Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dyma'r pedwerydd diweddariad ar gyflawni Law yn Llaw at Iechyd, ein gweledigaeth bum mlynedd ar gyfer y GIG yng Nghymru, a gyhoeddwyd gyntaf ym mis Tachwedd 2011. Mae'r datganiad hwn yn canolbwyntio ar ddatblygiadau dros y chwe mis diwethaf.
Mae Law yn Llaw at Iechyd yn datgan yn glir mai nod cyffredinol y Llywodraeth hon yw gwella iechyd pawb yng Nghymru, gan roi sylw arbennig i leihau anghydraddoldebau. Mae hefyd yn datgan yn glir bod gan y Llywodraeth hon ymrwymiad i gefnogi GIG modern sy'n darparu gofal o ansawdd uchel yn gyson, gan fynd i'r afael yn hyderus â'r heriau sylweddol y mae'n eu hwynebu hefyd. Fel Llywodraeth rydyn ni'n cydnabod bod y sefyllfa economaidd, ynghyd â gofynion poblogaeth sy'n heneiddio fwyfwy a disgwyliadau uwch yn sgil cynnydd mewn triniaeth, yn golygu bod heriau sylweddol gerbron y GIG. Rydyn ni'n deall bod angen i gyrff y GIG barhau i gymryd camau radical ar frys i gyflawni'r weledigaeth yn Law yn Llaw at Iechyd ac mae'r rhesymeg sy'n sail i'r camau gweithredu angenrheidiol wedi'u nodi'n glir yn Law yn Llaw at Iechyd.
Rydyn ni bellach hanner ffordd drwy'r rhaglen bum mlynedd. Er bod llawer i'w wneud o hyd, mae cryn dipyn wedi'i gyflawni eisoes. Mae'r ffaith ein bod ni wedi cyflawni nifer o'r ymrwymiadau a wnaed yn 2011 yn y fath gyfnod heriol yn golygu y dylem fod yn hyderus y gallwn barhau i wneud y newidiadau angenrheidiol i ddarparu gwasanaeth iechyd diogel a chynaliadwy yng Nghymru.
Mae'r Datganiad hwn yn grynodeb o'r cynnydd ers y tro diwethaf i mi roi diweddariad i'r Cynulliad ym mis Mai 2013.
Gwella Iechyd i Bawb a Mynd i'r Afael ag Anghydraddoldebau Iechyd
Mae ymdrechion i wella iechyd y boblogaeth gyfan a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn parhau i fod yn ganolog i'n gwaith, ac maent wedi'u hadlewyrchu ar draws ystod lawn o'n rhaglenni a'n mentrau. Ar lefel strategol dros y chwe mis diwethaf, mae gwaith wedi parhau i roi ar waith yr ystod eang o gamau gweithredu yn Canlyniadau Iechyd Tecach i Bawb, ein cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer lleihau anghydraddoldebau iechyd.
Rydyn ni hefyd wedi canolbwyntio ar sicrhau bod y GIG a gwasanaethau cymdeithasol yn cyfrannu'n llawn at Gynlluniau Trechu Tlodi a Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Llywodraeth Cymru. Dros y chwe mis diwethaf, yn ogystal â'n cynnydd da o ran cyflawni camau gweithredu penodol fel datblygu'r archwiliad iechyd i bobl dros 50 oed, rydyn ni wedi symud ymlaen ar nifer o fentrau eraill. Mae hyn yn cynnwys y Rhaglen Deddf Gofal Gwrthgyfartal lle bellach mae gan ddau Fwrdd Iechyd Lleol arweiniol dargedau penodol mewn perthynas â'u mentrau lleol. Ochr yn ochr â hyn, bydd pob BILl yn defnyddio'u dadansoddiad anghenion eu hunain i weithio gyda'u clystyrau lleol i adolygu'r ffordd orau i ddyrannu adnoddau gefnogi'r nodi o leihau'r anghydraddoldebau iechyd sy'n bodoli.
