Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rwy’n lansio ymgynghoriad chwe wythnos ar ffurf a chylch gwaith Rhaglen Gyllido Cydraddoldeb a Chynhwysiant Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.  

Mae Cydraddoldeb a Hawliau Dynol bob amser wedi bod yn rhan ganolog o waith Llywodraeth Cymru a’n gweledigaeth i gael Cymru fwy cyfartal; gwlad sy’n sicrhau mynediad teg at wasanaethau, sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac yn ceisio canlyniadau mwy cyfartal i’n holl ddinasyddion, nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.  

Rhaid i ni ddal ati i gefnogi’r rhai sy’n parhau i wynebu’r perygl mwyaf o gael eu gwahaniaethu a’u trin yn annheg. Mae’r rhain yn cynnwys pobl anabl; cymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig; pobl sy’n Sipsiwn, Roma neu Deithwyr; ffoaduriaid a cheiswyr lloches; a phobl LGBT+; yn ogystal â’r rhai sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol.

Mae ein Cronfa Cydraddoldeb a Chynhwysiant, sydd â chyllideb flynyddol o £1.6 miliwn ar hyn o bryd, wedi bod wrth wraidd ein gwaith yn y maes hwn ers amser maith. Mae’n rhoi cymorth i sefydliadau cynrychiadol sydd ag arbenigedd mewn agweddau ar gydraddoldeb a chynhwysiant a thrwyddynt. Ar yr un pryd, rydym wedi cefnogi gwasanaethau penodol a ddarperir i rai grwpiau allweddol. Rydym yn bwriadu parhau i wneud hynny, ond nid yw aros yn ein hunfan yn ddigon.

Rhaid i ni archwilio’n gyson a yw’r dull hwn yn gweithio ai peidio, ac a oes angen i ni wneud pethau’n wahanol ai peidio. Rwy’n arbennig o awyddus i edrych ar opsiynau i sicrhau rhagor o gydweithio rhwng sefydliadau cydraddoldeb cynrychiadol yng Nghymru. Bydd hyn yn sicrhau’r budd gorau i bawb sydd dan anfantais neu’n cael eu gwahaniaethu, ac yn dangos bod cydraddoldeb i bawb.

Rydym wedi sylwi yn fwy a mwy y gall gwahanol agweddau ar anghydraddoldeb, fel hiliaeth, a thlodi, gyfuno i greu canlyniadau hyd yn oed yn waeth i rai pobl a chymunedau. Mae’r effeithiau rhyngblethol hyn yn achosi llawer o bryder ac mae’n hanfodol ein bod yn defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael i fynd i’r afael â’r materion ar y cyd, i sicrhau’r effaith gyffredinol fwyaf a’r canlyniadau gorau posibl.

Mae angen i’n sefydliadau cydraddoldeb, unigolion a chymunedau ddweud wrthym ni beth sydd angen ei newid. Mae’r materion hyn yn effeithio arnom i gyd, felly dywedwch wrthym sut ydych yn credu y gall y cyllid hwn gael ei ddefnyddio orau yn y dyfodol. Rydym yn croesawu ymatebion mewn nifer o fformatau gwahanol.

Gallwch ddod o hyd i’r dogfennau ymgynghori, gan gynnwys fersiynau Cymraeg, Hawdd ei Ddeall ac Iaith Arwyddion Prydain drwy’r ddolen hon: 

Dyfodol y Rhaglen Gyllido Cydraddoldeb a Chynhwysiant

Mae fformatau eraill ar gael hefyd ar gais. 

Rwy’n annog pawb sydd â diddordeb mewn hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol i ystyried y cynigion hyn yn ofalus ac ymateb i’r ymgynghoriad hwn.