaethau lefel 3) fel rhan o gynlluniau lleol i gynyddu nifer y gwasanaethau rheoli pwysau a ddarperir.
Bydd swyddogion yn adolygu cynnydd y BILlau yn erbyn gofynion gwasanaeth sylfaenol Llwybr Gordewdra Cymru Gyfan.
Gobeithio y bydd manylion yr adolygiad yn ddefnyddiol i chi.