Dros y chwe mis diwethaf rydyn ni wedi rhoi ystyriaeth bellach i botensial deddfwriaeth a allai'n helpu i wella canlyniadau yr unigolion tlotaf a mwyaf dan anfantais yn ein cymunedau. Mae'r ystyriaethau hyn yn cael eu bwydo i'r gwaith datblygu ar gyfer y Papur Gwyn Iechyd y Cyhoedd a Bil Cenedlaethau'r Dyfodol.
Rydyn ni hefyd yn pennu cerrig milltir a thargedau tlodi lleol a fydd yn rhan o'n gwaith ar Fframwaith Cyflawni newydd y GIG i'w gyflwyno ym mis Ebrill 2014. System fydd hon i sicrhau bod Byrddau Iechyd Lleol yn pennu targedau clir ar gyfer lleihau anghydraddoldebau iechyd ac yn adrodd ar gynnydd fel gweithgaredd prif ffrwd.
Ym mis Mehefin, cyhoeddwyd ‘Darparu Gofal Iechyd Lleol – Sbarduno Newid’. Yn ogystal â'i gwneud yn ofynnol i Fyrddau Iechyd Lleol lunio asesiad trylwyr o anghenion iechyd lleol, rydyn ni hefyd yn pwysleisio bod gan ofal sylfaenol a chymunedol rôl allweddol i'w chwarae o ran gwella iechyd a llesiant ymysg ein hunigolion a'n cymunedau sydd fwyaf dan anfantais. Ar ben hyn, mae cynnydd wedi bod o ran cefnogi unigolion i fod yn fwy cyfrifol am eu hiechyd a'u llesiant eu hunain, a chynhaliwyd digwyddiad cenedlaethol ar 20 Tachwedd i nodi wythnos Hunan-ofal.
Ysbytai ar gyfer yr 21ain Ganrif
Er bod gwasanaethau atal problemau, diogelu iechyd a gofal sylfaenol yn hanfodol i wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau, mae hefyd yn allweddol cael gwasanaethau cynaliadwy o ansawdd uchel mewn ysbytai i'r rheini sydd eu hangen. Mae cynnydd sylweddol hefyd wedi bod yn y maes hwn dros y chwe mis diwethaf.
Mae'r cam cyntaf yn y cynlluniau ar gyfer Gogledd Cymru yn cael ei roi ar waith, yn dilyn cytundeb rhwng y Bwrdd Iechyd a'r Cyngor Iechyd Cymuned. O ran cyfalaf mae'r cynlluniau yn y cynlluniau ad-drefnu wedi cael eu hadolygu ac mae cynlluniau ar waith lle cytunwyd arnynt. Mae'r rhain bellach yn cael blaenoriaeth o ran cymorth cyllid o'r gyllideb cyfalaf iechyd ar gyfer y dyfodol. Gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Tachwedd yn derbyn model arfaethedig y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant ar gyfer darparu gwasanaethau newyddenedigol yn y Gogledd yn y tymor hwy, gan ddatblygu canolfan is-ranbarthol gofal dwys i'r newydd-anedig.
Yn dilyn argymhellion y panel craffu annibynnol, cyhoeddais fy mhenderfyniad ynghylch newid gwasanaethau yn ardal Hywel Dda ym mis Medi. Rwyf wedi penderfynu mai meddygon fydd yn rhoi arweinyddiaeth glinigol ar y model gofal brys yn Ysbyty'r Tywysog Philip ac yn ei ddarparu ochr yn ochr ag ymarferwyr nyrsio brys. Rwyf hefyd wedi cadarnhau fy mod yn cefnogi datblygu uned babanod newydd-anedig lefel 2 yng Nglangwili, ond gofynnais am waith pellach i egluro gwasanaethau obstetreg a bydwreigiaeth yn yr ardal. Mae'r wybodaeth hon bellach wedi dod i law ac mae'r panel craffu dan arweiniad clinigwyr yn cael ei ailymgynnull i roi ei gyngor a'i argymhellion terfynol i mi ar y mater hwn. Rwy’n bwriadu cyhoeddi fy mhenderfyniad terfynol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 21 Ionawr 2014.
