Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010  yn rhoi dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi Strategaeth Tlodi Plant ar gyfer Cymru - ac i osod amcanion i drechu tlodi plant a gwella canlyniadau i deuluoedd ar incwm isel. Cyflawnodd Gweinidogion Cymru y ddyletswydd hon wrth gyhoeddi Strategaeth 2011, sy'n ymdrin â’r cyfnod rhwng 2011 a 2014. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru yn awr yn ymgynghori ynghylch Strategaeth Tlodi Plant ddiwygiedig.

Mae'r Strategaeth Ddiwygiedig yn nodi dull Llywodraeth Cymru i trechu tlodi phlant a gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc sy'n byw mewn cartrefi incwm isel.

Trechu tlodi yw un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o hyd. Nid yw lefelau tlodi yng Nghymru yn dderbyniol nac yn anochel ac mae’r Strategaeth Tlodi Plant ddiwygiedig hon yn ailddatgan ein huchelgais i ddileu tlodi plant erbyn 2020. Rydym yn cydnabod bod hon yn her hynod uchelgeisiol,  yn enwedig o gofio effaith a maint y mesurau diwygio lles a’r toriadau mewn gwariant cyhoeddus, ond rydym yn dal yn  benderfynol o wneud popeth yn ein gallu â’r ysgogiadau a’r cyllidebau sydd gennym.  

Mae'r Strategaeth Tlodi Plant ddiwygiedig yn tanlinellu’n hymrwymiad i gyflawni'r tri amcan / canlyniad strategol a amlinellir yn ein Strategaeth Tlodi Plant 2011. Dyma’r amcanion:

  1.  Lleihau nifer y teuluoedd sy'n byw ar aelwydydd heb waith.
  2.  Gwella sgiliau rhieni / gofalwyr a phobl ifanc sy'n byw mewn ar aelwydydd, er mwyn iddyn nhw sicrhau swyddi sy’n talu'n dda.
  3.  Lleihau anghydraddoldebau mewn canlyniadau  iechyd, addysg a sefyllfa economaidd plant a theuluoedd drwy wella canlyniadau'r tlotaf.  

Mae'r tri amcan hyn yn adlewyrchu’r ysgogiadau polisi sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Yn bwysicach fyth, maent hefyd yn adlewyrchu’r hyn y mae'r dystiolaeth yn ei ddangos inni am y ffordd orau y gall Llywodraeth Cymru ddylanwadu i wella canlyniadau teuluoedd incwm isel.

Mae’r Strategaeth ddiwygiedig hon yn amlygu ac yn cryfhau'r cysylltiadau â Chynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru i Drechu Tlodi – ac mae’r Cynllun Gweithredu hwn yn rhan allweddol o’r broses o gyflawni'r amcanion rydym wedi'u gosod ym maes tlodi plant.  Mae'r Strategaeth ddiwygiedig hefyd yn canolbwyntio o'r newydd ar sicrhau bod dolen gyswllt rhwng ein strategaethau, ein polisïau, ein cynlluniau a’n rhaglenni i sicrhau eu bod yn rhoi sylw cyson a pharhaus i blant a phobl ifanc.

Gallwch ymateb i'r ymgynghoriad hwn drwy lenwi ffurflen ar-lein, sydd ar gael ar lein.