Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy'n cyhoeddi Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ynglŷn ag ymdrin â cham-drin plant yn rhywiol ac yn lansio ymgynghoriad ar y canllawiau statudol i ddiogelu plant rhag camfanteisio rhywiol.

Nododd Rhan 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fframwaith cyfreithiol newydd i gryfhau trefniadau diogelu fel y gellir amddiffyn pobl sydd mewn perygl yn fwy effeithiol. Bu llawer o gynnydd ers cyflwyno'r Ddeddf, gyda'r byrddau diogelu rhanbarthol a'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn cymell arweinyddiaeth a gwelliannau mewn diogelu.

Ond, nodaf yn glir na allwn fod yn hunanfodlon. Mae'n rhaid i'r gwaith o fynd i'r afael â chamdriniaeth a niwed i blant ac oedolion fod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru a'n partneriaid. Mae ein hymrwymiad i ddarparu'r polisi hwn wedi'i lywio gan waith pwysig y Grŵp Trawsbleidiol ar Rwystro Plant rhag cael eu Cam-drin yn Rhywiol a thystiolaeth yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA). Yn bwysicaf oll, rydym wedi ystyried tystiolaeth gan y plant eu hunain a'r goroeswyr sydd bellach yn oedolion.

Yn ganolog i'r polisi hwn mae ymrwymiad i hyrwyddo sefyllfa lle mae plant Cymru yn teimlo eu bod yn cael gwrandawiad, yn manteisio o arferion sy'n canolbwyntio ar y plentyn, ac y gwireddir eu hawl i fod yn ddiogel. Fe all camdriniaeth rywiol gael effaith ddifrodus ar blentyndod, a bywyd cyfan unigolyn. Mae'n rhaid i ni gydweithio i wneud popeth y gallwn i atal cam-drin plant yn rhywiol, i amddiffyn plant mewn perygl a chefnogi plant i wella o'r niwed sylweddol y mae camdriniaeth rywiol yn ei achosi.