Cynhaliodd Rhaglen De Cymru ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar ei chynigion rhwng 23 Mai ac 19 Gorffennaf. Daeth dros 60,000 o ymatebion i law, a chyhoeddwyd y dadansoddiad terfynol a chrynodeb yr ymgynghoriad ar wefan RhDC ar 8 Tachwedd. Rwy'n cael ar ddeall y caiff penderfyniad ei wneud yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.
Rydyn ni hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Byrddau Iechyd Lleol, awdurdodau trafnidiaeth lleol, y diwydiant bysiau a'r sector trafnidiaeth gymunedol i ganolbwyntio ar y goblygiadau trafnidiaeth yn sgil newid gwasanaethau fel rhan o'r rhaglen ad-drefnu.
Mae cyfle i wella gwasanaethau yng nghefn gwlad Cymru drwy atebion cynllunio arloesol a defnyddio technoleg i ddarparu gofal yn y cartref neu'n agos at y cartref. Rydyn ni newydd gyhoeddi adroddiad gan Grŵp Gweithredu'r Cynllun Iechyd Gwledig ar ei waith, wedi cyhoeddi Cronfa Technoleg Iechyd a Theleiechyd newydd i gefnogi mabwysiadu'r ffyrdd newydd hyn o weithio yn helaeth, ac wedi cynnal digwyddiad arddangos cenedlaethol ar 18 Tachwedd.
Fel ymateb, byddaf yn comisiynu gwaith i ystyried modelau gwasanaeth i fynd i'r afael â'r pwysau, yr heriau a'r cyfleoedd penodol o ran darparu gwasanaethau i'r rheini sy'n byw yn ardal y Canolbarth, sy'n wledig gan fwyaf.
Anelu at Ragoriaeth
Roedd Law yn Llaw at Iechyd yn ymdrech benderfynol i ddarparu gofal cyson o ansawdd uchel. Roedd y Cynllun Cyflawni Ansawdd yn amlinellu'r ffordd o wneud hyn, drwy hyfforddi, monitro ac adrodd. Mae'r mwyafrif helaeth o bobl Cymru yn cael gofal diogel da ac mae staff y GIG yn cael eu hyfforddi a'u cymell i'w ddarparu. Ond nid oes rheswm dros fod yn hunanfodlon ac rydyn ni'n gwybod bod angen cymryd camau effeithiol ar frys pan aiff pethau o'i le.
Un o ymrwymiadau'r Cynllun Cyflawni Ansawdd yw gwella tryloywder i ysgogi gwelliant. Ym mis Medi, cyhoeddodd yr holl Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd Lleol Ddatganiadau Ansawdd Blynyddol am y tro cyntaf. Mae adolygiad gan gymheiriaid o'r Datganiadau Ansawdd Blynyddol bellach yn cael ei gynnal o dan arweiniad yr Athro Rosemary Kennedy. Bwriedir cynnal digwyddiad dysgu ym mis Ionawr 2014 er mwyn rhannu arfer gorau a dysgu gwersi.
Yn dilyn Adroddiad Francis yn Lloegr, cyhoeddwyd "Darparu Gofal Diogel, Gofal Tosturiol", yn amlinellu'r camau y byddwn yn eu cymryd yng Nghymru i sicrhau na all yr achosion hyn ddigwydd yma. Byddaf yn adrodd ar ein cynnydd yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd a bydd hyn hefyd yn dylanwadu ar Ddatganiad Ansawdd Cymru Gyfan rwy'n bwriadu ei gyhoeddi flwyddyn nesaf.
