Neidio i'r prif gynnwy

Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 26 Hydref cyhoeddodd Canolfan Hedley y Swyddfa Dywydd y fersiwn ddiweddaraf o Ragolygon yr Hinsawdd y DU (UKCP18).  Mae'r rhagolygon yn tynnu sylw at effeithiau'r newid yn yr hinsawdd y dylem oll ddisgwyl eu gweld yn ystod y degawdau nesaf, gan gynnwys hafau poethach, gaeafau gwlypach a chynnydd pellach yn lefel y môr. Hoffai Llywodraeth Cymru ddiolch i'r Swyddfa Dywydd am eu gwaith sylweddol a blaengar. 

Bydd UKCP18 yn helpu i lywio datblygiad yr Asesiad nesaf o Risgiau Newid Hinsawdd (CCRA), sef dogfen statudol a gaiff ei llunio gan Defra sy'n helpu llywodraethau i ddeall y peryglon a'r cyfleoedd sydd ynghlwm wrth y newid yn yr hinsawdd ac i sefydlu polisïau er mwyn addasu i'r effeithiau hynny. Wrth gyfrannu at y CCRA diwethaf a gyhoeddwyd ar ddechrau 2017 gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymo i gyhoeddi Cynllun Ymaddasu i Newid Hinsawdd newydd ar gyfer Cymru. 

Mae'n bleser gen i gyhoeddi heddiw ein fersiwn ddrafft o Gynllun Ymaddasu i Newid Hinsawdd Cymru, at ddiben ymgynghori â'r cyhoedd. 

https://beta.llyw.cymru/cynllun-ymaddasu-cymru-i-newid-yn-yr-hinsawdd

Mae'r cynllun yn amlinellu fframwaith ynghyd â 32 o gamau gweithredu a fydd yn helpu i sicrhau bod Cymru'n datblygu'n wlad ffyniannus a all ymdopi ag effeithiau'r newid yn yr hinsawdd. Mae'r cynllun hefyd yn cydnabod pwysigrwydd UKCP18 ac yn cynnwys camau ar gyfer defnyddio'r data hyn at ddibenion ymchwil a chyfarwyddyd dros y pum mlynedd nesaf. 

Croesawaf eich sylwadau ynghylch y fersiwn ddrafft o'r cynllun, a fydd yn sail i'r ddogfen derfynol a gaiff ei chyhoeddi yn ystod gwanwyn 2019. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 4 Mawrth 2019.