Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC – y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwyf wedi lansio ymgynghoriad deuddeg wythnos i ystyried sut y gallwn gynhyrchu cymaint â phosibl o gynnyrch amaethyddol yng Nghymru drwy ddiwygio deddfwriaeth tenantiaeth amaethyddol yng Nghymru.

Mae Tenantiaethau Amaethyddol yn chwarae rhan bwysig i lywio arferion ffermio yng Nghymru, gydag oddeutu 30% o gyfanswm y tir sy'n cael ei ffermio yn cael ei rentu o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986, Deddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 neu gytundebau anffurfiol neu drwyddedau pori.

Wrth inni agosáu at Brexit, mae'n hollbwysig bod elfennau o'r diwydiant ffermio yng Nghymru yn gallu ymdopi, yn gynhyrchiol, yn paratoi at y dyfodol ac yn gallu defnyddio tir newydd a chynlluniau rheoli.

Mae'r ymgynghoriad pwysig hwn yn rhedeg ar yr un pryd ag ymgynghoriad tebyg gan Defra ac yn cael ei lywio gan yr argymhellion sy'n cael eu datblygu gan y Grŵp Diwydiant Diwygio Tenantiaethau. Y nod ymarferol yw ystyried sut y gall ffermwyr gynyddu cynhyrchiant, a chynhyrchu cymaint â phosibl drwy foderneiddio arferion ffermio a dileu hen arferion neu arferion sy'n cyfyngu, a pa newidiadau fyddai angen eu gwneud i ddeddfwriaeth tenantiaeth amaethyddol i ganiatáu i hyn ddigwydd.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 2 Gorffennaf 2019. Rwy'n croesawu atebion i ganiatáu imi ystyried pa newidiadau, os o gwbl, sydd eu hangen i ganiatáu i sector amaethyddol Cymru a'r economi wledig ffynnu yn y dyfodol.