Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mai 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Ar 12 Gorffennaf 2011, gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad ar Raglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Yn y datganiad hwnnw, cyhoeddodd y byddai yna Fil a fyddai’n canolbwyntio ar ddemocratiaeth leol.

Heddiw, 17 Mai 2012, rwy’n cyhoeddi Papur Gwyn er mwyn casglu safbwyntiau ar y cynigion ar gyfer Bil Democratiaeth Leol (Cymru), ynghyd â chynigion eraill i wella democratiaeth leol.

Nod y Bil fydd ailgynllunio’r rheolau ar gyfer gweithrediad y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru a diwygio strwythurau a swyddogaethau’r Comisiwn. Bydd y newidiadau hyn yn mynd i’r afael ag argymhellion adolygiad Mathias o raglen y Comisiwn o adolygiadau etholiadol a gynhaliwyd yn 2010, fel y nodwyd yn fy natganiad dyddiedig 25 Ionawr 2012.

Mae’r Papur Gwyn hefyd yn gwneud cynigion ar gyfer:

  • gwella mynediad i wybodaeth am Gynghorau Tref a Chymuned;
  • gwella’r modd y caiff y fframwaith moesegol Llywodraeth Leol ei weithredu er mwyn gallu datrys mân gwynion yn fwy lleol, heb orfod mynd yn syth at swyddogaeth ymchwilio lawn yr Ombwdsmon;
  • gwneud y dull o reoli etholiadau yng Nghymru yn fwy effeithiol, o ran ei drefniadaeth a’r dull ariannu, yn ogystal ag annog cymaint o bleidleiswyr â phosibl i gofrestru;
  • cryfhau swyddogaeth graffu llywodraeth leol, er mwyn sicrhau ei fod yn cynnig atebolrwydd cyhoeddus cadarn ac yn sbarduno gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus yn lleol ac yn rhanbarthol;
  • sicrhau bod yr hyfforddiant a’r datblygiad a gynigir i gynghorwyr yn gwella, o ran eu gallu i arwain yn lleol a bod yn gynrychiolwyr cymunedol effeithiol wrth gyfranogi yn y broses ddemocrataidd leol.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 3 Awst 2012 a byddaf yn ystyried yr ymatebion wrth benderfynu ar ffurf derfynol y ddeddfwriaeth. Rwy’n disgwyl gallu cyflwyno’r Bil i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn hydref 2012.