Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, mae'n bleser gennyf gyhoeddi lansiad y Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl sy'n cadarnhau ein hymrwymiad i gefnogi gofalwyr di-dâl o bob oed a chefndir yng Nghymru.
Mae'r lansiad yn nodi blwyddyn ers dechrau'r cyfyngiadau symud cyntaf yng Nghymru. Dros y deuddeg mis diwethaf, mae gofalwyr di-dâl ym mhob cwr o Gymru wedi ymdopi â'u pryderon eu hunain am y feirws gan hefyd ofalu am ffrind neu berthynas, yn aml heb gefnogaeth eu rhwydweithiau arferol.
Drwy gydol y pandemig, mae'n bosibl bod llawer ohonom wedi ymgymryd â rôl gofalwr di-dâl am y tro cyntaf. Efallai fod rhai wedi ei chael hi’n anodd cynnal cydbwysedd rhwng gwaith ac amser hamdden wrth inni ymgymryd ag ymrwymiadau gofalu newydd, neu ragor o ymrwymiadau o’r fath. Gobeithiaf fod y profiadau hyn yn codi ymwybyddiaeth o'r holl ofalwyr di-dâl yn ein cymunedau – o blant neu bobl ifanc sy'n cefnogi brawd neu chwaer neu riant, i bobl hŷn sy'n gofalu am bartner, neu’r llu o gymdogion a ffrindiau sy'n treulio llai o oriau yn gofalu ond sy'n dal i ddarparu cymorth hanfodol i gadw unigolion yn iach ac yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain. Efallai na fydd angen cymorth ffurfiol gan wasanaethau statudol ar bob un ohonynt, ond mae pob un ohonynt yn haeddu ein diolch.
Rhaid inni werthfawrogi gofalwyr di-dâl a chydnabod eu bod yn rhan sylfaenol o system iechyd a gofal Cymru. Mae'r strategaeth yn amlinellu sut rydym eisoes yn cefnogi gofalwyr di-dâl yng Nghymru drwy gyllid i awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswydd i gefnogi gofalwyr di-dâl o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru); cyllid i Fyrddau Iechyd Lleol a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol; cymorth ar gyfer cyflwyno’r Cerdyn Adnabod Cenedlaethol i Ofalwyr Ifanc a'n Grant i’r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy.
Mae'r strategaeth newydd hon yn cynrychioli ein hymrwymiad o'r newydd i wella'r gydnabyddiaeth a gaiff gofalwyr di-dâl yng Nghymru, yn ogystal â’r cymorth a roddir iddynt. Mae'n nodi ein blaenoriaethau cenedlaethol diwygiedig ar gyfer gofalwyr a bydd cynllun cyflawni manylach yn dilyn yn hydref 2021.
Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Ofalwyr, a'r grŵp ymgysylltu ategol, fydd yn arwain ar y gwaith o gyflawni.
Mae gofalu yn fater i bawb – mae ymgymryd â rôl ofalu yn rhywbeth y mae pob un ohonom yn debygol o’i wneud ar ryw adeg yn ein bywydau. Rwy'n gobeithio y bydd y strategaeth hon a'r cynllun cyflawni ategol yn llywio gwaith partneriaeth tuag at gymdeithas sy'n cydnabod, yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi gofalwyr di-dâl o bob oed a chefndir i fyw'n dda ac i gyflawni eu canlyniadau llesiant eu hunain.