Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy'n cyhoeddi heddiw ymgynghoriad ynghylch fy Nghynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod dros y chwe blynedd nesaf. 

Pwrpas y Cynllun yw cynnal twf cynaliadwy a chreu swyddi yn y diwydiant bwyd. Bydd y Cynllun yn datblygu cyfleoedd presennol a chyfleoedd newydd ar gyfer busnesau bwyd a diod Cymreig o fewn marchnadoedd domestig ac allforio, a bydd hefyd yn denu buddsoddiad uniongyrchol o dramor. Bydd angen arweiniad gan y Llywodraeth a'r diwydiant yn ogystal o fewn partneriaeth neu Ffederasiwn newydd er mwyn gweithredu'r Cynllun a bydd angen sicrhau bod pob rhan o'r gadwyn fwyd yn cael ei chynrychioli.  

Bydd proffil ac enw da bwyd a diod o Gymru yn cael eu cryfhau a’u cynyddu drwy frand newydd Bwyd a Diod Cymru a thrwy ddatblygu rhagor o gynhyrchion y mae eu henwau wedi'u hamddiffyn. Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i ddatblygu sgiliau'r gweithlu drwy sicrhau rhagor o bwyslais ar hyfforddiant a'i gydgysylltu'n well. Caiff yr holl gymorth a'r mesurau ymyrryd sydd ar gael i fusnesau bwyd eu hadolygu fel rhan o'r Cynllun, a chânt eu hadnewyddu fel y bo angen, er mwyn sicrhau'r ddarpariaeth briodol ar gyfer y gweithgynhyrchwyr bwyd mwyaf a'r microfusnesau lleiaf.   Bydd arloesedd yn parhau wrth wraidd yr holl waith datblygu ac ymyrryd yn y dyfodol. Bydd busnesau’n cael eu helpu i leihau eu hôl troed carbon, gan gyflawni twf gwyrdd gwirioneddol gan wneud y sector yn fwy gwyrdd.  Byddwn yn cydweithio'n agos â Croeso Cymru er mwyn meithrin diwylliant bwyd a fydd yn agwedd allweddol ar ein diwydiant twristiaeth ac i’n helpu i werthfawrogi lle bwyd yng nghymdeithas Cymru ac fel rhan o’n hunaniaeth genedlaethol. Bydd diogelwch bwyd yn ystyriaeth gwbl allweddol a bydd y Llywodraeth a hefyd fusnesau'n rhannu'r cyfrifoldeb amdano.  Byddai'r Cynllun hwn yn anghyflawn heb gyfeiriad at iechyd y cyhoedd. Mae'n rhaid iddo sicrhau bod gwell gwybodaeth ar gael a fydd yn galluogi pobl i wneud dewisiadau iach o ran bwyd sydd ar gael yn ddidrafferth ac sy'n fforddiadwy i bawb. Mae'n rhaid i weithgynhyrchwyr hefyd dderbyn cyfrifoldeb am gynhyrchu bwydydd a diodydd sy'n fwy iach.
Byddaf yn croesawu trafodaeth eang ar fy Nghynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2020.  Byddaf yn cyhoeddi fframwaith cynhwysfawr o ddigwyddiadau a gweithgareddau a fydd yn creu cyfleoedd i gyfarfod â swyddogion a chyflwyno sylwadau a fydd yn allweddol er mwyn sicrhau bod y cynllun terfynol, adeg ei gyhoeddi yn y gwanwyn, yn gwbl briodol wrth gynorthwyo busnesau bwyd a diod i fodloni anghenion defnyddwyr.
Yn olaf, mae’r cynllun hwn yn wahanol iawn i strategaethau blaenorol Llywodraeth Cymru.  Nid rhyw daflen mohoni sy’n disgrifio’r bwyd rhagorol sydd gennym yng Nghymru.  Mae’r Cynllun yn ddogfen waith sy’n disgrifio ymyriadau’r Llywodraeth i gefnogi’r sector a’r diwydiant. Bydd yn dod â rhai digwyddiadau sydd eisoes ar droed ynghyd ac yn darparu cymorth cydlynol a chyson gan bob rhan o Lywodraeth Cymru a’n partneriaid i helpu pob rhan o’r gadwyn fwyd.  Bydd y cynllun hwn yn gosod targedau mesuradwy a chaiff ein setiau data eu gwella er mwyn sicrhau bod y mesurau'n gywir.  Caiff y Cynllun hefyd ei gaboli i fod yn fwy tryloyw trwy amserlenni clir ar gyfer gwireddu’r ymrwymiadau.   Mae polisi bwyd yn faes trawsbynciol a gall gyflawni twf gwyrdd, sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithlon, cyflawni cydnerthedd a threchu tlodi.   Trwy sicrhau cydweithio ar draws y llywodraeth ac â'r diwydiant bwyd gallwn anelu'n uchel a chyflawni mwy.