Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
Rwy'n lansio heddiw ymgynghoriad cyhoeddus 16 wythnos ar gyflwyno Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru (CMCC).
Fy ymrwymiad yw llunio ffordd gydgysylltiedig a chynaliadwy o gynllunio a rheoli'n harfordiroedd a'n moroedd a fydd yn ein helpu i wireddu'n gweledigaeth o fôr glân, iach, diogel, cynhyrchiol a bioamrywiol.
Er mai pwnc newydd yw cynllunio moroedd yn strategol, dechreuwyd cynllunio ar dir yn gynnar yn yr 20fed Ganrif ac mae'n bwnc sydd wedi datblygu'n fawr ers hynny. Dros amser, bydd cynllunio morol yn datblygu ac yn esblygu yn yr un modd wrth inni ddysgu o’i weithredu a monitro y system gynllunio newydd hon yn ogystal ac adrodd ar ei heffeithiolrwydd.
Mae datblygu’r Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru wedi bod yn broses heriol iawn i Lywodraeth Cymru ac hefyd i ystod eang o rhanddeiliaid sydd wedi cyd gweithio’n agos yn ei gynhyrchu. Rwyf yn hynod ddiolchgar i’r mewnbwn yr ydym wedi eu dderbyn o ganlyniad nifer o weithgareddau cyhoeddus a sesiynau galw heibio.
Mae'r cynllun yn cwmpasu nodweddion penodol ein moroedd, sy'n dri dimensiwn, yn eang ac yn wyllt eu natur. Cafodd ein Cynllun ni ei ddatblygu yr un pryd â chynlluniau morol yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a thu hwnt, a gwnaethom ddysgu o'u harferion da tra’n adeiladu ar bolisiau Cymraeg fwy eang a chyd-destun deddfwriaethol.
Mae’r cynllun integredig ynghyd a Datganiad Polisi'r DU ar y Môr, yn llywio'n penderfyniadau ar gynigion datblygu. Bydd y drefn gynllunio hon yn cefnogi ac yn gweithio law yn llaw â'r drefn trwyddedu morol a phrosesau caniatáu eraill.
Yng Nghymru mae twristiaeth, trafnidiaeth, ynni'r môr, pysgodfeydd, dyframaethu, telathrebu ac agregau a llawer o rai eraill yn hynod bwysig i'n heconomi morol. Mae'r Cynllun yn cefnogi'r diwydiannau hyn a'n cymunedau glan-môr, trwy ddarparu fframwaith ar gyfer eu galluogi i ddefnyddio adnoddau morol Cymru mewn ffordd gynaliadwy.
Bydd hyn yn ein helpu i wireddu'n huchelgais am 'Dwf Glas' yng Nghymru, tra’n sicrhau'n bod yn cynnal ac yn cyfoethogi nerth ein hecosystemau morol a sicrhau bod y manteision y maen nhw'n eu darparu yn cynnal cenedlaethau heddiw ac yfory.
Yr amcanion wnaeth llywio'n hymdrechion wrth ddatblygu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru oedd y gwnawn ni fwy trwy weithio gyda'n gilydd gyda rhanddeiliaid i gadw a gwarchod ein cymunedau morol, rhyfeddod ein harfordir, moroedd a bywyd gwyllt tra’n datblygu'n heconomi morol.
Croesawaf eich barn a barn eich etholwr ar y cynllun drafft hwn. Byddwn yn parhau i gynnal sesiynau cyhoeddus i drafod y cynllun yn ystod y cyfnod ymgynghori.
https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/cynllun-morol-cenedlaethol-cymru-drafft