Mae'n bwysig ein bod ni hefyd yn defnyddio gwybodaeth ar bob lefel i lywio gwelliannau yn ansawdd gofal. Byddaf yn cael adroddiad ym mis Ionawr 2014 ar y gwaith sydd wedi'i sefydlu gydag AGIC a Swyddfa Archwilio Cymru i ddiffinio proses glir ar gyfer mynegi pryderon ac ymyrryd. Ar ben hyn, yn fuan byddaf yn cyhoeddi manylion adolygiad allanol ynghylch y broses pryderon/cwynion er mwyn gallu adeiladu diwylliant ac ethos o wasanaeth cwsmeriaid da ymhellach yn y GIG. Bydd hyn yn ategu'r cynnydd rydyn ni'n ceisio'i gael o ran safbwyntiau a gweithredu ar adborth am brofiad a bodlonrwydd cleifion.
Cynlluniau Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Penodol
Fe'n hymrwymwyd drwy ‘Law yn Llaw at Iechyd’ i ddatblygu a chyhoeddi ystod o gynlluniau cyflawni ar gyfer gwasanaethau pwysig, ac rydyn ni wedi parhau i wneud cynnydd da dros y chwe mis diwethaf.
Yn dilyn cyhoeddi'n Cynllun Cyflawni Gofal Lliniarol a Diwedd Oes ar 16 Ebrill 2013, mae'r Bwrdd Cyflawni wedi comisiynu pob BILl i lunio cynllun gweithredu yn amlinellu gweithgarwch lleol.
Ym mis Mai cyhoeddwyd y Cynllun Cyflawni Clefyd y Galon, ac mae gofyn bellach i bob BILl lunio Dadansoddiad o Anghenion Cleifion ar gyfer gwasanaethau cardiaidd yn eu hardaloedd. Disgwylir cwblhau hyn erbyn mis Ionawr 2014. Ym mis Medi cyhoeddwyd ein Cynllun Cyflawni Diabetes, lle ceir prif ffocws tymor byr ar ddatblygu system wybodaeth newydd ar gyfer cleifion diabetes, gwella mynediad at addysg strwythuredig am diabetes a rhoi mwy o bwyslais ar bediatreg ac achosion yn ymwneud â diabetes Math 1.
Hefyd cyhoeddwyd Cynllun Cyflawni Gofal Iechyd Llygaid Cymru ym mis Medi gan amlinellu ystod o ganlyniadau penodol ar gyfer gwella gofal llygaid erbyn 2018. Rydyn ni wrthi'n ymgynghori ar fersiynau drafft y Cynlluniau Cyflawni Cyflyrau Anadlol a Niwrolegol.
Mae cynnydd da hefyd yn cael ei wneud o ran rhoi ar waith y cynlluniau cyflawni a gyhoeddwyd yn 2012, gan gynnwys pennu trefniadau adrodd ar gyfer canser, strôc ac iechyd meddwl a darparu gwasanaethau mamolaeth. Rydyn ni hefyd wedi gwneud cynnydd ar ein Cynllun Cenedlaethol Iechyd y Geg, a lansiwyd ym mis Mawrth 2013 ac sy’n gofyn i Fyrddau Iechyd lunio cynlluniau gweithredu lleol ar iechyd y geg i fodloni’r blaenoriaethau y maen nhw wedi’u nodi erbyn 31 Rhagfyr 2013.
Gofal Heb Ei Drefnu
Cafwyd cydnabyddiaeth yn Law yn Llaw at Iechyd i'r pwysau sylweddol ar ofal brys ac argyfwng yn y Deyrnas Unedig. Yng Nghymru, y Rhaglen Gofal Heb Ei Drefnu, a gyhoeddwyd ar 23 Ebrill, sy'n gyfrifol am ein hymateb. Mae'r rhaglen gyffredinol yn cynnwys deg prosiect, ac mae'n un o'n prif flaenoriaethau o hyd o ystyried yr effaith a gaiff hyn ar y GIG a chleifion fel ei gilydd. Ceir ffocws amlwg ar alinio BILlau, gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol a'r gwasanaeth ambiwlans wrth i ni baratoi GIG Cymru i wrthsefyll pwysau'r gaeaf. Dros y chwe mis diwethaf, mae'n Grŵp Cynllunio Tymhorol wedi bod yn cynllunio ar gyfer gaeaf 2013/14, ac yn dilyn Fforwm Cynllunio'r Gaeaf ym mis Medi, mae cynlluniau gaeaf ffurfiol wedi'u derbyn ac yn cael eu hadolygu.
