Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod wedi lansio'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol drafft (“y Cod”) o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ("y Ddeddf").
Prif nod yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn ar y Cod drafft, y rheoliadau drafft sy'n ymwneud â Thribiwnlys Addysg Cymru a chydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r bwriad polisi ar gyfer nifer o reoliadau arfaethedig eraill sy'n ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol. Rydym hefyd yn gwahodd sylwadau ar ddiwygiadau arfaethedig i'r cod ar blant sy'n derbyn gofal o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Cod Ymarfer Rhan 6 - Plant sy'n Derbyn Gofal a Phlant sy'n cael eu Lletya)) a'r bwriad polisi ar gyfer y rheoliadau arfaethedig sy'n ymwneud ag addysg plant sy'n derbyn gofal, yn enwedig y plant hynny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae'r Cod drafft yn cynnwys canllawiau statudol y bydd yn rhaid i bersonau neu gyrff cyhoeddus roi ystyriaeth iddynt wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf. Mae'r Cod drafft hefyd yn cynnwys gofynion a fyddai'n cael eu gosod ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a chyrff llywodraethu sefydliadau addysg bellach yng Nghymru. Mae'r cynigion am reoliadau yn ymdrin ag amryw o faterion a fydd yn ffurfio rhan o'r system gyffredinol yng Nghymru ar gyfer diwallu anghenion dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae'r drafft hwn o'r Cod wedi cael ei ddatblygu'n sylweddol ers y fersiynau blaenorol ac rwy'n ddiolchgar am gymorth ystod eang o randdeiliaid sydd wedi cyfrannu at ddatblygu'r Cod drwy gydweithio a chyd-gynhyrchu.
Nod y Ddeddf, y Cod terfynol a'r rheoliadau yw gweddnewid y system ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc 0-25 oed yng Nghymru sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Bwriad y pecyn hwn o gynigion yw cefnogi tri amcan cyffredinol y Ddeddf, sef:
- creu un fframwaith deddfwriaethol sy'n cefnogi pob plentyn o oed ysgol gorfodol neu’n iau sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), a phobl ifanc sydd ag ADY ac yn yr ysgol neu mewn addysg bellach;
- proses integredig a chydweithredol o asesu, cynllunio a monitro sy'n hwyluso ymyriadau cynnar, amserol ac effeithiol;
- system deg a thryloyw ar gyfer rhoi cyngor a gwybodaeth, a datrys pryderon ac apeliadau.
Mae'r amcanion hyn, yn eu tro yn ffurfio rhan greiddiol o Cenhadaeth ein Cenedl ar gyfer addysg yng Nghymru.
Bydd y Cod statudol yn rhan hanfodol o'n Rhaglen i Drawsnewid y System ADY. Ein nod yw cyflwyno Cod sy'n hwylus i’w ddefnyddio ac sy’n glir i'r rheini y mae rhaid iddynt roi ystyriaeth i'r canllawiau statudol a chydymffurfio ag unrhyw ofynion gorfodol sydd ynddo. Rwyf am gyflwyno Cod sy'n galluogi ein partneriaid i ddeall eu rolau a'u cyfrifoldebau fel eu bod yn gallu sicrhau'r canlyniadau gorau ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Drwy wneud hynny, bydd y system ADY newydd yn help i drawsnewid disgwyliadau, profiadau a chanlyniadau i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae'r ddogfen ymgynghori ar gael ar https://beta.llyw.cymru/cod-anghenion-dysgu-ychwanegol-drafft a bydd gofyn am ymateb cyn y dyddiad cau, sef 22 Mawrth 2019. Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb yn y diwygiadau, yn enwedig plant a phobl ifanc i roi eu barn. Rwy'n croesawu hynny, a bydd dogfen ymgynghori ar wahân ar gael i blant a phobl ifanc yn fuan wedi'r flwyddyn newydd. Byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i randdeiliaid ledled Cymru yn y flwyddyn newydd, yn ogystal â gweithdai penodol i blant a'u teuluoedd, er mwyn iddynt gael dweud eu dweud am y cynigion hyn.
Rwy'n edrych ymlaen at gael cydweithio â’n holl randdeiliaid dros y misoedd nesaf wrth i ni ddal ati i lunio a chyflwyno'r rhaglen drawsnewid bwysig hon. Gyda'n gilydd, gallwn gyflwyno system sy'n rhoi cymorth gwirioneddol i blant a phobl ifanc ag ADY yng Nghymru i oresgyn rhwystrau i ddysgu a chyrraedd eu potensial llawn.