Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, rwy’n lansio ymgynghoriad 12 wythnos ar y strategaeth ddrafft ar gyfer iechyd meddwl a lles, sef Law yn Llaw at Iechyd Meddwl. Bydd y strategaeth yn adeiladu ar lwyddiannau diweddar ac yn bwrw ymlaen â’r ymrwymiadau a’r nodau sydd yn ein Rhaglen Lywodraethu, yn Law yn Llaw at Iechyd ac yn Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu.
Mae Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn disgrifio ein gweledigaeth o ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl o safon fyd eang yng Nghymru – gwasanaeth a fydd yn sicrhau canlyniadau gwell i bobl o bob oed. Bydd y weledigaeth hon yn cael ei gwireddu mewn partneriaeth â’r Byrddau Iechyd Lleol, yr Awdurdodau Lleol, y sector gwirfoddol, ynghyd â defnyddwyr y gwasanaethau, eu gofalwyr a’u teuluoedd.
Mae hon yn strategaeth sydd wedi’i datblygu ar draws y Llywodraeth gyfan. Mae’n disgrifio dull holistaidd o fynd i’r afael yn effeithiol â’r hyn sy’n achosi afiechyd meddwl, ac â’i effeithiau. Am y tro cyntaf yng Nghymru, dyma strategaeth ar gyfer pob oedran sy’n rhoi sylw i wella lles a chadernid meddyliol ymysg y boblogaeth yn gyffredinol, ac sy’n mynd ati hefyd i ddatblygu canlyniadau ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl, eu gofalwyr a’u teuluoedd. Yn sail i hyn, bydd gwaith yn cael ei wneud ar draws y sectorau er mwyn mynd ati i gefnogi trefn o adfer ac ailalluogi a fydd yn helpu pobl i fyw’n annibynnol a gwireddu eu potensial yn llawn.
Mae amcanion Mesur Iechyd Meddwl Cymru yn ganolog i’r strategaeth hon – mae’n annog ymyrryd mor gynnar â phosibl, a hynny ar sail tystiolaeth. Mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd gwasanaethau cynaliadwy sy’n canolbwyntio ar ddiogelwch ac urddas.