Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dydd Gwener diwethaf (11 Chwefror 2022) cynhaliwyd cyfarfod teirochrog rhwng Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Archwilio Cymru i drafod statws uwchgyfeirio cyrff iechyd GIG Cymru.
Rhoddwyd ystyriaeth arbennig i’r lefel uwchgyfeirio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn dilyn cyhoeddi rhan dau o adolygiad y gwahoddwyd Coleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr (RCS) i’w gynnal ar y gwasanaeth fasgwlaidd (yma). Cyhoeddwyd rhan gyntaf yr adolygiad hwn ym mis Mai y llynedd. Gellir dod o hyd i gopi o’r adroddiad hwnnw yma (tudalen 456 o bapurau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mai 2021).
Bydd aelodau eisoes yn gwybod y rhoddwyd camau Ymyriad wedi’i Dargedu ar waith ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ym mis Tachwedd 2020, a hynny mewn pedwar maes:
- Iechyd Meddwl (oedolion a phlant)
- Strategaeth, cynllunio a pherfformiad
- Arweiniad (gan gynnwys llywodraethu, trawsnewid a diwylliant)
- Ymgysylltu (cleifion, y cyhoedd, staff a phartneriaid)
Mae ymyriad wedi’i dargedu yn lefel uwchgyfeirio uchel sy’n gofyn am gamau gweithredu sylweddol ar ran y sefydliad ac yn cynnwys lefel o oruchwyliaeth barhaus gan fy swyddogion.
Yn dilyn y cyfarfod teirochrog yr wythnos diwethaf ac o ganlyniad i’r wybodaeth a gefais gan y bwrdd iechyd, rwyf wedi penderfynu rhoi rhybudd clir y bydd canlyniadau os na fydd yr argymhellion o Adolygiadau’r Coleg Brenhinol yn cael eu datblygu’n ddigonol o fewn tri mis.
Gadewch imi nodi’n glir fy rhesymau dros hyn.
Mae’r bwrdd iechyd wedi ymateb yn gyflym i’r ail ran o adolygiad yr RCS ac wedi rhoi nifer o gamau gweithredu ar waith yn syth gan gynnwys sefydlu cysylltiadau gyda Lerpwl, sefydlu Panel Ansawdd a fydd yn cael ei gadeirio’n annibynnol a chymryd camau i gryfhau arweinyddiaeth glinigol yn lleol. Rwyf wedi cael cynllun gweithredu manwl a fydd yn cael ei roi ar waith yn syth a byddaf yn cael adroddiadau misol gan y Cadeirydd.
Rwy’n credu mai’r peth cywir i’w wneud yw caniatáu amser i’r bwrdd iechyd brofi bod y mesurau hyn yn gwneud gwahaniaeth. Fodd bynnag, rwyf wedi nodi’n glir i’r bwrdd iechyd os nad wyf yn teimlo’n hyderus bod y camau a gynlluniwyd ganddynt yn cael eu rhoi ar waith, neu os nad wyf wedi fy argyhoeddi bod y gwasanaeth ar y trywydd cywir o fewn y tri mis nesaf, y byddaf yn cynnull cyfarfod teirochrog ychwanegol i ystyried cyngor ar fesurau uwchgyfeirio pellach.