Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn fy natganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 22 Mai 2018, mae'n bleser gen i rannu dolenni â chi i'r pecynnau ymgynghori ar reoleiddio gwasanaethau maethu, lleoli oedolion ac, am y tro cyntaf, gwasanaethau eirioli statudol plant.

Mae'r ymgyngoriadau hyn yn rhan o gam 3 y broses o weithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a fydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2019.


Mae'r ymgynghoriad ar wasanaethau maethu yn gofyn am farn ar:

  • ofynion i'w gosod ar ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol asiantaethau maethu annibynnol, dan Ddeddf 2016 
  • gofynion i'w gosod ar wasanaethau maethu awdurdodau lleol, dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 
  • proses ddiwygiedig ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth (y Mecanwaith Adolygu Annibynnol). 

Yn ogystal â'r ddogfen ymgynghori, wedi'u cynnwys mae set o Reoliadau drafft; canllawiau statudol drafft, dan adran 29 o Ddeddf 2016 (mewn perthynas â'r darparwyr annibynnol) a chod ymarfer drafft, dan adran 145 o Ddeddf 2014 (mewn perthynas â gwasanaethau awdurdodau lleol). Mae'r canllawiau drafft a'r cod yn cynnwys gwybodaeth bellach ar y ffordd y caiff darparwyr gydymffurfio â gofynion y gwasanaeth sydd wedi'u nodi yn y Rheoliadau.

Mae'r ymgynghoriad ar wasanaethau lleoli oedolion yn gofyn am farn ar:

  • ofynion i'w gosod ar ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol cynlluniau lleoli oedolion annibynnol ac awdurdodau lleol, dan Ddeddf 2016
  • yr egwyddor o ymestyn y cynlluniau hyn i gynnwys pobl ifanc 16 a 17 oed 
  • canllawiau statudol drafft i gyd-fynd â'r Rheoliadau. 


Mae'r ymgynghoriad ar wasanaethau eirioli yn gofyn am farn ar Reoliadau newydd sy'n gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol gwasanaethau eirioli statudol plant. Caiff y gwasanaethau eirioli hyn eu trefnu gan awdurdodau lleol dan ddyletswydd Deddf 2014 i gynorthwyo plant, plant sy'n derbyn gofal a mathau penodol o unigolion sy'n gadael gofal i wneud sylwadau am eu hanghenion o ran gofal a chymorth. Rydym hefyd wedi amgáu canllawiau statudol drafft i'w hystyried, a fydd yn cyd-fynd â'r Rheoliadau.


Wrth fynd ati i ddatblygu'r gofynion ar gyfer gwasanaethau cam 3, rydym wedi ystyried ac, os yn briodol, cysoni â'r safonau a gafodd eu cymeradwyo gan y Cynulliad hwn a’u gweithredu yn ystod cam 2 (Ebrill 2018) ar gyfer gwasanaethau gan gynnwys cartrefi gofal a chymorth cartref.

Mae sicrhau cysondeb yn y gofynion a osodir ar ddarparwyr ac unigolion cyfrifol yr holl wasanaethau rheoleiddiedig yn un o fy mhrif amcanion polisi wrth weithredu'r Ddeddf. Fodd bynnag, rwyf hefyd yn cydnabod bod gan bob gwasanaeth ei nodweddion ei hun. Bydd y gofynion drafft felly yn cael eu teilwra lle bo'n briodol i sicrhau eu bod yn cyd-fynd yn y ffordd orau â darpariaeth gwasanaethau cam 3 yn ymarferol, heb gyfaddawdu'r disgwyliadau cyffredinol.

Yn yr un modd â cham 2, mae'r Rheoliadau drafft wedi'u cynllunio a'u datblygu gyda chymorth a chyngor gan grwpiau technegol rhanddeiliaid, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am hynny. Mae eu cyfraniadau wedi helpu i sicrhau bod y gofynion drafft yn addas ar gyfer eu gwasanaethau penodol. Rwy'n croesawu barn bellach ar hyn.

Bydd yr ymgyngoriadau hyn yn dod i ben ddydd Iau 16 Awst 2018.

https://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2018/riscaupdate/?skip=1&lang=cy 

https://beta.llyw.cymru/rheoliadau-gwasanaethau-maethu 

https://beta.llyw.cymru/rheoliadau-gwasanaethau-lleoli-oedolion 

https://beta.llyw.cymru/rheoliadau-gwasanaethau-eirioli