Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Heddiw, rwy’n cyhoeddi’r ddogfen ymgynghori derfynol ar Raglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020.
Y Rhaglen Datblygu Gwledig (RhDG) yw ail Golofn y Polisi Amaethyddol Cyffredin. Bydd y RhDG newydd yn sefydlu dulliau mwy cydlynol a rhagweithiol o reoli ein hadnoddau naturiol er mwyn creu cyfleoedd i economi, cymunedau ac amgylchedd Cymru elwa. Rhaid i’r RhDG newydd gefnogi a chynnal y buddsoddiad mewn busnesau ffermio a’r economi wledig ehangach. Drwy ein rhaglenni, byddwn yn rhoi sylw i’r tlodi sy’n broblem wirioneddol yng nghefn gwlad er mwyn sicrhau bod ffabrig ein cymdeithas wledig yn dod yn fwy cadarn a chynaliadwy.
Ar ôl i mi sicrhau dosbarthiad teg o’r cyllid Ewropeaidd a ddyrennir i’r Deyrnas Unedig, bydd Cymru’n cael cynnydd o 7.8% o gymharu â chyfnod y Cynllun Datblygu Gwledig presennol, sef 2007-2013. Â chydariannu uwchlaw’r lefel sy’n ofynnol gan y Rheoliadau, cyfanswm cyllideb ragamcanol y RhDG fydd £953m dros gyfnod y rhaglen.
Byddwn yn buddsoddi i sicrhau bod cymunedau a busnesau ledled Cymru’n gallu goresgyn yr heriau a wynebant. Byddwn yn hyrwyddo cystadleurwydd ac yn creu swyddi cynaliadwy a thwf i bobl sy’n byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad.
Mae’r cynigion terfynol ar gyfer y Rhaglen Datblygu Gwledig yn cynnwys y canlynol:
- Ffocws pendant at ddarparu pecyn cymorth holistig i fusnesau ffermio a choedwigaeth
- Arallgyfeirio i weithgareddau anamaethyddol fel egni adnewyddadwy ac ymchwilio i’r marchnadoedd ar gyfer Nwyddau a Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn cynnig ffrydiau incwm eraill i fusnesau amaethyddol
- Rhagor o bwyslais ar drosglwyddo gwybdoaeth a chyfnewid gwybodaeth am arferion gorau
- Rhagor o bwyslais ar defnydd effeithlon ar adnoddau, twf busnes, trechu tlodi tanwydd yng nghefn gwlad a chynhyrchu incwm hirdymor i gymunedau gwledig
- Canolbwyntio’n benodol ar sectorau allweddol megis ffermwyr ifanc a newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant a ffermwyr yr ucheldiroedd
- Cymorth buddsoddi sylweddol, wedi’i seilio ar gynllunio busnes priodol
- Newid cynllun Glastir i’w wneud yn fwy hyblyg er mwyn cynnwys cynllun ar gyfer troi at ffermio organig a chynnal organig
- Rhagor o bwyslais ar reoli coetiroedd a chreu coetiroedd
- Hyrwyddo defnydd o’r dechnoleg ddiweddaraf yn y cadwyni ffermio a bwyd ac wrth brosesu a marchnata cynnyrch amaethyddol a choedwigaeth
- Rhoi pwyslais cryf ar arloesi, cydweithredu a rhwydweithio ar draws pob elfen o gymorth y RhDG
- Lliniaru effeithiau tywydd garw a chlefydau planhigion ac anifeiliaid
- Taclo’r ffordd y mae tlodi’n effeithio ar fywydau pobl trwy weithio i leihau tlodi bwyd a thlodi tanwydd, mynd i’r afael ag ansawdd yr amgylchedd lleol a hyrwyddo twf economaidd cynaliadwy gan cynnwys pwyslais ar egni adnewyddadwy
Mae’r Ymgynghoriad yn cynnig cydbwyso’r cyllid rhwng yr amrywiol flaenoriaethau, gan gynnwys 60% i fesurau seiliedig ar natur y tir, 11% i fesurau Cyfalaf Dynol a Chymdeithasol, 15% i Fuddsoddi a 10% i LEADER a Datblygu Lleol. Bydd y 4% sy’n weddill yn mynd i’r Mesurau Cymorth Technegol sy’n darparu swyddogaethau cymorth angenrheidiol y rhaglen.
Drwy’r Rhaglen Datblygu Gwledig hon, bydd Llywodraeth Cymru’n neilltuo bron i £1biliwn er mwyn canolbwynio ar y materion sy’n wynebu cefn gwlad Cymru ac, yn bwysicaf oll, manteisio ar y cyfleoedd. Sicrhau Twf Gwyrdd yw’r nod, i helpu’r genhedlaeth hon a gwella’r rhagolygon i genedlaethau’r dyfodol. Y bwriad hefyd yw cefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach ar draws yr economi wledig er mwyn cynnal twf hirdymor cynaliadwy.
Byddwn yn adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio’n dda eisoes; yn mireinio ac yn gwella i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl ac yn cefnogi dulliau gweithredu newydd ac arloesol ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn yn helpu i drawsnewid cefn gwlad Cymru, gydag ymrwymiad i ddefnyddio pob arf sydd ar gael i drechu tlodi economaidd ein cymunedau gwledig a thlodi o bob math fel bod y bobl sy’n byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad yn cael cyfleoedd a rhagolygon gwell.
Bydd y cyfnod ymgynghori’n parhau am wyth wythnos, gan ddod i ben ar 14 Ebrill. Rwy’n disgwyl llawer iawn o ddiddordeb yn y cynigion ar gyfer y Rhaglen Datblygu Gwledig nesaf ac rwyf am inni ddal ati i drafod, yn frwd ac yn fanwl, y gweithgareddau allweddol hyn i gefnogi datblygu gwledig.