Ochr yn ochr â'r rhaglen ar ofal brys ac argyfwng, ceir gwaith i roi ar waith argymhellion Adolygiad McClelland ar wasanaethau ambiwlans a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Mae'r gwaith hwn yn mynd yn ei flaen yn unol â'r amserlen y cytunwyd arni, a bwriedir rhoi'r drefniadaeth newydd ar waith ym mis Ebrill 2014.
Gan adeiladu ar y broses gynllunio y datblygais mewn perthynas â gofal heb ei drefnu, cyhoeddais drefniadau newydd ar gyfer gwella cynllunio gofal dewisol mewn datganiad i’r Cynulliad ar 10 Rhagfyr.
Tryloywder ynghylch Perfformiad
Rydyn ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau newid sylweddol ynghylch y data sydd ar gael i gleifion am berfformiad eu gwasanaethau iechyd lleol. Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y Byrddau Iechyd Lleol gyfraddau marwolaeth a gwybodaeth am heintiau a gafwyd mewn gofal iechyd.
Ym mis Hydref 2013, lansiwyd ‘Fy Ngwasanaeth Iechyd Lleol’ sy'n cynnig gwybodaeth bwysig am berfformiad gwasanaethau lleol. Mae gwefan Fy Ngwasanaeth Iechyd Lleol yn ffordd newydd o wella tryloywder ar draws GIG Cymru. Bydd y wefan hon yn galluogi cleifion i ddod o hyd i wybodaeth yn gyflym, gan ategu gwefannau'r GIG a Llywodraeth Cymru.
Partneriaeth Newydd gyda'r Cyhoedd
Yn 2012, cyhoeddwyd ein papur ymgynghori ar faterion yn ymwneud â datblygu partneriaeth newydd gyda'r cyhoedd, ac roedd y mater hefyd wrth wraidd yr ymgynghoriad ar y posibilrwydd o gyhoeddi Bil Iechyd y Cyhoedd newydd. Ers hynny cafwyd nifer o fentrau ar rannu technegau penderfynu a hyfforddi clinigwyr i weithio'n well gyda'r cyhoedd. Rydyn ni hefyd wedi ceisio rhoi mwy o wybodaeth i'r cyhoedd ac mae'r ymgynghoriadau ynghylch newid gwasanaethau wedi bod gyda'r mwyaf agored ac arloesol erioed yng Nghymru. Mae hyn oll yn rhoi mwy o sylw nag erioed ar gasglu ac ystyried safbwyntiau cleifion.
Cyfrif Pob Ceiniog
Mae ‘Law yn Llaw at Iechyd’ hefyd wedi'n hymrwymo i sefydlu trefn ariannol newydd i wella'r gwaith o gynllunio a defnyddio adnoddau ariannol yn unol â blaenoriaethau clinigol. Yn ganolog i hyn mae cychwyn ar drefn ariannol fwy hyblyg, wedi'i ategu gan ddyletswydd ariannol gyfreithiol ar Fyrddau Iechyd Lleol i fantoli'r gyllideb dros gyfnod treigl o 3 blynedd yn hytrach na bob blwyddyn. Er mwyn cefnogi hyn, aethom ati ar frys i gyflwyno deddfwriaeth newydd drwy Fil Cyllid y GIG (Cymru) a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 3 Rhagfyr. Disgwylir Cydsyniad Brenhinol ddiwedd mis Ionawr 2014.
