Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Byddaf yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus y Papur Gwyrdd ‘Cynnal Cymru Fyw’ yn Tata Steel, Port Talbot, am 10.00am ar 30 Ionawr 2012. Daw cyfnod yr ymgynghoriad i ben ar 31 Mai 2012.  

Mae ‘Cynnal Cymru Fyw’ yn ceisio safbwyntiau ar ffordd newydd o reoli a rheoleiddio’r amgylchedd yng Nghymru. Bydd mabwysiadu dull o reoli’n hadnoddau naturiol ar sail yr ecosystem yn golygu ystyried a rheoleiddio’r amgylchedd yn ei gyfanrwydd yn hytrach na delio ag agweddau unigol ar wahân. Mae hefyd yn ystyried y manteision a all ddod o reoli’r amgylchedd yn well – i bobl, swyddi ac iechyd nawr ac yn y dyfodol.