Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mai 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yfory, rwy’n lansio ymgynghoriad ar ein cynigion ar gyfer Bil Datblygu Cynaliadwy.  Mae’r ymrwymiad i gyflwyno’r Bil yn rhan allweddol o’n Rhaglen Lywodraethu, sy’n esbonio sut y byddwn yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl Cymru dros y pum mlynedd nesaf.  Mae’r tymor hir a bod yn gynaliadwy yn ganolog i’r Rhaglen honno.  Y ddeddfwriaeth hon yw’n cyfrwng ni i ymrwymo’n hunain a chyrff eraill sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus i raglen gynaliadwy a thymor hir.

Rwyf felly yn ymgynghori ar gynigion i wireddu’n hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i:

  • Ddeddfu i wneud datblygu cynaliadwy yn brif egwyddor drefniadol i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus yng Nghymru; ac i
  • Greu corff datblygu cynaliadwy annibynnol i Gymru.

Mae penaethiaid llywodraethau’r byd yn cwrdd yn Rio yn ddiweddarach eleni i ystyried pwysigrwydd datblygu cynaliadwy.  Mae’n bwysig yn ein barn ni bod gwlad fach fel Cymru’n dangos arweiniad ac ymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy fel rhan o’r ymdrech fyd-eang.

Mae ein cynigion ymgynghori ar gyfer Bil Datblygu Cynaliadwy yn bethau gwahanol i’r ddyletswydd datblygu cynaliadwy a roddwyd arnom o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.  Mae’r holl bleidiau yn cefnogi’r ddyletswydd hon.  O dan y ddyletswydd hon y cyhoeddon ni ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy cyfredol, Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned.  Mae’r cynllun yn disgrifio’n gweledigaeth tymor hir ar gyfer Cymru gynaliadwy.

Mae’r cynigion rydym yn eu gosod allan yn yr ymgynghoriad hwn yn deillio o’r ymrwymiad cryf sydd wastad wedi bod gennym i wneud Cymru’n wlad gynaliadwy.  Rydym am weld cymunedau sy’n lleoedd diogel, cynaliadwy a deniadol i bobl fyw a gweithio ynddyn nhw, lle mae pobl yn cael at wasanaethau a’u hiechyd yn dda.  Rydym am weld Cymru deg, cyfiawn a dwyieithog, lle caiff dinasyddion o bob oed a chefndir eu grymuso i benderfynu ar natur eu bywydau eu hunain, i lywio eu cymunedau ac i wireddu eu potensial llawn.  Rydym am economi flaengar, llwyddiannus a chryf sy’n defnyddio adnoddau’n effeithiol ac sy’n cefnogi dyheadau’n pobl.  Rydym yn cydnabod bod gwerth hanfodol i’r amgylchedd, mai’r amgylchedd yw’r system sy’n cynnal ein bywydau a’i fod yn ganolog i ansawdd ein bywyd, ein hymdeimlad o le, ein hiechyd a’n lles.

Rydym am i bob corff a sefydliad brysuro’r newid o blaid datblygu cynaliadwy, gan fynnu’r gorau o’n hadnoddau cyfyngedig a sicrhau’r canlyniadau gorau ar ran pobl Cymru. Dyma pam rydym am ddeddfu nawr, i ymrwymo Llywodraeth a sefydliadau datganoledig eraill sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus, ar lefel leol a chenedlaethol i’r daith.  Rydym yn falch mai ein gweinyddiaeth ni sy’n manteisio ar y cyfle hwn i ymrwymo Llywodraeth Cymru i’r ddyletswydd hon.

Rwy’n hyderus y bydd ein cynigion ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yn ein helpu i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer Cymru gynaliadwy.

Bydd yr ymatebion a gawn i’r ymgynghoriad hwn yn dylanwadu ar Bapur Gwyn y Bil Datblygu Cynaliadwy.  Rwyf am ymgynghori ymhellach ar gynigion y Papur Gwyn yn Hydref 2012.  Byddaf yn gwneud datganiad arall i Aelodau’r Cynulliad ar yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn maes o law.