Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd aelodau am wybod y byddaf heddiw yn cyhoeddi dogfen ymgynghori ar Llwybr Newydd – Strategaeth Trafnidiaeth Newydd i Gymru.  Bydd y cyfnod ymgynghori yn dechrau ar 17 Tachwedd 2020 ac yn gorffen ar 25 Ionawr 2021.

Bydd Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn gwneud datganiad llafar yn y Siambr yn ddiweddarach heddiw i roi rhagor o fanylion i aelodau.

Mae Llwybr Newydd – Strategaeth Trafnidiaeth Newydd i Gymru yn nodi’n huchelgeisiau ar gyfer trafnidiaeth am yr 20 mlynedd nesaf.  Mae’n seiliedig ar drafod helaeth â rhanddeiliaid a cheir ynddo gynigion ar gyfer cyflawni polisïau a mesurau asesu perfformiad.

Mae’r Strategaeth ddrafft yn nodi hefyd gynlluniau sylfaenol ar gyfer teithio llesol, rheilffyrdd, bysiau, ffyrdd (gan gynnwys strydoedd a pharcio), y trydydd sector, tacsis a cherbydau hurio preifat, cludo nwyddau a logisteg, hedfan a phorthladdoedd a’r môr.

Ni fydd yn nodi nac yn cyflwyno prosiectau, cynlluniau, mentrau nac ymyriadau penodol gan y byddwn yn eu nodi nhw yn y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth a gaiff ei ddatblygu a’i gynnal gan Trafnidiaeth Cymru.

Rwy’n gobeithio y gwnaiff yr aelodau gymryd rhan yn y broses ymgynghori ac annog eu hetholwyr i ymateb gyda’u syniadau a’u meddyliau.

Cewch weld y strategaeth a’r dogfennau ategol yma https://llyw.cymru/llwybr-newydd