Julie Morgan MS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae’r ymgyrch Magu plant. Rhowch amser iddo wedi’i lunio i gefnogi rhieni. Mae'n canolbwyntio ar rianta cadarnhaol ac ymyrraeth gynnar i deuluoedd â phlant o dan 7 oed ac mae’n rhoi awgrymiadau, gwybodaeth a chyngor ar bryderon cyffredin yn ymwneud â magu plant ac yn cyfeirio at ffynonellau cymorth pellach.
Mae pandemig Covid 19 wedi creu pwysau a heriau newydd i rieni yng Nghymru, gan gynnwys treulio mwy o amser gartref; y pwysau o addysgu gartref, yn aml gan weithio ar yr un pryd; gweithio gartref a gofalu am blant ar yr un pryd; ynghyd â’r risg o bryder ac unigedd.
Roedd angen addasu Rhianta. Rhowch amser iddo er mwyn darparu'r wybodaeth a'r cyngor sydd eu hangen ar rieni nawr yng ngoleuni'r heriau hyn, ynghyd â chymorth ar ddulliau eraill o ddisgyblu yn hytrach na chosb gorfforol wrth i ni baratoi am y newid i’r gyfraith ym mis Mawrth 2022 i roi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol.
O fis Mai, dechreuodd Magu Plant. Rhowch amser iddo ddarparu cyngor o dan bedair thema newydd – Ymddygiad plant; Rhowch amser iddyn nhw; Eich lles chi; a Heriau. Enw’r ymgyrch oedd Cadw’n Ddiogel. Cadw’n Bositif. Datblygwyd adnoddau gwybodaeth newydd gydag arbenigwyr rhianta, gan gynnwys awgrymiadau gwych i rieni plant ifanc i helpu gyda materion fel gofid gwahanu wrth i nifer o blant ddychwelyd i ofal plant a'r ysgol ar ôl treulio cyfnod estynedig gartref. Darparwyd cyllid hefyd i sicrhau bod llinell gymorth rhianta sefydledig yn gallu rhoi cymorth dwyieithog i rieni.
Heddiw, rwy’n lansio ymgyrch newydd Magu Plant. Rhowch amser iddo sydd yn adeiladu ar lwyddiant dull thematig o drosglwyddo negeseuon ar fagu plant, a bydd yn cyfeirio rhieni at adnoddau, gwybodaeth a chymorth o dan dair thema - Ymddygiad plant; Rhowch amser iddynt; Eich cefnogi chi.
Yn ôl ein hymchwil ni, mae rhieni wedi bod yn chwilio am gyngor yn ystod y pandemig ar reoli ymddygiad plant drwy’r cyfnod eithriadol hwn. Mae'r thema gyntaf yn trafod beth all rhieni ei wneud i ddeall ac ymateb yn gadarnhaol i ymddygiad eu plant. Mae'r ail thema – Rhowch amser iddynt – yn tanlinellu pa mor effeithiol yw’r strategaeth syml o roi amser i'ch plentyn, ac mae'r drydedd thema, sef Eich cefnogi chi, yn canolbwyntio ar fathau eraill o gymorth sy’n ddefnyddiol i rieni.
Mae’r wefan Magu Plant. Rhowch amser iddo hefyd wedi'i hailgynllunio i adlewyrchu'r dull newydd.
Byddwn yn parhau i ddatblygu ein hadnoddau dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi lansiad yr ymgyrch newydd hon a fydd yn para tan ddiwedd mis Mawrth 2021.