Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd a Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd
Wrth i Gymru fynd i'r afael ag effeithiau cynyddol y newid yn yr hinsawdd a'r difrod y gall llifogydd ei achosi, mae'r angen i leihau'r risg i gymunedau nawr ac i'r dyfodol yn tyfu. Er mwyn mynd i'r afael â'r heriau sylweddol hyn, ymrwymodd ein Rhaglen Lywodraethu i ddarparu atebion rheoli llifogydd sy'n seiliedig ar natur ar draws dalgylchoedd pob afon fawr.
Mae'n bleser gennym gyhoeddi heddiw ein bod yn lansio'r Rhaglen Sbarduno ar gyfer Rheoli Llifogydd yn Naturiol. Bydd y rhaglen yn buddsoddi £4.6 miliwn dros 2 flynedd i ehangu ymhellach ein hymrwymiad i weithio ar y cyd â ffermwyr, perchenogion tir a mudiadau'r trydydd sector ledled Cymru. Bydd y cynllun hwn yn adeiladu ar yr hyn y mae prosiectau llwyddiannus y gorffennol wedi dysgu i ni ac yn dod â nifer o atebion arloesol at ei gilydd i ddatblygu atebion sy'n seiliedig ar natur yn ein dalgylchoedd gwledig. Mae'r rhaglen yn ariannu 23 o brosiectau, ar draws 8 ardal awdurdod gwahanol, a bydd yn gwella ein hamgylchedd naturiol, yn ehangu cynefinoedd gwlyptir a choetir, ac yn lleihau'r perygl o lifogydd i hyd at 2,000 eiddo. Bydd hyn yn cryfhau nifer y cynlluniau Rheoli Llifogydd yn Naturiol ledled Cymru a'n rhoi ar y trywydd iawn i gyflawni ein hymrwymiad a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu erbyn 2026.
Mae datblygu a chynnal atebion cynaliadwy sy'n seiliedig ar natur i leihau perygl llifogydd yn hanfodol i amddiffyn a gwella ein hamgylchedd, ein cartrefi a'n cymunedau.
Mae'r gwaith diweddar a wnaed yng nghynllun dalgylch Wnion yn enghraifft ardderchog o gydweithio rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Gwynedd. Mae'r prosiect hwn yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy gamau rheoli tir yn gynaliadwy megis adfer gwlyptiroedd a mawndiroedd, plannu coed, sefydlogi argloddiau ac adfer afonydd, gyda'r holl fesurau eisoes yn helpu i leihau'r risg o lifogydd. O fewn dalgylch Wnion, bydd eiddo ym mhentrefi Rhydymain a thref Dolgellau yn elwa ar lai o berygl llifogydd a safon uwch o amddiffyniad rhag llifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn ogystal, mae'r camau hyn i gyd yn cyfrannu at ein nodau o wella bioamrywiaeth, dal mwy o garbon, a lleihau llygredd, sydd i gyd yn hanfodol er mwyn rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy a sicrhau twf ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda chefnogaeth ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir a busnesau bwyd, gallwn ddatblygu'r economi wledig a'n hamgylchedd naturiol mewn ffordd gynaliadwy. Bydd hyn yn gwella ein gwybodaeth a'n profiad ymhellach o ran darparu prosiectau cydweithredol cydlynol mewn ardaloedd sy'n tueddu i ddioddef gan lifogydd. Drwy ddefnyddio'r wybodaeth a geir o gynnal cynlluniau fel hyn, byddwn hefyd yn lleihau llygredd, yn lleihau dŵr ffo ac yn annog ffyrdd newydd o addasu i hinsawdd sy'n newid.
Rydym i gyd yn cydnabod bod angen inni gydweithredu mwy wrth ystyried ac annog ffyrdd newydd o weithio ar y cyflymder a'r raddfa sydd eu hangen. Bydd y buddsoddiad hwn yn caniatáu i Awdurdodau Rheoli Risg a chymunedau lleol arwain brosiectau a lleihau perygl llifogydd yn eu hardal.