Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Mawrth 2017, sefydlais y Panel Arbenigwyr Addysg Rhyw a Pherthnasoedd er mwyn ymchwilio i’r cyfleoedd a’r materion ynglŷn â gallu ysgolion i ddarparu dysgu o ansawdd uchel ar berthnasoedd iach ac addysg rhyw. Ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddodd y panel 11 argymhelliad ar y camau y dylid eu cymryd er mwyn gwella’r ffordd y caiff y pwnc hwn ei gyflwyno yn y cwricwlwm cyfredol a’r cwricwlwm newydd yng Nghymru.

Yn dilyn ystyriaeth o argymhellion y Panel Arbenigwyr, cyhoeddais y byddwn o blaid eu gweithredu. Un o’r argymhellion hyn oedd y dylai’r canllawiau diwygiedig gael eu cyhoeddi ar gyfer y cwricwlwm cyfredol, y dylai’r enw ar gyfer y maes pwnc hwn newis o Addysg Rhyw a Pherthnasoedd i Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ac y dylai fod yn statudol yn y cwricwlwm newydd.

Yn y papur gwyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar, 'Cenhadaeth ein Cenedl: cwricwlwm gweddnewidiol - cynigion am fframwaith deddfwriaethol newydd', rydym yn cynnig y dylai Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb fod yn statudol yn y cwricwlwm newydd. Nid ydym, fodd bynnag, yn disgwyl i’n trefniadau newydd gael eu cyflwyno er mwyn cychwyn y broses o wella ansawdd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Rydym am sicrhau bod cymorth ar gael ar gyfer ysgolion ac ymarferwyr i gynllunio darpariaeth Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb effeithiol cyn gynted â phosibl.

Dyna pam rydw i’n cyhoeddi heddiw lansiad cyhoeddus ein dogfen ddiwygiedig o ganllawiau’r cwricwlwm - 'Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb mewn Ysgolion'. Nod y canllawiau hyn yw rhoi i ysgolion gyngor a chymorth ychwanegol ynglŷn â gweithredu dull ysgol gyfan ar gyfer 'Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb', sy’n cyd-fynd â’r dystiolaeth agyflwynwyd gan y panel arbenigwyr. Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y canllawiau hyn wedi’i gyhoeddi heddiw a byddwn yn annog ymarferwyr o bob lleoliad i roi gwybod i ni beth yw eu meddyliau ar yr hyn rydym yn ei gynnig. Mae’r ymgynghoriad ar gael yn:

https://beta.llyw.cymru/canllawiau-drafft-ar-addysg-cydberthynas-rhywioldeb

Er bod y cwricwlwm yn bwysig, nid dyma’r unig faes rydym yn darparu mwy o gymorth Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ar ei gyfer. Mae gwella cyfleoedd dysgu proffesiynol yn elfen allweddol hefyd o ran helpu ysgolion i sicrhau dysgu o ansawdd uchel yn y maes hwn. Y llynedd, darparwyd £200,000 i gonsortia i gychwyn y broses o nodi anghenion dysgu proffesiynol mewn perthynas ag Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Rydw i’n hapus gyda’r gwaith sy’n bosib diolch i’r cyllid hwn, ac mae pob consortia’n cydweithio’n uniongyrchol â’u hysgolion a’u hymarferwyr er mwyn deall anghenion dysgwyr yn lleol a thargedu cymorth yn unol â hynny.

Hoffwn ddiolch i banel arbenigwyr Addysg Rhyw a Pherthnasoedd a’u cadeirydd, yr Athro Emma Renold, am eu cymorth. Mae’r Athro Renold wedi parhau i gydweithio â’m swyddogion a chydag ysgolion arloesi er mwyn datblygu a sefydlu’r gofyniad statudol ar gyfer Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ar draws ei holl feysydd o ran dysgu a phrofiadau yn y cwricwlwm newydd.

Gwn fod yna lawer o waith i’w wneud eto er mwyn sicrhau bod gan bobl ifanc yng Nghymru iechyd corfforol, meddwl ac emosiynol da. Byddaf yn parhau i weithio, mewn partneriaeth ag ysgolion, ymarferwyr a rhanddeiliaid er mwyn sicrhau ein bod yn adeiladu ar y llwyddiannau hyn wrth i ni symud ymlaen i ddiwygio ein system addysg.