Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am yr adolygiad polisi yr wyf yn ei gynnal i ddulliau o weithredu ym maes adfywio a hoffwn, yn benodol, dynnu'ch sylw at y ffaith bod y ddogfen 'Lleoedd Llewyrchus, Llawn Addewid: Fframwaith Adfywio Newydd' wedi'i chyhoeddi heddiw at ddibenion ymgynghori.

Mae ein polisïau adfywio yn cwmpasu amryw o weithgareddau integredig. Eu nod yw gwrthdroi dirywiad economaidd, cymdeithasol a ffisegol er mwyn sicrhau gwelliant parhaol mewn ardaloedd lle na fydd grymoedd y farchnad yn ddigon i wneud hynny heb ryw gymaint o gymorth oddi wrth y llywodraeth. 

Mae fy mhortffolio adfywio yn cyfrannu at yr holl amcanion sydd yn ein Rhaglen Lywodraethu. Fel Cabinet, mae pob un ohonom yn cydnabod bod gan raglenni adfywio wedi'u targedu botensial i gyflawni amrywiaeth eang o ganlyniadau'r Rhaglen Lywodraethu. Rydym hefyd yn cydnabod bod adfywio llwyddiannus yn dibynnu ar sicrhau perthynas agos rhwng y rhaglenni prif ffrwd ar draws portffolios.

Yn gynharach eleni, dechreuais adolygiad polisi o'r modd yr ydym yn mynd ati i adfywio. Arweiniwyd yr adolygiad gan fy swyddogion, ac rwyf yn ddiolchgar hefyd am y cymorth a gefais gan adrannau fy nghydweithwyr yn y Cabinet, gan Ganolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru, y Panel Adfywio Cenedlaethol a'r ymgynghorwyr arbenigol a wnaeth rywfaint o werthuso annibynnol ar ein gwaith yn y maes hwn. Bu'r gwaith a wnaeth Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ei ymchwiliad o adfywio canol trefi hefyd o fudd i ni yn hyn o beth.

Dylai pawb yng Nghymru fyw mewn cymunedau llewyrchus, cynaliadwy, llawn addewid, sydd ag economi leol gref – dyna’n gweledigaeth. Wrth i ni fynd ati i wireddu'r weledigaeth honno, rwyf yn llwyr ymwybodol o'r amgylchiadau economaidd sydd ohoni. Mae cyllidebau'n dynn ar draws y sector cyhoeddus a thu hwnt, ac mae canol trefi yn newid o ran y ffordd y mae pobl yn siopa ac yn defnyddio gwasanaethau eraill. Mae hyn oll yn her aruthrol o ran mynd ati i roi adfywio ar waith yng Nghymru ac o ran y modd y gwnaed hynny hyd yma. Rhaid i’n cynigion ar gyfer sicrhau newid er gwell adlewyrchu'r heriau newydd hyn a rhaid iddynt hefyd gynnig ffordd effeithiol o fynd i'r afael â nhw mewn cymunedau ledled Cymru. 

Hanfod adfywio yw gweddnewid lleoedd sy'n tangyflawni, a sicrhau twf economaidd sy'n gynhwysol ac yn gynaliadwy ac sydd â ffocws penodol. Mae maint yr her honno yn pwysleisio bod angen i ni weithio gyda'n gilydd ar draws y Llywodraeth a chydweithredu â'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector, ynghyd â’r sector preifat, i gefnogi arloesi ac i rannu arferion da.   

Tair prif neges yr adolygiad oedd:

  • Mae angen cryfhau'r llywodraethu i wella'r cyflawni. Yn benodol, mae cyfle i yrru cydweithredu rhanbarthol yn ei flaen mewn ffordd fwy strwythuredig, gan gynnwys mynd ati'n effeithiol i gynllunio'n ofodol ar gyfer adfywio.
  • Rhaid wrth bartneriaeth. Dim ond drwy wir ymwneud â chymunedau, awdurdodau lleol a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, y trydydd sector a'r sector preifat y gellir cyflawni adfywio cynaliadwy.
  • Mae dull yr Ardaloedd Adfywio yn gweddnewid rhai o'n lleoedd mwyaf difreintiedig, ond mae cyfle o hyd i wella'r ffordd yr ydym yn buddsoddi ar lefel leol.

Eir ati yn y ddogfen ymgynghori yr wyf yn ei chyhoeddi heddiw i ddisgrifio'r cynigion sydd gennym er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn. Yn y ddogfen hon ceir gweledigaeth, diffiniad a chanlyniadau cenedlaethol ar gyfer adfywio, sy'n ategu'r holl weithgarwch y mae angen ei ystyried a'r angen am bartneriaeth ar draws y Llywodraeth a thu hwnt.

Mae ein cynigion ymgynghori yn cynnwys:

  • Canlyniadau cenedlaethol newydd.
  • Dull o weithredu sy'n seiliedig ar bobl ac ar leoedd, a hwnnw yn seiliedig ar dystiolaeth gref ac wedi'i werthuso'n dda.
  • Strwythur cryfach er mwyn cyflawni'n genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol.
  • Ymrwymiad o'r newydd i weithio ar draws portffolios o fewn y Llywodraeth.
  • Syniadau ynghylch sut i ddefnyddio buddsoddiad wedi'i dargedu.

Rwyf yn credu y gallwn gyflawni hyd yn oed mwy drwy weithio gyda’n gilydd, er bod ein hadnoddau'n brin. Rwyf yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid o bob sector ac ym mhob rhan o Gymru er mwyn cyflawni hyn. Y cam cyntaf yw gwneud yn siŵr bod gennym fframwaith cadarn ar gyfer cydweithredu a chyflawni, a bod pob partner yn cytuno ag ef. Dyma pam rwyf yn mynd ati i ymgynghori.

Cynhelir dadl gan y Llywodraeth yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Tachwedd i ni gael trafod y cynigion hyn yn fanwl. Yn y cyfamser, gobeithio y gwnewch chi gymryd rhan yn y broses ymgynghori ac y byddwch yn annog rhanddeiliad yn eich etholaethau i wneud hynny hefyd.