Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Fel y dywedais yn fy natganiad ar 16 Mehefin, fy mlaenoriaeth fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yw codi lefelau dyheadau yng Nghymru ar gyfer plant a phobl ifanc, gan ehangu gorwelion a magu uchelgais er mwyn i bawb allu cyflawni.
Heddiw, rwyf yn lansio’n ffurfiol y rhan gyntaf o’r cwricwlwm newydd i gael ei rhyddhau; y Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Dyma garreg filltir bwysig ar ein taith at gwricwlwm newydd – cafodd y Fframwaith ei flaenoriaethu i ymateb i angen a bennwyd.
Mae Cymhwysedd Digidol yn sgil sylfaenol yn y byd modern, ac o hyn allan bydd yn un o dri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, ynghyd â llythrennedd a rhifedd. Ffocws y Fframwaith Cymhwysedd Digidol yw datblygu sgiliau digidol sy’n ddefnyddiol ym mywydau beunyddiol pobl ac yn y byd gwaith. Mae wedi’i ddylunio ar gyfer pob plentyn yng Nghymru. Mae’n datblygu sgiliau o’r camau cyntaf, gan gynnwys Llwybrau Dysgu, ac yn rhoi digon o her i’n pobl ifanc mwy abl a thalentog.
Caiff adnoddau dysgu eu cyhoeddi drwy gydol tymor yr hydref a thu hwnt.
Fe barhawn i gydweithio’n agos â’r proffesiwn i bennu pa fath o gymorth sydd ei angen ac i ddatblygu’r cymorth hwnnw er mwyn i athrawon ac ymarferwyr allu defnyddio’r Fframwaith yn hyderus. Caiff cynnig dysgu proffesiynol ei roi ar waith er mwyn diwallu’r anghenion a bennir.
Bydd y Fframwaith yn golygu bod Cymru’n arwain y byd o ran cynnwys sgiliau digidol ym mhob rhan o’r cwricwlwm. Mae’r Fframwaith, canllawiau cysylltiedig, a dogfennau ategol i’w cael yma:
http://learning.gov.wales/resources/browse-all/digital-competence-framework/?skip=1&lang=cy