Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mehefin 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Tachwedd 2014 fe ymatebais i ddadl yn y Cyfarfod Llawn ynghylch cefnogaeth ar gyfer cymuned y bobl drawsrywiol.

Fel y Gweinidog Cydraddoldeb, rwy’n ymrwymedig i gydlynu camau gweithredu ar draws Llywodraeth Cymru i ymdrin ag anghydraddoldeb ar gyfer pobl drawsrywiol a gofynnais i’m swyddogion ddatblygu Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Pobl Drawsrywiol.

Rwy'n gwybod bod angen gwneud gwaith i gael gwared ar y rhwystrau sy'n wynebu llawer o bobl drawsrywiol.  Mae swyddogion wedi ymgysylltu â chynrychiolwyr grwpiau o bobl drawsrywiol yng Nghymru i ddeall y rhwystrau hyn a’r camau gweithredu sy’n bwysig iddyn nhw. Mae’r trafodaethau hyn wedi helpu i ffurfio rhai o’r argymhellion y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno. Hoffwn yn awr fynd â hyn ymhellach a chlywed barn cymaint o bobl â phosibl.

Bydd ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Pobl Drawsrywiol yn gyfrwng i nodi ac ymdrin â'r rhwystrau hyn a bydd yn sbarduno camau ar draws llywodraeth i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.

Heddiw, rwy'n lansio dogfen ymgynghori yn gofyn barn ynghylch y camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i hybu cydraddoldeb ymysg pobl drawsrywiol ymhellach yng Nghymru. Rwy'n awyddus iawn i glywed barn ein rhanddeiliaid a byddwn yn annog sefydliadau ac unigolion trawsrywiol i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn i lywio ein dealltwriaeth o'r materion sy'n effeithio ar bobl drawsrywiol o ddydd i ddydd ac i ddylanwadu ar y Cynllun Gweithredu a’i lunio.

Mae'r ddogfen ymgynghori yn rhoi mwy o fanylion am ein cynigion a sut i ymateb a gellir ei gweld ar wefan Llywodraeth Cymru. Bydd yr ymgynghoriad yn para am 12 wythnos tan 11 Medi 2015.