Lynne Neagle AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Heddiw, mae’n bleser gennyf gyhoeddi lansio’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Darparu Gofal mewn Profedigaeth yng Nghymru. Mae’n disgrifio sut y gallwn ni yng Nghymru ymateb i anghenion y rheini sy’n mynd drwy brofedigaeth, neu sydd wedi mynd drwy brofedigaeth.
Gallwn ddiffinio profedigaeth fel y tristwch yr ydych yn ei deimlo, neu’r cyflwr yr ydych ynddo, o ganlyniad i farwolaeth perthynas neu gyfaill agos. Mae profedigaeth yn gallu peryglu iechyd meddwl, a hefyd dod â pheryglon sy’n gysylltiedig â morbidrwydd, afiechedd, a marwolaeth, a gallai gwasanaethau sy’n rhoi cymorth mewn profedigaeth fod yn hanfodol er mwyn rheoli’r peryglon hyn. Gall cymorth mewn profedigaeth hefyd lleihau effeithiau emosiynol, corfforol, a meddyliol galar.
Mae ein fframwaith profedigaeth yn ceisio helpu comisiynwyr a darparwyr i ddeall eu cyfrifoldebau i sicrhau bod y boblogaeth leol yn gallu cael mynediad teg ac amserol at ofal a chymorth mewn profedigaeth. Mae’n cynnwys set o safonau profedigaeth, gan gynnig cymorth cyffredinol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth gynllunio, comisiynu, a darparu gofal profedigaeth.
Mae amrywiaeth eang o bartneriaid statudol a gwirfoddol wedi cyfrannu at y gwaith o’u datblygu, gan gynnwys cyfraniad gan y rheini sydd wedi cael profedigaeth eu hunain. Cynhaliwyd ymgynghoriad 8 wythnos ar y fframwaith yn gynharach eleni, a daeth 65 o ymatebion i law. Mae crynodeb ohonynt yn yr adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r fframwaith.
Er mwyn cefnogi’r gwaith o weithredu’r fframwaith, rydym wedi sefydlu grant cymorth profedigaeth gwerth £1m ar gyfer ein partneriaid yn y trydydd sector. Bydd angen i sefydliadau sy’n gwneud cais am y grant ddangos eu bod yn ychwanegu gwerth at y cymorth profedigaeth a ddarperir ar hyn o bryd ar draws Cymru, a’u bod yn rhoi sylw i fylchau sydd wedi eu nodi yn y gwasanaethau perthnasol.
Hefyd, byddwn yn neilltuo £420k ychwanegol ar gyfer byrddau iechyd yn 2022-23 a 2023-24 i helpu gyda’r gwaith cydgysylltu mewn perthynas â phrofedigaeth a gweithredu’r safonau gofal mewn profedigaeth.
Bydd y Grŵp Llywio Cenedlaethol ar gyfer Profedigaeth yn gweithio gyda byrddau iechyd, awdurdodau lleol, byrddau partneriaeth rhanbarthol, a’r trydydd sector i sicrhau bod y fframwaith profedigaeth cenedlaethol yn cael ei weithredu fel mater o frys, gyda chymorth elfennau galluogi allweddol megis seilwaith digidol a gweithlu sydd â’r sgiliau priodol. Bydd system monitro a gwerthuso drylwyr ar waith i sicrhau bod y fframwaith a’r cyllid ychwanegol a amlinellir uchod yn gwireddu’r manteision a ddisgwylir i bobl Cymru.
Ein gweledigaeth yw sicrhau bod Cymru yn wlad garedig lle mae gan bawb fynediad teg at ofal a chymorth o ansawdd uchel pan fônt yn mynd drwy brofedigaeth, er mwyn ymateb i’w hanghenion yn effeithiol.
https://llyw.cymru/fframwaith-cenedlaethol-ar-gyfer-darparu-gofal-mewn-profedigaeth