Hefyd rydyn ni newydd gyhoeddi £570m ychwanegol dros y tair blynedd nesaf i sicrhau y gall y GIG yng Nghymru barhau i ddarparu gwasanaethau ar sail egwyddorion craidd diogelwch ac ansawdd.
Ochr yn ochr â'r adnoddau ychwanegol a'r hyblygrwydd ariannol newydd, rydyn ni wedi cryfhau'r system gynllunio ar draws GIG Cymru. Mae Fframwaith Cynllunio GIG Cymru a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd yn egluro rolau a chyfrifoldebau cynllunio perthnasol Llywodraeth Cymru a chyrff y GIG. Mae hyn yn cynnwys amlinellu disgwyliadau cyffredin Llywodraeth Cymru a GIG Cymru ar gyfer Cynlluniau Tymor Canolig Integredig; diffinio'r cylch cynllunio a threfniadau craffu a sicrwydd allweddol; ac amlinellu'r cymorth sydd ar gael, neu sy'n cael ei ddatblygu, ar draws y system er mwyn helpu i greu system gynllunio effeithiol. Mae'r Byrddau Iechyd Lleol wrthi'n datblygu eu Cynlluniau Tymor Canolig ar gyfer 2014/15.
Rydyn ni hefyd wedi mynd ati i gryfhau'r system berfformiad i roi mwy o ffocws ar ganlyniadau i gleientiaid. Dros y chwe mis diwethaf rydyn ni wedi cyfathrebu â'r cyhoedd, ynghyd â chlinigwyr a phartneriaid eraill, i drafod sut dylem fesur perfformiad y GIG.
Deddfwriaeth
Mae cynnydd wedi parhau dros y chwe mis diwethaf ar ein rhaglen ddeddfwriaethol, gyda deddfwriaeth allweddol yn cael ei datblygu sy'n chwarae rhan o ran cefnogi ymrwymiadau Law yn Llaw at Iechyd. Yn ogystal â Bil Cyllid y GIG (Cymru) a nodwyd eisoes, cymeradwyodd y Cynulliad Ddeddf Trawsblannu Dynol 2013 ym mis Gorffennaf. Mae’r broses o’i rhoi ar waith yn mynd yn ei blaen, gydag ymgyrch wybodaeth ddwy flynedd a fydd yn arwain at weithredu llawn erbyn 1 Rhagfyr 2015. Cymeradwyodd y Cynulliad Cenedlaethol y Bil Asbestos ar 20 Tachwedd ac mae yn ei gyfnod hysbysu pedair wythnos ar hyn o bryd. Mewn datganiad i’r Cynulliad Cenedlaethol, hysbysodd y Cwnsler Cyffredinol y Cynulliad Cenedlaethol ei fod wedi penderfynu cyfeirio’r Bil at y Goruchaf Lys, gan nodi ei resymau dros wneud hynny. Ar 12 Tachwedd, cymeradwyodd y Cynulliad reoliadau i roi ar waith a gweithredu cynllun sgorio hylendid bwyd statudol yng Nghymru, fel sy’n ofynnol gan y Bil Sgorio Hylendid Bwyd 2013. Daeth y Ddeddf a Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd 2013 i rym ar 28 Tachwedd.
Casgliad
At ei gilydd, mae'r diweddariad hwn yn dangos cynnydd parhaus yn erbyn yr ymrwymiadau polisi iechyd allweddol yn ‘Law yn Llaw at Iechyd’. Mae'r diwygiadau hyn yn cydblethu ac yn hanfodol i wella ansawdd bywyd i bawb a gwneud y GIG yng Nghymru yn gyson ddiogel ac effeithiol, ac yn fwy integredig, cynaliadwy a chydnerth. Mae'r cynnydd hyd yn hyn wedi digwydd drwy ymrwymiad staff ar draws y gwasanaeth, ein partneriaid a'r cyhoedd, ac rwy'n ddiolchgar am hynny. Rwyf hefyd yn hyderus y gallwn adeiladu ar hyn wrth i ni fwrw ymlaen â'n hagenda ar y cyd.